Skip to main content

Amddifadedd

Nodyn. Gan mai dim ond yn rowndiau 9 a 10 y defnyddiwyd MALlC nid oes cymhariaeth rhwng y tonnau blaenorol.

Mae’r wybodaeth sy'n cael ei harddangos isod naill ai’n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu’n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi'n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer tonnau 8 a 9.

  • Roedd ymatebwyr o'r 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig [ardaloedd mwyaf difreintiedig] gryn dipyn yn llai tebygol o gerdded ar gyfer hamdden nag ymatebwyr o'r rhai o'r ardaloedd amddifadedd canolig [ardaloedd amddifadedd canolig] a’r 30% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig [ardaloedd lleiaf difreintiedig] (56% [amddifadedd mwyaf] o gymharu â 68% [amddifadedd canolig] o gymharu â 66% [amddifadedd lleiaf]).
  • Roedd y rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig gryn dipyn yn fwy tebygol o gerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall, o gymharu â'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (40% o gymharu â 45% o gymharu â 49%).
  • Mae gwahaniaethau mawr mewn lefelau hyder rhwng ymatebwyr o'r ardaloedd amddifadedd canolig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig o gymharu â'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer defnyddio campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd. Er bod 42% o'r rhai o’r ardaloedd amddifadedd canolig yn hyderus i'w defnyddio, 39% o'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd yn hyderus, o gymharu â 33% o'r rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Mae'r rhai o’r ardaloedd amddifadedd canolig a lleiaf difreintiedig gryn dipyn yn fwy tebygol o fod yn hyderus yn defnyddio parciau ar gyfer chwarae anffurfiol, cerdded, rhedeg ac ati na'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (63% o gymharu â 73% o gymharu â 70%).
  • Mae 64% o’r ymatebwyr o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dweud bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, mae hyn o gymharu â 75% o’r ymatebwyr o’r ardaloedd amddifadedd canolig a 73% o’r ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Dywedodd llai na hanner yr ymatebwyr (48%) o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, mae hyn o gymharu â 59% o’r ardaloedd amddifadedd canolig a 63% o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Hefyd mae ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig gryn dipyn yn fwy tebygol o ddweud bod ymarfer corff rheolaidd yn bwysig iddynt, o gymharu â'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (63% o gymharu â 66% o gymharu â 70%).
  • Mae 30% o’r ymatebwyr o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, tra bo 17% o’r ymatebwyr o’r ardaloedd amddifadedd canolig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cytuno.