Skip to main content

Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am y swydd wag yma

ADRAN A CHYFLOG

Adran – Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflog – Graddfa 9 £43,376.05 - £46,465.50 

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth strategol allweddol i Chwaraeon Cymru ac rydym yn mynd ati i geisio amrywio ein gweithlu ymhellach. Bydd ymgeiswyr o gefndir amrywiol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl yn cael eu gwarantu i gael cyfweliad fel rhan o'r ymagwedd hon.

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref, i gyd-fynd orau â'ch amgylchiadau personol. 

I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideoar ein tudalen gyrfaoedd.

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol ac angerddol i arwain ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Chwaraeon Cymru.

Mae hon yn rôl newydd o fewn y sefydliad, gan roi'r annibyniaeth i ddeiliad y swydd lywio cyfeiriad y gwaith hwn, yn fewnol ac wrth gefnogi'r sector chwaraeon ehangach. Byddwch yn cael yr holl gefnogaeth ac adnoddau i gyflawni'r rôl hanfodol hon yn effeithiol, gydag ymgysylltu o bob rhan o'r sefydliad. Mae hwn yn gyfle i gael effaith wirioneddol a pharhaol ar Chwaraeon Cymru a’r sector ehangach.

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel canolbwynt, gan hyrwyddo gwaith presennol a newydd i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o ddiwylliant ein sefydliad. 

Gyda phwy fyddwch yn gweithio

Byddwch yn arwain y flaenoriaeth strategol allweddol hon drwy ddarparu cyngor arbenigol i Fwrdd Chwaraeon Cymru, y Timau Gweithredol ac Arweinyddiaeth, ac yn allanol gyda rhanddeiliaid allweddol (gan gynnwys cymunedau a grwpiau amrywiol a Llywodraeth Cymru).

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad clir o arwain gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn amgylchedd cymhleth. Byddwch yn dod â syniadau newydd, ymrwymiad i ddysgu’n barhaus a’r gallu i ddylanwadu ar eraill. Byddwch yn defnyddio naill ai eich profiadau byw eich hun neu'n ymgysylltu ag eraill â phrofiadau byw i fynd i’r afael â'r rhwystrau a wynebir gan bobl o gefndiroedd amrywiol.

Os oes gennych chi'r brwdfrydedd a’r ymrwymiad i helpu i wireddu ein huchelgeisiau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, e-bostiwch [javascript protected email address] 

Fel arall, bydd nifer o sesiynau galw heibio rhithwir yn cael eu cynnal hefyd, lle gallwch siarad ag aelodau o'r tîm i gael gwybod mwy am y rôl a'r sefydliad ehangach.

Mae manylion y rhain, ynghyd â dolenni i ymuno â’r cyfarfodydd rhithwir, i’w gweld isod:

Dydd Mercher 21 Medir 7 – 8pm  Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Dydd Mercher 28 Medi 3-4pm  Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwchJOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU

9:00 14 Hydref 2022 

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

25 Hydref 2022