Skip to main content

Anabledd

Mae’r wybodaeth sy'n cael ei harddangos isod naill ai’n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu’n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi'n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer tonnau 8 a 9.

  • Mae'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch yn fwy tebygol o fod wedi dweud nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch yn ystod yr wythnos ddiwethaf na'r rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch (15% o gymharu â 23%).
  • Roedd 65% o’r rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog wedi ‘cerdded ar gyfer hamdden’ yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae hyn o gymharu â 53% o’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddwl a 58% o’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol. Ar gyfer y rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol, bu cynnydd o 7 pwynt canran ers y don flaenorol.
  • Y rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog sydd fwyaf tebygol o deimlo'n hyderus yn y gampfa / canolfannau iechyd, a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch corfforol sydd leiaf tebygol o deimlo felly (47% [dim cyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog] o gymharu â 35% [cyflwr neu salwch meddwl] vs. 33% [cyflwr neu salwch corfforol]).
  • Bu gostyngiad o 7 pwynt canran ers y don flaenorol ar gyfer y rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog o ran hyder yn defnyddio caeau glaswellt (a ddefnyddir ar gyfer rygbi, pêl droed, criced ac ati).
  • Dywedodd 85% o'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, mae hyn o gymharu â 55% o'r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl, a 40% o'r rhai â chyflwr neu salwch corfforol. Roedd hyn yn ostyngiad o 10 pwynt y cant ar gyfer y rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl o gymharu â’r don flaenorol.
  • Mae 66% o’r ymatebwyr heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, o gymharu â 44% o'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog.
  • Roedd ymatebwyr heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwyaf tebygol o ddweud bod ymarfer corff yn bwysig iddynt o gymharu ag ymatebwyr sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog (72% o gymharu â 60%).
  • Ymatebwyr oedd â chyflwr neu salwch hirsefydlog oedd fwyaf tebygol o gytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain, o gymharu â'r rhai heb gyflwr neu salwch (24% o gymharu â 39%).
  • Y rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddwl oedd y grŵp a oedd fwyaf tebygol o gytuno eu bod yn poeni am adael y cartref, o gymharu â'r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog, oedd leiaf tebygol o deimlo fel hyn (15% o gymharu â 47 o gymharu â 31%).
  • Mae 60% o’r ymatebwyr heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol o gymharu â 51% o'r rhai â chyflwr iechyd neu salwch.
  • Y rhai heb unrhyw gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog oedd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr neu salwch corfforol, oedd y lleiaf tebygol (62% o gymharu â 60% o gymharu â 51%).
  • Ymatebwyr heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog sydd fwyaf tebygol o allu cyrraedd cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol o gymharu â'r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch (61% o gymharu â 50%)
  • Roedd y sefyllfa costau byw gryn dipyn yn fwy tebygol o effeithio ar y rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl na'r rhai sydd â chyflwr neu salwch corfforol neu'r rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog (35% o gymharu â 58% o gymharu â 47%).