Skip to main content

Dirnadaeth, gwybodaeth a data

Mae defnyddio dirnadaeth, gwybodaeth a data yn chwarae rhan annatod wrth bennu cyllid partneriaid.

Y DULLIAU GWEITHREDU 

Sbardunir gan Ddata neu Sbardunir gan Egwyddorion           

Mae ein dull buddsoddi yn defnyddio dau ddull y gall partner dderbyn cyllid drwyddynt.

Defnyddir dull gwrthrychol a sbardunir gan ddata o weithredu lle defnyddir ystadegau swyddogol a data cenedlaethol ar gyfer partner. Mae hyn yn berthnasol yn gyffredinol i Gyrff Rheoli Cenedlaethol a Phartneriaethau Chwaraeon. Defnyddir dull a sbardunir gan egwyddorion o weithredu ar gyfer partneriaid lle nad oes ystadegau swyddogol a data cenedlaethol ar gael. Mae hyn yn berthnasol yn gyffredinol i Bartneriaid Cenedlaethol.

Mae’r dulliau a sbardunir gan ddata ac a sbardunir gan egwyddorion o weithredu’n pennu’r lefel uchaf o gyllid sydd ar gael i sefydliad gyda’r elfennau Gallu ac Atebolrwydd yn pennu lefel wirioneddol y buddsoddiad.

Buddsoddiad a sbardunir gan ddata

Defnyddir meini prawf gwrthrychol, yn seiliedig ar arolygon cenedlaethol, ystadegau swyddogol a data perfformiad, i ddyrannu buddsoddiad i Gyrff Rheoli Cenedlaethol a Phartneriaethau Chwaraeon.

Mae hyn yn galluogi dull tryloyw a gwrthrychol o fuddsoddi ac yn lleihau’r baich biwrocrataidd ar bartneriaid i ddarparu data a thystiolaeth i Chwaraeon Cymru.

Mae’r meini prawf wedi’u rhannu’n elfennau cyfranogiad a pherfformiad, gyda sgôr gyllido gyffredinol ar gyfer pob Corff Rheoli Cenedlaethol yn cael ei sefydlu pan ddaw’r ddwy adran ynghyd. Defnyddir meini prawf ar wahân i bennu'r cyllid ar gyfer Partneriaethau Chwaraeon, yn seiliedig ar ffactorau poblogaeth, economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol. Mae dadansoddiad llawn o'r data sy'n cael eu defnyddio ar gael yn yr adran Adnoddau.

Buddsoddiad a sbardunir gan egwyddorion

Os na allwn gael ystadegau lefel genedlaethol ar gyfer partner, rydym yn defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion i bennu lefel o fuddsoddiad. Gan ddefnyddio cyfres o egwyddorion sy’n diffinio’r sylfeini ar gyfer creu system chwaraeon fwy cynhwysol, mae’r dull hwn yn dosbarthu cyllid ymhlith sefydliadau sy’n cefnogi datblygu cyfleoedd ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n defnyddio eu dirnadaeth a’u harbenigedd i gefnogi sefydliadau eraill yn y sector chwaraeon yng Nghymru yn strategol. .

Defnyddir fframwaith (dolen i ddogfen y fframwaith) sy’n cynnwys y 3 egwyddor ganlynol i gefnogi penderfyniadau cyllido:

  • Creu sector chwaraeon Cyfartal, Amrywiol a Chynhwysol
  • Gwella chwaraeon yng Nghymru
  • Capasiti sefydliad

Mae'r fframwaith yn blaenoriaethu'r sefydliadau y gwelir eu bod yn gallu cael yr effaith fwyaf yn erbyn y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r dull buddsoddi sy’n cael ei sbarduno gan egwyddorion yn ceisio dyrannu buddsoddiad i amrywiaeth o bartneriaid er mwyn sicrhau y gellir canolbwyntio adnoddau ac arbenigedd ar yr ystod lawn o grwpiau a dangynrychiolir yng Nghymru. Nid yw’r partneriaid hynny o reidrwydd yn sefydliadau neu’n ddarparwyr chwaraeon traddodiadol, ac yn aml maent yn gweithio ar draws sectorau lluosog.

Eithriadau

Ar hyn o bryd, mae rhai partneriaid na ellir defnyddio'r naill na'r llall o'r ddau ddull yma gyda hwy. Mae cynllun tymor hwy ar gyfer sut i fuddsoddi yn y partneriaid hyn yn cael ei archwilio.