Skip to main content

Addysg Actif y Tu Hwnt i'r Diwrnod Ysgol

Ymchwiliad i Bolisi ac Arfer o Gyd-destunau Cymru, y DU a Rhyngwladol

Prif Awduron: Tessa Marshall ac Amy Rees 

Golygwyd gan Clare Roberts

Chwaraeon Cymru, Tachwedd 2021

 

Diffiniadau 

Wrth ysgrifennu, daeth yn amlwg bod sawl term ac ymadrodd yn cael eu defnyddio i gyfeirio at ysgolion yn agor eu cyfleusterau i’r gymuned. Felly, mae’r diffiniadau canlynol wedi’u datblygu at ddiben yr adroddiad hwn.

 

Lleoliadau Addysg Actif: Term y mae Chwaraeon Cymru yn ei ddefnyddio i ddisgrifio ysgolion rhagweithiol sy’n darparu mynediad at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, drwy ddefnyddio eu cyfleusterau pan fo angen i wasanaethu anghenion eu cymunedau.

 

Ysgolion Bro: Term a ddefnyddir yng Nghymru i ddisgrifio ysgol sydd â’i ffocws ar y gymuned. Mae ysgol fro yn un sy’n darparu ystod o wasanaethau a gweithgareddau, yn aml y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, i helpu i ddiwallu anghenion ei disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

 

Cyllid cynaliadwy: Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r math o gyllid a chefnogaeth y gellid eu cynnig i ysgolion i ddarparu darpariaeth gyson o leoliadau addysg actif. Mae’n cwmpasu sawl elfen, fel dyrannu cyllid ar gylch tymor hwy, cynllunio a chefnogaeth hirdymor, a monitro a gwerthuso gwariant yn briodol.

 

Cyflwyniad 

Mae’r papur ymchwil desg hwn yn edrych ar y defnydd o gyfleusterau ysgolion i ddarparu chwaraeon a gweithgareddau ‘y tu hwnt i’r diwrnod ysgol’, sy’n golygu naill ai cyn y diwrnod ysgol, yn ystod amser cinio, ar ôl y diwrnod ysgol, yn ogystal ag yn ystod y penwythnosau a gwyliau ysgol. Yn unol â Rhaglen Lywodraethu 2021-26 Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi blaenoriaeth i edrych ar ehangu a diwygio’r diwrnod ysgol, mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal yr ymchwil hwn fel sail i bolisi ac arfer yn y maes hwn, gan gynnwys yr elfennau galluogi a’r rhwystrau i’r flaenoriaeth hon gan y Llywodraeth.

Mae'r papur ymchwil hwn yn nodi bod agor cyfleusterau ysgolion y tu hwnt i'r diwrnod ysgol traddodiadol, pan gaiff ei gyflwyno mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, yn seiliedig ar wybodaeth am anghenion disgyblion a chymunedol, tra’n cael eu gweithredu gan arweinwyr uchelgeisiol a’u cefnogi gan gyllid cyson a chynaliadwy, yn gallu gwneud cyfleoedd chwaraeon yn fwy hygyrch. Mae’r ymchwil hwn yn dangos yn glir y gall y fenter bolisi hon feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chynaliadwy rhwng yr ysgol a’r gymuned a chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Mae’r papur hwn yn gwneud y canlynol:

  • Ceisio adnabod arfer da, elfennau galluogi a’r heriau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth agor eu cyfleusterau i gymunedau lleol
  • Nodi themâu sy'n dod i'r amlwg
  • Amlinellu'r posibiliadau sydd ar gael pan fydd ysgolion yn agor eu cyfleusterau y tu hwnt i'r diwrnod ysgol.

Ar hyn o bryd, yn fyd-eang, nid oes ‘dull gwerslyfr’ o gyflwyno agor cyfleusterau ysgolion i’r cyhoedd. Roedd themâu allweddol yn bresennol ar draws llawer o’r prosiectau llwyddiannus a nodwyd ac roeddent yn cynnwys arweinyddiaeth uchelgeisiol, cydweithredu cymunedol, ymgysylltu â darparwyr chwaraeon lleol, bod yn seiliedig ar ddirnadaeth ac anghenion, hyblygrwydd ysgolion a darparwyr, a chyllid cyson a chynaliadwy. Ym mhob achos, darparwyd gweithgareddau arloesol a difyr i ddisgyblion, rhieni ac aelodau’r gymuned, a arweiniodd at welliant mewn cydlyniant cymunedol a chanlyniadau addysgol, darpariaethau chwaraeon cynaliadwy o ansawdd uchel, cyfleusterau hygyrch, gwelliant mewn iechyd a lles a chynnydd hirdymor o ran ymgysylltu â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yng Nghymru ar hyn o bryd, nid oes dull safonol o agor cyfleusterau ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, nag o fonitro a gwerthuso effaith y rhaglenni amrywiol a gynigir. Mae gwahaniaeth yn y ddarpariaeth, gydag ysgolion lleol yn arwain eu rhaglenni eu hunain, awdurdodau lleol yn cynnal rhaglenni, neu gyrff rheoli cenedlaethol yn cefnogi rhaglenni. Ond mewn rhai rhannau o Gymru, nid oes gan ysgolion unrhyw ddarpariaeth gymunedol ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae’r manteision sylweddol sydd ar gael i ddisgyblion a chymunedau yn anghymesur ledled Cymru. 

Yn y papur ymchwil, mae rôl allweddol penaethiaid, athrawon a staff chwaraeon wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau sy'n rhoi sylw i anghenion disgyblion, rhieni a'r gymuned wedi dod yn glir. Eu hymgysylltu cadarnhaol a'u gweledigaeth ar gyfer gwell iechyd, lles, chwaraeon a chyflawniad addysgol o fewn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu sy'n creu profiadau o ansawdd uchel a chanlyniadau gwell. Roedd pob darpariaeth yn dangos gwerth staff yn cael amser, cefnogaeth a chyfleoedd i gydweithredu, a sut roedd hyn yn galluogi datblygiad rhaglenni a gweithgareddau hygyrch a oedd yn darparu cyfleoedd ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol, chwarae a hwyl, a oedd, yn ei dro, yn gwella iechyd a lles pawb.

Mae’r manteision hirdymor i gymunedau o agor cyfleusterau ysgolion yn eang eu cwmpas. Mae’r heriau a’r manteision a ganfyddir gan bob ysgol yn amrywio, ond yr hyn sy’n parhau’n gyson yw’r cynnydd amlwg yn yr ymgysylltu â chwaraeon a gweithgarwch corfforol pan fydd ysgolion yn agor eu cyfleusterau. Byddai agor cyfleusterau ysgolion i greu lleoliadau addysg actif yn cael gwared ar rwystr allweddol i ymgysylltu drwy gynnig darpariaeth chwaraeon hygyrch ac amrywiol i gymunedau ar garreg eu drws. Mae tystiolaeth yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae agor cyfleusterau ysgolion yn ei chael ar unigolion a chymunedau, er gwaethaf heriau fel Covid-19. Mae darpariaeth chwaraeon hygyrch a chydweithredol mewn ysgol yn rhoi cyfle cynaliadwy, hirdymor i gymunedau gymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon, gan wella iechyd a lles ar yr un pryd.

Llwyddiannau

Drwy gydol yr ymchwil, roedd arfer cyffredin rhwng ysgolion yn y DU a ledled y byd yn dangos themâu allweddol a arweiniodd at greu darpariaeth addysg actif lwyddiannus. Mae’r themâu’n cynnwys y canlynol:

Arweinyddiaeth Uchelgeisiol

Mae penaethiaid, llywodraethwyr ac uwch dimau arwain yn hanfodol i sbarduno ysgolion bro llwyddiannus. Roedd y gydnabyddiaeth y gall agor cyfleusterau ysgolion fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gwella lles a chreu man diogel i blant a’u teuluoedd yn gyffredin ymhlith yr holl uwch arweinwyr.

Cydweithredu

Mae modelau llwyddiannus yn rhoi amser i feithrin perthnasoedd dibynadwy gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i nodi sut gellid defnyddio cyfleusterau i wella canlyniadau ac ymateb i anghenion cymunedol. Mae prosiectau a arweinir gan hwylusydd cenedlaethol yn annog cydweithredu lleol, fel rhaglen sportscotland neu’r rhaglen yn Wrecsam, wedi sicrhau llwyddiannau sylweddol.

Dirnadaeth ac Anghenion yn Arwain

Drwy adnabod anghenion disgyblion a chymunedau, datblygodd ysgolion ddarpariaeth chwaraeon ddifyr, ymatebol a oedd yn adlewyrchu diddordebau ac anghenion disgyblion a’r gymuned leol. Roedd ceisio gwybodaeth o ansawdd yn galluogi partneriaethau rhwng ysgolion, y gymuned ac awdurdodau, a oedd yn cefnogi mwy o gydweithredu, gan greu darpariaeth ddifyr o chwaraeon cymunedol.

Cyllid Cyson a Chynaliadwy

Roedd llwyddiant prosiectau yn aml yn deillio o gyllid cyson, hirdymor. Gall ymrwymiad ariannol cyson a hyblyg gefnogi ysgolion i agor eu cyfleusterau i'r gymuned ac mae yn y sefyllfa orau i gyflawni gwelliannau hirdymor i iechyd a lles.

Heriau 

Roedd heriau gyda thema debyg yn wynebu ysgolion, grwpiau a sefydliadau oedd yn ceisio cynnig darpariaeth actif i ddisgyblion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

Diffyg dealltwriaeth o werth agor cyfleusterau ysgolion

Gall llywodraethwyr ysgolion, penaethiaid a’r uwch dîm arwain ei chael yn anodd deall gwerth agor cyfleusterau ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol. Arweiniodd darparu gwybodaeth i uwch arweinwyr am y manteision i iechyd a lles drwy agor eu cyfleusterau i’r gymuned at arweinwyr yn cymryd camau i ddatblygu lleoliad addysg actif.

Diogelu a risg

Oherwydd pwysigrwydd diogelu yn yr ysgol, teimlai rhai ysgolion y byddai gwahodd darparwyr trydydd parti ar eu safle yn peri risg. Fodd bynnag, ni soniodd unrhyw ysgol na sefydliad am unrhyw broblemau diogelu neu ddifrod i gyfleusterau. Bu cydweithredu ag amrywiaeth o randdeiliaid o gymorth i dimau arwain gymryd camau i leihau risgiau a sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelu yn cael eu rhoi ar waith.

Cost – capasiti a chyllid

Gallai amrywiaeth o gostau fod yn rhwystr i agor yr ysgol y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Helpodd cefnogaeth ariannol gynaliadwy, yn ogystal â thaliadau untro gan y corff cefnogi, ysgolion i wella cyfleusterau, prynu offer newydd, talu i staff am oriau gwaith ychwanegol, neu dalu costau ychwanegol.

Cyfleusterau

Lle teimlwyd nad oedd cyfleusterau ysgolion o safon briodol i agor y tu hwnt i'r diwrnod ysgol, roedd rhaglenni'n darparu rhywfaint o gymorth ariannol i ysgolion i fynd i'r afael â'r mater. Gallai taliadau untro, neu gynllunio safleoedd ysgol mewn ffordd arloesol, fynd i'r afael â phroblemau gyda chyfleusterau ysgolion. Yng Nghymru, mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn golygu bod gan lawer o ysgolion gyfleusterau modern, hygyrch. 

Covid-19

Nid oedd Covid-19 yn rhwystr sylweddol i ddarparu gweithgareddau pan nad oedd y genedl mewn cyfnod clo. Ychydig iawn o gymysgu rhwng athrawon a darparwyr oedd yn digwydd wrth i ysgolion ‘drosglwyddo’ cyfleusterau chwaraeon i glybiau. I lawer, dangosodd Covid-19 bwysigrwydd agor cyfleusterau i ddisgyblion a’r gymuned a’u helpu i wella eu hiechyd a’u lles.

MONITRO, GWERTHUSO, DYSGU A DATBLYGU YN BARHAUS  

Mae ffactorau allweddol yn sicrhau y gall ysgolion fod yn lleoliadau addysg actif, cynaliadwy sy’n cael effaith. Mae’r ffactorau allweddol yn cynnwys:  

  • arweinyddiaeth uchelgeisiol  
  • cyllid cyson a chynaliadwy  
  • dull o weithredu sy'n cael ei arwain gan wybodaeth ac anghenion  
  • cydweithio rhwng y gymuned, yr ysgol, a rhanddeiliaid allweddol  

 

Drwy gael yr uchod, gall agor cyfleusterau ysgol y tu hwnt i’r diwrnod ysgol sicrhau’r manteision canlynol:  

  • canlyniadau addysgol gwell  
  • perthnasoedd gwell rhwng yr ysgol a’r gymuned  
  • darpariaeth chwaraeon gynaliadwy o safon i bob cymuned  
  • cyfleusterau hygyrch o safon  
  • gwell iechyd a lles yn y tymor hir  
  • mwy o ymgysylltu â chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y tymor hir  

 

Mae monitro, gwerthuso, dysgu a datblygu parhaus yn hanfodol i sicrhau bod rhaglenni'n gynaliadwy. Wrth i ffactorau a chyd-destunau allweddol newid, gall ysgolion ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd drwy brosesau monitro i fod yn ymatebol i newid. Gan ddefnyddio gwybodaeth, gall ysgolion wedyn ddiwygio eu rhaglen i fynd i’r afael â newidiadau, a pharhau i ddarparu lleoliadau addysg actif cynaliadwy, sy’n cael effaith ac sy’n seiliedig ar anghenion, gan sicrhau’r buddion cysylltiedig ar gyfer y tymor hir.  

 

 

Arferion Cymru

Mae datblygu ysgolion bro yn y 2000au cynnar yn dangos y potensial ar gyfer defnyddio cyfleusterau ysgolion fel canolfannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol a allai godi statws dysgu ac addysgu mewn cymunedau lleol. Galluogodd y Grant Ysgolion Bro ysgolion i agor eu cyfleusterau y tu hwnt i'r diwrnod ysgol, i ddarparu gwasanaethau i'r gymuned, fel gofal plant, dysgu gydol oes, gwasanaethau ieuenctid, a gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon. Mae adroddiadau gan Estyn a phytiau gan ContinYou Cymru yn pwysleisio mai un o brif fanteision y grant ysgolion bro oedd gwella mynediad i gyfleusterau chwaraeon a TG ysgolion, ac roedd gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus yn nodwedd allweddol o rai o'r ysgolion bro mwyaf llwyddiannus.

Gellir gweld effaith y Grant yn y ddarpariaeth barhaus o ysgolion bro heb gymorth ariannol penodol yng Nghymru. Mae polisi, arfer a phrofiad Cymru, a drafodir yn yr adroddiad llawn a'r atodiadau, yn dangos bod amrywiaeth o ddulliau a chyfryngau yn bosibl a all arwain at agor cyfleusterau ysgolion yn llwyddiannus y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae arfer Cymru yn ad hoc ac yn ddigyswllt, ac mae effaith agor cyfleusterau ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol yn heriol i’w mesur. Mae arfer ysgolion yn dangos yr angen am sefydlu proses i sicrhau darpariaeth o safon o gyfleoedd, mynediad at gludiant i ac o’r ysgol, yr angen am gynnig darpariaeth gynaliadwy, a’r gofyniad i o leiaf un aelod o staff yr ysgol aros ymlaen yn hirach nag arfer i fonitro safle'r ysgol. Felly, er bod edrych ar arferion Cymru’n gallu cynnig rhywfaint o wybodaeth, yr enghreifftiau o’r DU ac yn rhyngwladol sy’n cynnig dealltwriaeth ddyfnach o effaith agor cyfleusterau ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol. 

Lloegr

Yn Lloegr yng nghanol y 2010au, arweiniodd newid mewn bwriad wrth gyflwyno chwaraeon a gweithgarwch corfforol at ffocws ar gydweithredu, gan arwain at don gyntaf y prosiect ‘Opening School Facilities’. Agorodd y prosiect gyfleusterau ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, a darparwyd £1.5 miliwn i 23 o Bartneriaethau Actif i weithio’n uniongyrchol gyda 230 o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi’u targedu am gyfnod o 15 mis yn 2019. Roedd y cyllid yn cefnogi’r ysgolion i agor eu drysau i’r gymuned a defnyddio asedau i annog gweithgarwch corfforol, gwella iechyd a lles, a sicrhau ffrwd gyllido ychwanegol.

Mae’r prosiect yn darparu dysgu sylweddol ynghylch agor cyfleusterau ysgolion i’w defnyddio gan glybiau ysgol, gan gynnwys nodi sut beth yw arfer llwyddiannus ar draws gwahanol ranbarthau a channoedd o ysgolion. Un o’r canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad llawn oedd bod ysgolion eisiau cydweithredu â phobl ar draws y gymuned i fynd i’r afael â’r heriau a oedd yn bresennol. Roedd cymhelliant o'r fath yn gwrthgyferbynnu â'r cymhelliad elw a oedd yn sail i ddatblygiad y prosiect i ddechrau. Roedd y cymhelliad elw, er gwaethaf y posibilrwydd o greu budd ariannol bychan i ysgolion, yn sbarduno cystadleuaeth yn hytrach na chydweithredu – y gwrthwyneb i’r hyn yr oedd y prosiect yn ceisio’i gyflawni. O ganlyniad, mabwysiadwyd y dull newid systemig ac ymddygiadol, sy'n cydnabod yr angen am i holl aelodau'r gymuned a staff chwaraeon gydweithredu i sicrhau llwyddiant ar gyfer tonnau 2 a 3 y prosiect. Yn gyffredinol, mae ton gyntaf y prosiect yn dangos pwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ag ysgolion i’w cefnogi i ddatblygu gweledigaeth a chenhadaeth gadarn sy’n adlewyrchu anghenion a gofynion y disgyblion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, gan annog cydweithredu i sicrhau llwyddiant.

Yr Alban 

Mae arfer yr Alban yn wahanol i arfer Cymru a Lloegr. Mae Sportscotland yn gweithio’n uniongyrchol gyda phob un o’r 32 Awdurdod Lleol yn yr Alban er mwyn darparu Ysgolion Actif ers dros 20 mlynedd. Mae’r polisi’n seiliedig ar ddwy fenter gan sportscotland o’r o’r 1990au – y Rhaglen Cydlynwyr Chwaraeon Ysgol a’r Rhaglen Beilot Ysgolion Cynradd Actif – a roddwyd ar waith i ddarparu cyfleoedd o ansawdd uwch i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a phwysleisio CCUHP. Cyflwynir y rhaglen gan wirfoddolwyr, sy’n 89% o’r gweithlu, y mwyafrif ohonynt yn ddisgyblion, rhieni, athrawon, a’r gymuned ehangach. Gyda chyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth, dyfarniadau, profiad gwaith, a hyfforddiant, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer hyfforddwyr, trefnwyr cystadlaethau a digwyddiadau, swyddogion technegol, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, mae’r rhaglen yn cefnogi llythrennedd corfforol hirdymor plant a phobl ifanc, gan uwchsgilio darparwyr chwaraeon cymunedol ar yr un pryd. Roedd yr heriau'n cynnwys anhawster cadw gwirfoddolwyr yn yr hirdymor ac ysgolion mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn brwydro i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Ond ar y cyfan, mae gwerthusiad y rhaglen yn yr adroddiad llawn yn dangos bod y rhaglen wedi cynyddu cyfranogiad cymunedol, gwella llwybrau ysgol i glwb, datblygu chwaraeon cymunedol cynaliadwy, mwy o fynediad i chwaraeon i bobl anabl, a chreu adrannau Addysg Gorfforol bywiocach ledled yr Alban. 

Mae’r model yn dangos manteision hirdymor buddsoddi mewn ysgolion fel canolfannau ar gyfer gweithgarwch corfforol, buddsoddi mewn awdurdodau lleol fel rhanddeiliaid allweddol wrth gyflwyno chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a’r manteision cyfannol y gall buddsoddiadau o’r fath eu cynnig i ddisgyblion, rhieni a chlybiau lleol. I’r rhai mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd o amddifadedd lluosog, mae’r rhaglen Ysgolion Actif yn cynnig manteision pwysig i iechyd a lles y rhai sy’n cymryd rhan, gan sicrhau eu bod yn gallu bod yn iach ac yn actif heb fawr ddim cost mewn lleoliadau hygyrch a safonol. Yn gyffredinol, mae rhaglen Ysgolion Actif sportscotland yn rhoi cipolwg pwysig ar sut gellir darparu cyfleoedd o ansawdd uchel i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar draws amrywiaeth o wahaniaethau daearyddol ac economaidd-gymdeithasol yn effeithiol ac yn gynaliadwy.

Gogledd Iwerddon 

Yng Ngogledd Iwerddon, datblygwyd sawl ymyriad i annog gweithgarwch corfforol a chwaraeon, yn ogystal â darparu mynediad i gymunedau at wasanaethau mewn ysgolion. Mae’r Adran Addysg yn darparu cefnogaeth i ysgolion sy’n ymwneud ag agor ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, gyda chyngor, arweiniad, a chyllid ar gael i gefnogi datblygiad darpariaeth gymunedol effeithiol sy’n diwallu amrywiaeth o anghenion disgyblion, teuluoedd a chymunedol, gyda ffocws penodol ar fynd i'r afael ag amddifadedd, yn benodol cyllido rhaglenni yn nhraean o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gogledd Iwerddon. Wedi’i lansio fel rhaglen wirfoddol, a gyda bron i £9 miliwn o gyllid wedi’i ddosbarthu, mae’r rhaglen yn cysylltu pobl leol â gwasanaethau lleol, o amgylch canlyniad canolog o ‘fyw mewn cymdeithas sy’n parchu eu hawliau’.

Mae’r ysgolion sy'n derbyn cyllid wedi cydnabod manteision cynnig darpariaeth gymunedol. Mae’r darpariaethau eang eu cwmpas yn creu budd sylweddol i ddisgyblion, rhieni a’r gymuned, gan gynnwys lleihau rhwystrau i ddysgu, gwella iechyd a lles corfforol, a chynyddu cyfranogiad rhieni mewn ysgolion. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen at weithredu cylch cyllido tair blynedd yn 2018/19. Oherwydd pwysigrwydd y rhaglen, gallai unrhyw doriadau yn y gyllideb dorri cefnogaeth hollbwysig i ddisgyblion agored i niwed. O’r herwydd, rhaid darparu unrhyw raglen a chyllid mewn ffordd gynaliadwy i sicrhau nad oes unrhyw blant yn cael eu gadael ar ôl oherwydd toriadau. Mae'r arloesi a'r cydweithredu a ddefnyddiwyd i roi'r prosiect ar waith yn dangos yr effaith gadarnhaol eang y gall ysgolion ei datblygu gyda chefnogaeth cyllid ychwanegol a'r gallu i ymgysylltu â'u partneriaid a'u cydweithwyr. O godi safonau ar gyfer disgyblion a lleihau rhwystrau i ddysgu, i wella’r amgylchedd dysgu, a chefnogi ysgolion i ddod yn ganolfannau cymunedol, mae Ysgolion Estynedig yn creu effaith gwerth uchel ar gyfer ysgolion a chymunedau.

Arfer Rhyngwladol 

Yn ogystal â darparu lleoliadau addysg actif ledled y DU, mae’r arfer o agor cyfleusterau ysgolion i gymunedau lleol wedi dod yn arfer byd-eang cyffredin. Mae’r adran hon yn ceisio nodi rhai meysydd arfer yng Ngogledd America ac Ewrop, sy’n dangos yr amrywiaeth o ddulliau a chyfryngau creadigol y mae ysgolion yn eu defnyddio i agor eu cyfleusterau i’r cyhoedd. 

UDA

Mae amrywiaeth o ddulliau gweithredu, o fabwysiadu’r strategaeth ysgolion cymunedol ar draws rhanbarth i greu ysgolion cymunedol lleol, wedi cael cefnogaeth gan randdeiliaid lleol fel byrddau ysgol. Ar hyn o bryd, mae ysgolion cymunedol yn yr UD yn cael eu cyllido gan grantiau neu roddion elusennol, ond mae ffynonellau yn aml yn newid i bwy maent yn darparu adnoddau, ac mae cyllid ffederal yn cefnogi ychydig o dderbynyddion grantiau yn unig. Felly, mae cyllid cyson a chynaliadwy i gefnogi swyddogaethau a strwythurau craidd ysgol gymunedol yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd y rhaglenni. Ymhellach, mae arfer yn yr Unol Daleithiau yn gosod premiwm ar ‘bedwar piler ysgolion cymunedol.’ Mae Oakes, Maier a Daniel (2017) yn disgrifio’r rhain fel:

  1. Arweinyddiaeth gydweithredol - Diwylliant o lywodraethu ar y cyd a gwneud penderfyniadau casgliadol tuag at weledigaeth unedig i adnabod anghenion a darparu adnoddau yn yr ysgol a'r gymuned.
  2. Amser a Chyfleoedd Dysgu Ehangach - Cefnogaeth a chyfoethogi academaidd sy'n digwydd cyn ac ar ôl yr ysgol, yn ystod y penwythnosau a gwyliau'r haf, i ychwanegu at ddysgu traddodiadol yn ystod y diwrnod ysgol.
  3. Cefnogaeth lles – mynediad at ystod o wasanaethau iechyd a chymdeithasol; ac,
  4. Ymgysylltu teuluol a chymunedol – Dod â theuluoedd a’r gymuned i’r ysgol fel partneriaid yn llwyddiant y myfyrwyr. Gwneud yr ysgol yn ganolfan gymdogaeth sy'n darparu cyfleoedd cyfoethogi i oedolion.

Mae’r model hwn o ddefnydd cymunedol o gyfleusterau yn dibynnu ar bob un o’r pedwar piler yn cydweithio law yn llaw i sicrhau darpariaeth effeithiol. Mae’r pedwar piler yn dangos y gwerth y gall partneriaethau cydweithredol lefel uchel ei gynnig i ddisgyblion, teuluoedd a chymunedau lleol, gan gynnig golwg gynaliadwy ar ddarpariaeth seiliedig ar anghenion gweithgareddau cymunedol. Mae cyflogi staff ymroddedig a gweithredu strwythur trefniadaethol yn cynnig golwg eang ac integredig ar y ddarpariaeth o weithgareddau cymunedol.

Mae Sefydliad Ymchwil America (AIR) hefyd wedi nodi sbardunau allweddol ar gyfer gweithredu ysgolion cymunedol yn llwyddiannus drwy eu gwaith gyda'r Fenter Ysgolion Cymunedol a weinyddir gan Ysgolion Cyhoeddus Chicago, model Ysgolion Partneriaeth Cymunedol Fflorida a Menter Ysgolion Cymunedol Ysgolion Cyhoeddus Pittsburgh. Roedd yr agweddau allweddol ar y rhaglen yn cynnwys datblygu gweledigaeth ar y cyd, creu partneriaethau gwirioneddol gydweithredol, ac integreiddio a chydlynu cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr a theuluoedd yn llawn.

Arfer Ewropeaidd

Mae arferion Ewrop o ran ysgolion cymunedol yn amrywio, gyda rhai gwledydd yn datblygu fframweithiau a pholisïau ar gyfer dull cenedlaethol o weithredu, tra bo eraill yn mabwysiadu syniadau, ethos ac athroniaeth addysg gymunedol yn eang iawn. Yn Ffrainc a Sweden, mae datganoli wedi dod yn nodwedd o addysg, gan wneud ysgolion yn fwy agored i bartneriaethau allanol. Yn Ffrainc, ceir rhaglenni cyllido sy’n hyrwyddo egwyl hir rhwng gwersi’r bore a’r prynhawn, lle gall disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol ar y safle ac oddi arno. Yn Sweden, trefnir gwasanaethau amser rhydd a gyllidir yn gyhoeddus yn yr ysgol ar gyfer plant 6 i 12 oed. Yn yr Almaen, mae ysgolion cymunedol yn darparu gofal dydd, a chyfeirir atynt fel ysgolion ‘drwy’r dydd’ sy’n ceisio mynd i’r afael â phroblemau addysgol a chymdeithasol.

Yr Iseldiroedd

Mae datblygiad ‘Brede Scholen’, hynny yw, ‘ysgolion cymunedol’, yn yr Iseldiroedd yn un o’r achosion mwyaf arwyddocaol o ysgolion bro yn Ewrop. Roedd ysgolion cymunedol yn cael eu sbarduno gan y Gweinidog Llafur, Addysg a Hyfforddiant Ffleminaidd. Arweiniodd papur polisi, ‘Y Llwybr at Ysgolion Cymunedol’, at gymorthdaliadau ar gyfer 17 o brosiectau peilot rhwng 2006 a 2009, a nododd bwysigrwydd Awdurdodau Lleol o ran ymateb i anghenion plant a phobl ifanc a sicrhau bod yr ysgol gymunedol yn ymateb i’r angen hwn. Felly, mae ysgolion yn ceisio cyfuno dyluniadau, arferion a phrosiectau da cyfredol mewn meysydd sy'n ymwneud ag addysg a gwaith ieuenctid. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cydweithredu cefn wrth gefn, wyneb yn wyneb, llaw yn llaw, a boch i foch. Er enghraifft, mae cydweithredu cefn wrth gefn yn cynnwys adeiladau a rennir, ond nid oes unrhyw gydweithredu o ran cynnwys, ond mewn cydweithredu boch i foch, mae'r gwahanol randdeiliaid yn ystyried ei gilydd fel un sefydliad cyffredin.

Gwlad Belg

Yn Fflandrys, y VGC (Vlaamse Gemeenschapscommissie neu Gomisiwn Cymunedol Fflandrys) yw canolbwynt y Gymuned Ffleminaidd ym Mhrifddinas-Ranbarth Brwsel.Maent yn gweithredu ar draws ac yn darparu cefngaeth ariannol i gyllido staff a gweithgareddau gweithredol ar gyfer ysgolion cymunedol, ac maent wedi datblygu fframwaith arweiniad ar gyfer gweithredu ysgolion cymunedol. Mae'r fframwaith yn cynnwys pum elfen sy’n ategu ei gilydd - chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod amser cinio, buarth ysgol neu feysydd chwarae actif, cymudo actif i'r ysgol, polisi addysg iechyd, a chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar ôl ysgol. Ategir y fframwaith gan bartneriaethau rhwng ysgolion a rhanddeiliaid cymunedol eraill fel y gwasanaethau dinesig, clybiau chwaraeon cymunedol, a rhaglenni cymunedol cymdeithasol. Ymhellach, ym Mrwsel, mae Ysgolion Cymunedol yn cael eu gweld fel cyfrwng i fynd i'r afael â phedair o brif heriau Brwsel - darparu (i) cyfleoedd cyfartal (ii) cyfranogiad rhieni (ii) amlieithrwydd ac (iv) amrywiaeth. Drwy ymgysylltu â chlybiau chwaraeon lleol i gyflwyno disgyblion i chwaraeon llai cyfarwydd, mae’r fenter addysg gymunedol yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd datblygu i blant ac yn cynyddu eu diddordeb a’u hymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Casgliad 

Yn gyffredinol, mae’r rôl allweddol y gall cyfleusterau ysgol ei chwarae wrth ddatblygu a darparu lleoliadau addysg actif y tu hwnt i’r diwrnod ysgol i fynd i’r afael ag anghenion disgyblion, rhieni a’r gymuned wedi dod yn glir. Drwy agor cyfleusterau ysgolion, mae penaethiaid yn rhannu eu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer gwell iechyd, lles, a chyflawniad chwaraeon ac addysgol yn eu cymunedau ac yn creu profiadau o ansawdd a chanlyniadau gwell i bawb. Mae datblygu rhaglenni a gweithgareddau hygyrch sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol, chwarae a hwyl i ddisgyblion, rhieni ac aelodau’r gymuned yn gwella iechyd a lles pawb yn y hirdymor. Drwy ddatblygu rhaglen gynaliadwy, gydweithredol, mae ysgolion ac athrawon yn gallu cynyddu capasiti a datblygu darpariaeth chwaraeon hygyrch, effeithiol a difyr y tu hwnt i’r diwrnod ysgol. Bydd gosod anghenion cymunedol a disgyblion wrth galon unrhyw Leoliad Addysg Actif yn sicrhau llwyddiant i ysgolion ac yn arwain at fanteision gwirioneddol i blant, pobl ifanc, rhieni a’u cymunedau ledled Cymru