Skip to main content

Cefnogi Gwirfoddolwyr

Ar ôl i chi recriwtio gwirfoddolwyr newydd, mae’n rhaid i chi eu hyfforddi a’u cefnogi.

Mae cyflwyniad da’n ffordd grêt o roi cychwyn i bethau. Mae’n sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gallu cyfrannu’n gyflym a theimlo’n rhan o’r clwb. Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i hyn fod yn gymhleth!

Y cyfan mae’n ei olygu yw rhoi amser i wneud yn siŵr bod y gwirfoddolwyr newydd yn:

  • adnabod y gwirfoddolwyr eraill a’r swyddogion yn y clwb – felly cofiwch eu cyflwyno nhw’n bersonol
  • deall eu rôl wirfoddoli benodol a beth sydd angen ei wneud
  • gwybod ble mae popeth – felly ewch â nhw o amgylch eich cyfleusterau i gyd
  • deall gwerthoedd, polisïau a gweithdrefnau’r clwb – er enghraifft, iechyd a diogelwch, asesiadau risg
  • gwybod at bwy ddylent droi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu broblemau
  • cael cyfle i gysgodi gwirfoddolwyr eraill profiadol
  • ymwybodol o sut mae delio â chwynion a meysydd sy’n peri pryder

Efallai y bydd y gwirfoddolwyr yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol cael gwybodaeth fwy ffurfiol, fel gweithdrefnau, mewn llawlyfr neu becyn.              

Gall cyflwyniad trefnus roi’r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen ar y dechrau i wirfoddolwyr a gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus yn eu rôl yn gyflym iawn. Nid dim ond ymarfer ticio bocsys ddylai hwn fod, a darparu polisïau i’w darllen. Meddyliwch yn ofalus am y cyflwyniad yma a sut dylai weithio yn eich clwb chi - rydych chi’n fwy tebygol o ddal gafael ar eich gwirfoddolwyr am gyfnod hirach yn sgil hynny.

Mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru daflen wybodaeth ddefnyddiol iawn am sut mae recriwtio, dethol a chyflwyno gwirfoddolwyr

Cyflwyniad pellach i wirfoddolwyr

Ar ôl y cyflwyniad cychwynnol, dylai’r gwirfoddolwyr gael cyfle i roi cynnig ar y math o waith y byddant yn ei wneud. Hefyd dylent gael cynnig hyfforddiant. Os ydych yn gweithio’n agos gyda’r gwirfoddolwyr newydd, bydd gennych well syniad o sut maent yn gweithio a pha fath o gefnogaeth fydd arnynt ei hangen, a sut maent yn gobeithio elwa o’r profiad.

Hyfforddiant

Mae’n syniad da sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyrsiau hyfforddi sydd ar gael i’ch gwirfoddolwyr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn holi eich corff rheoli cenedlaethol ac adran chwaraeon eich awdurdod lleol yn rheolaidd. Efallai y bydd Chwaraeon Cymru’n gallu helpu gyda chostau hyfforddi – edrychwch ar gynllun grant Y Gist Gymunedol ganddo. 

Beth all clybiau a gwirfoddolwyr ei ddisgwyl?

Mae gwirfoddoli’n broses dwy ffordd. Er bod gwirfoddolwyr yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiad, mae clwb chwaraeon yn gallu dysgu sgiliau newydd i wirfoddolwyr hefyd.                    

Dyma rai hawliau a chyfrifoldebau a awgrymir. Er hynny, nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac efallai y byddwch yn dewis eich rhai eich hun. Mae gan wirfoddolwyr hawl i’r canlynol:

  • gwybod beth sy’n cael ei ddisgwyl ganddynt yn unol ag egwyddorion Rhoi i Elwa e.e. Cod Ymddygiad a disgrifiad rôl
  • cefnogaeth a goruchwyliaeth gwbl glir
  • cael eu gwerthfawrogi
  • amgylchedd diogel
  • deall eu hawliau
  • eu costau
  • hyfforddiant
  • dim gwahaniaethu
  • cyfleoedd i ddatblygu’n bersonol

Yn y cyfamser, mae sefydliadu’n disgwyl y canlynol gan wirfoddolwyr:    

  • bod yn ddibynadwy
  • bod yn onest
  • parchu cyfrinachedd
  • manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi a chefnogi
  • cwblhau tasgau mewn ffordd sy’n adlewyrchu amcanion y clwb
  • gweithredu oddi mewn i ganllawiau a chylch gorchwyl y cytunwyd arnynt