Skip to main content

Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Disgrifiad Swydd

YN ATEBOL I

Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes 

YN GYFRIFOL AM

Arweinydd Cydymffurfiaeth Reoleiddiol 

PWRPAS Y SWYDD

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn flaenoriaeth strategol allweddol i Chwaraeon Cymru a bydd y rôl hon yn arwain EDI ar draws y sefydliad, gan ddarparu cyngor arbenigol i’r Bwrdd, y Timau Gweithredol ac Arweinyddiaeth, ac yn allanol gyda rhanddeiliaid allweddol (gan gynnwys Llywodraeth Cymru).

PRIF DDYLETSWYDDAU

  • Darparu arweinyddiaeth ar draws y sefydliad, gan hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sicrhau eu bod wrth galon y broses o wneud penderfyniadau strategol.
  • Gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan roi cyngor i'r Bwrdd a’r Timau Gweithredol ac Arweinyddiaeth.
  • Datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru a pholisïau cysylltiedig, gan roi ystyriaeth ddyledus i gynlluniau gweithredu cenedlaethol newydd.
  • Gweithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i ddatblygu mecanwaith cadarn i asesu ac adrodd ar gynnydd (ansoddol a meintiol), gan roi sicrwydd i'r Bwrdd.
  • Cydweithio â phob rhan o'r sefydliad i ddatblygu, cydlynu a chyfathrebu gwaith EDI allweddol, gan gynnwys ar lefel y DU ar waith i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol a chefnogi canllawiau trawsryweddol.
  • Meithrin rhwydweithiau mewnol ac allanol gyda rhanddeiliaid strategol a chymunedau i ddeall anghenion a nodi rhwystrau sy'n atal cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd.
  • Datblygu cymunedau ymarfer.
  • Cynrychioli Chwaraeon Cymru mewn fforymau a chynadleddau cenedlaethol a lleol gan gynnwys y rhai a drefnir gan Lywodraeth Cymru.
  • Adolygu a gwella'n rhagweithiol yr ymyriadau sydd wedi'u hanelu at wella amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol.
  • Gweithio ochr yn ochr â'r tîm Arweinyddiaeth i greu diwylliant mwy cynhwysol ar draws y sefydliad.
  • Gweithredu fel Swyddog Arweiniol i gefnogi'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
  • Ysgrifennu adroddiadau i'w cyflwyno i'r Bwrdd a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau eu bod yn cael gwybod am ddatblygiadau, cynnydd a risgiau.
  • Sicrhau bod y systemau ar gyfer Asesiadau Effaith Cydraddoldeb yn gadarn, gan roi cymorth ac arweiniad i staff yn ôl yr angen.
  • Arwain ar asesu anghenion datblygu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sefydliadol, gan weithio gyda'r tîm AD/DS i weithredu a chyflwyno cynlluniau hyfforddi effeithiol.
  • Dylanwadu ar bartneriaid strategol allweddol drwy ddarparu cyngor arbenigol, arweiniad a phrofiad ymarferol ar bob agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys llywodraethu ac arweinyddiaeth.
  • Defnyddio gwybodaeth gan bartneriaid i helpu i lywio’r cyfeiriad yn y maes hwn yn y dyfodol.
  • Gweithio gyda phartneriaid strategol allweddol, gan eu helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau gwell dealltwriaeth o angen, a chael gwared ar rwystrau sy’n atal cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
  • Rheoli’n briodol gyllideb benodol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel y caiff ei dirprwyo i chi yn unol â gweithdrefnau Chwaraeon Cymru.
  • Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn, os yw hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'w graddfa.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             Gofynion Dymunol           

Addysg 

 

Cymhwyster cysylltiedig â gradd neu reolaeth/arweinyddiaeth neu brofiad / gwybodaeth gyfatebol

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

 

Profiad

 

Profiad o weithio mewn rôl cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 

 

Profiad clir o drafod gyda a dylanwadu ar uwch reolwyr a staff, gan gynnwys aelodau'r Bwrdd, i ymgysylltu â'r agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 

 

Profiad o feithrin perthnasoedd effeithiol (yn fewnol ac yn allanol) i sbarduno blaenoriaethau sefydliadol

 

Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth a rheoliadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a dealltwriaeth o sut i gymhwyso hyn ar draws meysydd gwaith 

 

Profiad o ymgysylltu â phrofiadau byw i fynd i'r afael â rhwystrau a wynebir gan bobl o gefndiroedd amrywiol

 

Profiad clir o arwain gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn amgylchedd cymhleth ac ar lefel strategol

 

Enw da am ymgorffori newid diwylliannol ar draws sefydliad 

 

Profiad o reoli pobl a chyllidebau  

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

 

Y gallu i drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol

 

Y gallu i gysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan alluogi cyfathrebu negeseuon cymhleth/sensitif yn effeithiol i amrywiaeth eang o grwpiau gan gynnwys unigolion, grwpiau rhanddeiliaid a'r Bwrdd 

 

Y gallu i nodi'r rhwystrau i newid a'u datrys yn greadigol

 

Y gallu i ysgogi a llunio polisïau a gweithdrefnau a’u rhoi ar waith ar draws y sefydliad

 

Sgiliau arwain hynod ddatblygedig 

 

Yn llawn cymhelliant a gyda ffocws ar atebion

 

Y gallu i fodelu ymddygiad cadarnhaol sy'n ysbrydoli eraill

 

Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn hyblyg, wedi'i sbarduno gan ganlyniadau a'r gallu i ddangos menter ac egni, i ymateb i anghenion busnes

Sgiliau dwyieithog neu amlieithog. 

 

Amgylchiadau Arbennig 

Y gallu i weithio’n hyblyg 

 

Y gallu i deithio yn ôl yr angen