Skip to main content

Oedran

Mae’r wybodaeth sy'n cael ei harddangos isod naill ai’n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu’n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi'n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer tonnau 8 a 9.

  • Mae cerdded ar gyfer hamdden gryn dipyn yn fwy poblogaidd ymhlith pobl 55+ oed (oedolion hŷn) nag ymhlith pobl ifanc 16 i 34 oed (oedolion iau) (52% [oedolion iau] o gymharu â 64% [35 i 54 oed ] o gymharu â 68% [oedolion hŷn]) – ond o gymharu â'r don flaenorol, bu cynnydd o 8 pwynt canran ar gyfer oedolion iau sy'n cerdded ar gyfer hamdden.
  • Mae’r rhai o dan 55 oed gryn dipyn yn fwy tebygol o gerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun, o gymharu â’r rhai dros 55 oed.
  • I ychwanegu at hyn, gostyngodd ‘cerdded ar gyfer hamdden’ gyda rhywun arall 6 phwynt canran ar gyfer oedolion iau a 7 pwynt canran ar gyfer pobl 35 i 54 oed.
  • Bu gostyngiad o 12 pwynt canran yn nifer yr oedolion hŷn a gymerodd ran mewn ‘cerdded ar gyfer hamdden’ ar 2 i 4 diwrnod yn ystod yr wythnos flaenorol (er bod cerdded ar gyfer hamdden ar 5+ diwrnod wedi cynyddu).
  • Mae dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer corff yn y gampfa yn fwy poblogaidd ymhlith oedolion iau na'r rhai 35 i 54 oed ac oedolion hŷn (27% o gymharu â 17% o gymharu â 7%).
  • Mae oedolion iau gryn dipyn yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch yn y cartref nag oedolion hŷn (22% o gymharu â 17% o gymharu â 13%).
  • Mae hyder oedolion iau wrth ddefnyddio caeau glaswellt wedi gostwng 8 pwynt canran o gymharu â’r don flaenorol.
  • Bu cynnydd o 9 pwynt canran ers y don flaenorol ymhlith yr oedolion iau sy’n dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf.
  • Mae pobl o dan 55 oed gryn dipyn yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (81% o gymharu â 78% o gymharu â 63%).
  • Mae’r rhai o dan 55 oed hefyd yn llawer mwy tebygol o ddweud bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (69% o gymharu â 63% o gymharu â 48%).
  • Mae'r rhai dros 55 oed yn llai tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif na'r rhai o dan 55 oed (67% o gymharu â 65% o gymharu â 57%)
  • Pobl o dan 55 oed sydd fwyaf tebygol o ddweud nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (47% o gymharu â 39% o gymharu â 16%).
  • Mae pobl o dan 55 oed gryn dipyn yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i reoli eu hiechyd meddwl na'r rhai dros 55 oed, er bod dros hanner yr holl grwpiau yn cytuno â'r datganiad (68% o gymharu â 64% o gymharu â 53%).
  • Mae pobl dros 55 oed yn llai tebygol o adrodd eu bod yn gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol sy'n apelio atynt, o gymharu â phobl o dan 55 oed (62% o gymharu â 61% o gymharu â 51%).