Skip to main content

ArolwgTraciwr Gweithgareddau Cymru 10 - Hydref 2023

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. ArolwgTraciwr Gweithgareddau Cymru 10 - Hydref 2023

Methodoleg: Cyfwelodd Savanta 1,027 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 27ain Hydref a 31ain Hydref 2023. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae data'r wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol. 

Crynodeb gweithredol 

  • Mae ychydig llai na hanner (48%) yr oedolion yng Nghymru yn gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos, sy'n gyson â mis Ebrill a mis Awst 23. Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (24%) wedi aros yn uwch hefyd na mis Chwefror 23 (19%).
  • Y gweithgaredd mwyaf cyffredin a wneir gan oedolion yng Nghymru o hyd yw cerdded ar gyfer hamdden (62%), tra bo cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi bod yn loncian yn uwch na mis Ebrill 23 (20% o gymharu â 17%).
  • Er bod cyfran yr oedolion yng Nghymru nad ydynt yn gwneud unrhyw ymarfer corff (0 diwrnod) yn parhau i fod yn is na mis Chwefror 23 (18% o gymharu â 22%), mae grwpiau sy’n cynnwys ymatebwyr benywaidd (23%), ymatebwyr hŷn (23%) ac ymatebwyr ag anabledd (23%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn segur.
  • Mae’n debygol bod hyn yn cael ei achosi gan faterion strwythurol sy'n ymwneud â chyfleoedd i fod yn actif, yn ogystal ag agweddau tuag at weithgarwch, fel pleser, boddhad a hyder. Mae ymatebwyr benywaidd, ymatebwyr hŷn ac ymatebwyr ag anabledd yn fwy tebygol o sgorio’n is ar bob un o’r mesurau hyn.
  • Mae’r un gyfran o ymatebwyr â mis Awst 23 yn dweud bod costau byw yn parhau i gael effaith negyddol ar allu pobl i fod yn actif (40%), a thraean (33%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad.
  • Mae pobl o dan 55 oed a'r rhai â phlant yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi'u heffeithio'n negyddol gan newidiadau mewn costau byw, ac y byddant yn gwneud mwy o weithgareddau rhatach / am ddim, llai o weithgareddau â thâl, a lleihau eu lefelau gweithgarwch o ganlyniad. Mae hyn yn awgrymu bod angen cymorth ar y grwpiau hyn i sicrhau nad yw eu lefelau gweithgarwch yn gostwng, a bod ganddynt fynediad at y gweithgareddau maent eisiau eu gwneud.
  • Mae ychydig dros un o bob deg (14%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd, gyda’r gwirfoddolwyr presennol yn fwy tebygol o fod yn ddynion a phobl sydd â phlant.
  • Yn eu tro, mae dros draean (36%) yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (gan gynnwys y rhai sy'n gwirfoddoli ar hyn o bryd), y gyfran uchaf ers dechrau'r arolwg. Mae hyn yn awgrymu cyfle i fwy na dyblu nifer y bobl sy’n gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd.

 

Lefelau gweithgarwch

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu cyfradd anadlu.

Lefelau gweithgarwch

  • Gwnaeth y mwyafrif o oedolion Cymru weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod (48%), sy'n unol â mis Ebrill 23 (49%) a mis Awst 23 (47%) ac mae’n parhau’n sylweddol uwch na mis Chwefror 23 (41%).
  • Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (24%) yn parhau i fod yn uwch na mis Chwefror 23 (19%).
  • Mae’r gyfran na wnaeth ymarfer corff yn parhau i fod yn is na mis Chwefror 23 (18% o gymharu â 22%), ac yn unol â mis Ebrill 23 (18%) a mis Awst 23.
  • Mae ymatebwyr benywaidd gryn dipyn yn fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o beidio â gwneud unrhyw weithgarwch corfforol (23% o gymharu â 13%).
  • Mae ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (19% a 23% o gymharu â 9%).
  • Mae ymatebwyr ag anabledd gryn dipyn yn fwy tebygol na'r rhai heb unrhyw anabledd o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol (23% o gymharu â 15%).

 

Math ac amledd y gweithgarwch 

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg yw cerdded ar gyfer hamdden (62%), cerdded i deithio (26%), rhedeg neu loncian (16%) a mynd i’r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref ( 16%).
  • Dywedodd ychydig dros dri o bob pump o’r ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai ar gyfer hamdden neu deithio’n rheolaidd (unwaith y mis o leiaf) yn ystod y tri mis diwethaf (62%), dywedodd un o bob pedwar eu bod wedi mynd i’r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (24%), ac mae un o bob pump wedi bod yn nofio (21%) a rhedeg neu loncian (20%).
  • Dywedodd un o bob deg (11%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf.
  • Mae cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi bod yn loncian yn uwch nag ar gyfer mis Ebrill 23 (20% o gymharu ag 17%).

 

Rhesymau dros gymryd rhan

  • Mae tri o bob pump (60%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, ac mae bron i dri o bob pump (57%) yn dweud eu bod yn gwneud hynny i helpu i reoli eu hiechyd corfforol.
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, mae tri o bob pump o’r ymatebwyr (58%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel eu prif reswm dros gymryd rhan, tra bo un o bob pump (18%) yn dweud mai teimlo’n dda yw eu prif reswm.

 

Cyfle a gallu 

  • Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (72%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif.
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (81% o gymharu â 78% o gymharu â 63%).
  • Mae ymatebwyr heb anabledd gryn dipyn yn fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (85% o gymharu â 48%).
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd gryn dipyn yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (76% o gymharu â 70%).
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (78% o gymharu â 75% o gymharu â 68%).
  • Mae ymatebwyr heb anabledd gryn dipyn yn fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (80% o gymharu â 59%).
  • Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (35% o gymharu â 29%).
  • Mae pobl ifanc 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (47% o gymharu â 39% o gymharu ag 16%).
  • Mae pobl sydd â phlant gryn dipyn yn fwy tebygol na’r rhai heb blant o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (46% o gymharu â 24%).
  • Mae mwy na thri o bob pump (62%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
  • Mae ymatebwyr heb anabledd gryn dipyn yn fwy tebygol na'r rhai ag anabledd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (72% o gymharu â 44%).
  • Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (73%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (73%).
  • Mae traean (32%) o’r ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill.

 

Agweddau at weithgarwch 

Y gallu i fwynhau, pwysigrwydd a hyder 

  • Mae ychydig llai na thri o bob pump (58%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer yn bleserus ac yn rhoi boddhad.
  • Mae dwy ran o dair (68%) o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt ymarfer yn rheolaidd.

 

Hyder mewn lleoliad 

  • Mae’r hyder mewn lleoliadau dan do wedi aros yr un fath wrth i effeithiau pandemig Covid-19 bylu, gyda 52% yn hyderus mewn pyllau nofio a 42% yn hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd.
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch mewn cyfleusterau dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd tua naw o bob deg eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (92%), pyllau nofio dan do (89%) a chyrtiau dan do (87%), tra bo mwy na phedwar o bob pump yn hyderus ar gaeau glaswellt / artiffisial dan do (84%).

 

Cwestiynau pwnc 

Gwirfoddoli

  • Nid yw bron i hanner yr ymatebwyr (45%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis diwethaf, gydag ychydig mwy nag un o bob deg (14%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd.
  • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn fwy tebygol o fod yn ddynion (16% o gymharu â 11%), 16 i 34 oed (22% o gymharu â 14% o gymharu â 9%) a bod â phlant (18% o gymharu â 11%)
  • Er bod hanner yr ymatebwyr yn dweud ei bod yn debygol na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (48%), mae mwy na thraean yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (36%). Dyma’r gyfran uchaf ers dechrau’r arolwg, ac mae’n uwch na mis Ebrill 23 a mis Awst 23 (31%).
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd (40% o gymharu â 31%) a phobl 16 i 34 oed (57% o gymharu â 38% o gymharu â 19%) gryn dipyn yn fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ogystal â’r rhai sydd â phlant (47% o gymharu â 29%).

 

Costau byw

  • Mae dau o bob pump o ymatebwyr (40%) yn cytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (49% o gymharu â 48% o gymharu â 27%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, yn ogystal â phobl sydd â phlant (50% o gymharu â 34%).
  • Er bod hanner (49%) yr ymatebwyr yn dweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, dywedodd traean (33%) eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (41% a 40% o gymharu â 22%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, yn ogystal â phobl sydd â phlant (44% o gymharu â 27%) ac ymatebwyr benywaidd (37% o gymharu â 29%).
  • Dywedodd chwarter (25%) yr ymatebwyr nad yw / na fydd costau byw cynyddol yn cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Fodd bynnag, dywedodd 22% eu bod wedi / y byddant yn newid i weithgareddau rhatach / am ddim, dywedodd 20% eu bod wedi / y byddant yn cymryd rhan mewn llai o weithgareddau â thâl, a dywedodd 16% eu bod wedi / y byddant yn lleihau eu lefelau gweithgarwch.
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed gryn dipyn yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno y byddant yn gwneud gweithgareddau rhatach / am ddim (32% a 27% o gymharu â 12%) a llai o weithgareddau am dâl (26% a 26% o gymharu â 12%), yn ogystal â lleihau lefelau gweithgarwch (22% a 20% o gymharu â 10%).
  • Mae pobl sydd â phlant gryn dipyn yn fwy tebygol na’r rhai heb blant o gytuno y byddant yn gwneud gweithgareddau rhatach / am ddim (31% o gymharu â 17%) a llai o weithgareddau â thâl (29% o gymharu â 15%), yn ogystal â lleihau lefelau gweithgarwch (23% o gymharu â 14%).