Skip to main content

Dolenni Defnyddiol

Dyma ddolenni at sefydliadau sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth a gwasanaethau a all fod o ddefnydd i chi.  

 

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth am ddim sy'n darparu cefnogaeth a chyngor diduedd, annibynnol i bobl sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf i danysgrifio i gylchlythyr e-bost Busnes Cymru neu dilynwch Twitter, Facebook, LinkedIn, Instagram a YouTube.

 

Busnes Cymdeithasol Cymru

Gall Busnes Cymdeithasol Cymru ddarparu cefnogaeth un i un ddwys i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol sydd ag uchelgais i ddatblygu, a chynnig busnes hyfyw. Mae eu tîm o gynghorwyr yn arbenigwyr mewn: cynllunio busnes; creu gweledigaeth a chynllunio am dwf; cynllunio ariannol; datblygu bwrdd; cyngor ar stwythur cyfreithiol ac ymgorffori; strategaeth gwerthiant a chynlluniau marchnata; a llawer mwy. Cyllidir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac fel rhan o deulu Busnes Cymru. Ewch i’r wefan a chysylltu i gael gwybod mwy am y gefnogaeth y gallant ei chynnig i’ch clwb.                   

 

Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Dyma brif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â chwaraeon ac mae’n gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol i chwaraeon elitaidd ac ar lawr gwlad yng Nghymru. Ei nod yw cael pob plentyn yng Nghymru i wirioni ar chwaraeon am oes a chreu cenedl o bencampwyr.  

 

Yr Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon (CPSU)

Mae’r Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon (CPSU) yn bartneriaeth rhwng yr NSPCC, Sport England, Sport Northern Ireland a Chwaraeon Cymru. Mae’r Uned yn gweithio gyda sefydliadau chwaraeon i’w helpu i leihau’r risg o gam-drin plant yn ystod gweithgareddau chwaraeon.   

 

Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru

Gall Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru gynnig arweiniad a chefnogaeth i sefydliadau chwaraeon a chymunedol sy’n sefydlu, gweithredu neu ddatblygu sefydliad i godi arian o gyfranddaliadau cymunedol. Mae hwn yn ffurf ar fuddsoddiad lleol lle gall aelodau neu gefnogwyr clwb fuddsoddi yn y clwb a’i ddyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn hyblyg, yn amrywio o gefnogaeth gyda chofrestru’r cwmni i gymorth gydag ysgrifennu ac asesu eich cynnig o ran cyfranddaliadau.   

 

Cymunedau yn Gyntaf

Mae’r rhaglen hon yn darparu cyllid mewn ardaloedd a elwir yn Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn lleihau’r bylchau economaidd, addysg/sgiliau ac iechyd rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd cyfoethocaf.

 

Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)

Mae WCVA, y cynghorau gwirfoddol sirol (CVCs) a’r canolfannau gwirfoddoli (VCs) yn rhwydwaith o sefydliadau cefnogi ledled Cymru sy’n gweithio gydag elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr unigol. Mae WCVA yn gweithio ar lefel genedlaethol a’r CVCs/VCs ar lefel leol.        

 

Diverse Cymru

Elusen sy’n darparu gwasanaethau cynghori a hyfforddi cysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n gallu datblygu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol a chynnal Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb.

 

Fields in Trust

Yn darparu gofod agored hanfodol ym mhob cwr o’r DU, o gaeau chwaraeon i gaeau chwarae plant, llwybrau beicio a pharciau gwledig. Mae Fields in Trust yn sicrhau bod pob math o ofod awyr agored yn cael ei ddiogelu am byth.

 

GB Sport

Mae’n darparu hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol drwy hyfforddiant, gweithdai a meddalwedd ar-lein. Mae cyfarwyddyd am ddim ar gael ar y wefan.

 

Institute of Groundsmanship (IOG)

Yr IOG yw’r prif sefydliad proffesiynol ar gyfer rheoli tiroedd ac mae’n cael ei gydnabod gan Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol am ei wybodaeth am y diwydiant a’i arbenigedd technegol.        

 

Join In

Dyma elusen y wlad ar gyfer gwirfoddoli’n lleol mewn chwaraeon. Mae’n cefnogi clybiau a grwpiau sydd angen gwirfoddolwyr yn fawr ac mae’n hybu cyfleoedd i bobl gynnig help llaw. Mae’n cydnabod gwerth cymdeithasol enfawr gwirfoddolwyr gyda’i hymgyrchoedd.

 

Chwaraeon LHDT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol) Cymru

Mae’n herio canfyddiadau, yn goresgyn rhwystrau ac yn hybu cyfleoedd i unigolion LHD a T mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Darllenwch eu siarter a’i lofnodi!  

 

Timau Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol
 

Mae timau datblygu chwaraeon yr awdurdodau lleol yn gweithio i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Maent yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i greu gweithgareddau newydd ac i ddatblygu’r gweithgareddau presennol.

 

Cyrff Rheoli Cenedlaethol

Ledled Cymru, ceir nifer o wahanol gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol sy’n gyfrifol am reoli eu camp benodol.     

            

Show Racism the Red Card

Elusen addysg Prydain ar gyfer gwrth-hiliaeth.  Mae mwyafrif o waith yr elusen ei weithredu trwy addysg i bobl ifanc ac oedolion yn yr ysgol, trwy'r gwaith ac mewn digwyddiadau.  Yn ogystal a hynny, mae'r elusen yn cynhyrchu adnoddau i helpu hyrwyddo'r neges a'r dealltwriaeth.  Cewch hyd i nifer o adnoddau defnyddiol tu hwn i lawrlwytho o'i gwefan, megis dogfennau cynllunio, adnoddau darllen a gwefannau pellach.  

                         

Sport and Recreation Alliance

Mae’r Sport and Recreation Alliance yn gymdeithas fasnach ar gyfer cyrff rheoli a chynrychioliadol chwaraeon a hamdden yn y DU - sefydliadau fel yr FA, yr Undeb Rygbi a Phêl Droed, UK Athletics, y Ramblers a Rhwyfo Prydain. 

 

Sported

Mae’n cefnogi clybiau a grwpiau chwaraeon cymunedol ledled y DU sy’n defnyddio pŵer chwaraeon i fynd i’r afael â rhai o broblemau mawr cymdeithas, fel troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a gordewdra. Mae’n darparu cefnogaeth fusnes ac ariannol am ddim a rhwydwaith o fentoriaid gwirfoddol sy’n darparu cyngor arbenigol ar faterion busnes.

 

Sports Leaders

Elusen annibynnol yw Sports Leaders UK.

Mae ei dyfarniad a’i chymwysterau’n meithrin sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc am oes, gan wella cymhelliant, hunan-gred, cyfathrebu, gwaith tim a hyder.        

                                                              

StreetGames

Lansiwyd StreetGames yn 2007 i newid bywydau, newid cymunedau a newid chwaraeon. Heddiw mae StreetGames yn helpu mwy na 600 o sefydliadau cymunedol ledled y DU i fynd â chwaraeon at garreg y drws mewn cymunedau difreintiedig.

 

UK Coaching

Asiantaeth dechnegol y DU ar gyfer hyfforddiant. Mae’n cefnogi partneriaid i recriwtio, datblygu a chadw’r hyfforddwyr maent eu hangen. Ffynhonnell ganolog o arbenigedd hyfforddi.

 

Urdd Gobaith Cymru

Sefydliad ieuenctid sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.       

    

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Mae WCVA, y cynghorau gwirfoddol sirol (CVCs) a’r canolfannau gwirfoddoli (VCs) yn rhwydwaith o sefydliadau cefnogi ledled Cymru sy’n gweithio gydag elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr unigol. Mae WCVA yn gweithio ar lefel genedlaethol a’r CVCs/VCs ar lefel leol.      

  

Welsh Sports Association

Mae’r WSA yn gorff masnachu annibynnol sy’n credu’n angerddol mewn dod â phawb allweddol yn y byd chwaraeon yng Nghymru at ei gilydd. Dyma borth i wasanaethau cefnogi busnes. Mae’n grymuso ei aelodau, yn lleihau costau ac yn gwella effeithlonrwydd drwy gydweithredu a rhannu gwasanaethau.