Gan Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru - Dirnadaeth, Polisi A Materion Cyhoeddus
Sut ydych chi'n rhoi pris ar ansawdd bywyd? Beth yw gwerth chwaraeon? Dyma’r math o gwestiynau y mae astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad newydd o chwaraeon yng Nghymru yn helpu i’w hateb.
Yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru a’i chynnal yn annibynnol gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon, sefydliad blaenllaw ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, yw’r ail astudiaeth SRoI sydd wedi’i chynnal ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, a chynhyrchwyd y fersiwn blaenorol yn 2016/17.
Mae rhai newidiadau i’r fethodoleg rhwng yr astudiaethau, yn fwyaf nodedig drwy ddefnyddio canllaw 150 munud o weithgarwch y Prif Swyddog Meddygol fel y mesur sylfaenol yn yr adroddiad newydd hwn, yn ogystal â chynnwys setiau data newydd ynghylch iselder, poen cefn ac anafiadau sy’n gysylltiedig â chwaraeon.
Prif ffigurau
Y prif ffigwr yw bod chwaraeon yn cyfrannu swm syfrdanol o £5.89bn mewn gwerth cymdeithasol i Gymru. Daw hyn drwy ystod o feysydd gan gynnwys iechyd, lles goddrychol, cyfalaf cymdeithasol a gwirfoddoli. Pan rydym yn mesur hynny yn erbyn y £1.35bn mewn mewnbynnau, cawn elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o 4.44. Neu i’w roi mewn ffordd arall, am bob £1 sy’n cael ei buddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru, ceir elw o £4.44.