Edrychwch ar y swyddi gwag sydd gennym ni yn Chwaraeon Cymru drwy glicio yma.
Tarwch y botwm ymgeisio nawr a gofynnir i chi gofrestru a llenwi ffurflen gais. Sylwer nad ydym yn derbyn CV a dim ond ffurflen gais fyddwn yn ei hystyried.
Gallwch dracio cynnydd eich ceisiadau, cofrestru i dderbyn hysbysiadau ar e-bost am swyddi gwag Chwaraeon Cymru a dod yn rhan o’n cronfa o dalent ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog ac mewn ieithoedd a fformatau eraill. Byddwn yn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi’i dewis ac ni fydd gohebu gyda ni yn y Gymraeg yn achosi unrhyw oedi.
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais, byddwn yn anfon e-bost yn cadarnhau ei derbyn atoch chi. Wedyn byddwn yn dechrau llunio rhestr fer.
Ar ôl llunio rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn aflwyddiannus neu a ydynt wedi cael eu gwahodd i gyfweliad.
Os cewch chi unrhyw broblemau gyda’n tudalennau e-recriwtio neu os hoffech chi roi adborth am y broses ymgeisio, cysylltwch â ni ar [javascript protected email address]