Skip to main content

Addysg Actif y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Addysg Actif y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol

adolygiad ymchwil

Yr adroddiad

Rydym wedi cyhoeddi adolygiad ffurf-fer isod nad oes ganddo droednodiadau ac enghreifftiau o arfer orau gan ysgolion. Gellir gofyn am fersiwn ffurf hir PDF o'r adroddiad trwy e-bost.

Beth yw addysg actif y tu hwnt i'r diwrnod ysgol?

Term y mae Chwaraeon Cymru yn ei ddefnyddio i ddisgrifio ysgolion rhagweithiol sy’n darparu mynediad at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, drwy ddefnyddio eu cyfleusterau pan fo angen i wasanaethu anghenion eu cymuned.

Pam rydym yn ymchwilio i leoliadau addysg actif?

Yn dilyn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch gostyngiad mewn gweithgarwch corfforol a mynediad i addysg i blant yn ystod pandemig y coronafeirws, cytunwyd ar gyllid i gefnogi peilot o leoliadau addysg actif mewn ysgolion. Yn fyd-eang, mae ysgolion yn agor eu drysau y tu hwnt i’r diwrnod ysgol am amrywiaeth o resymau, a thrwy ganolbwyntio ar bolisi, arfer, a phrofiadau o bob rhan o’r byd rydym yn gobeithio rhannu dysgu ac arfer gorau gydag ysgolion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Rydym yn credu bod gan ysgolion rai o’r cyfleusterau gorau yng Nghymru oherwydd rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Maent yn rhai o’r adeiladau mwyaf hygyrch yng Nghymru ac mae llawer ohonynt ar gau ar ôl 3pm. Rydym ni eisiau newid hynny.

Beth mae'r ymchwiliad yn ei ystyried?

Mae'r ymchwiliad yn edrych ar bolisi ac arfer byd-eang yn ymwneud ag ysgolion yn agor eu drysau y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Mae’n dadansoddi polisi a darpariaeth llywodraethau a chyrff, ac yn edrych ar sut gweithiodd ysgolion unigol i ddarparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar safle’r ysgol ar ôl y diwrnod ysgol.

Mae’r ymchwiliad wedi cyflawni’r canlynol:

  • Ceisio adnabod arfer da, llwyddiannau, a rhwystrau sy'n wynebu ysgolion yn agor eu drysau i gymunedau lleol.
  • Tynnu sylw at y themâu a arweiniodd at ddarpariaeth lwyddiannus o chwaraeon a gweithgarwch corfforol y tu hwnt i'r diwrnod ysgol mewn cyd-destunau niferus; a,
  • Sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn deall yn glir y posibiliadau sydd ar gael iddynt drwy agor ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol.

Nid yw’r ymchwiliad yn awgrymu bod un ffordd ‘arfer gorau’ o agor cyfleusterau ysgolion. Ond mae’n dangos y themâu a sicrhaodd bod rhai ysgolion yn ymgysylltu’n llwyddiannus â’u cymunedau, yn cynyddu’r ymgysylltu â chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac yn gwella iechyd a lles lleol. 

Canfyddiadau Allweddol 

Roedd y themâu ar gyfer arfer llwyddiannus yn cynnwys y canlynol:

  1. Arweinyddiaeth uchelgeisiol 
  2. Cydweithrediad cymunedol 
  3. Seiliedig ar wybodaeth 
  4. Cyllid cyson       

Roedd yr heriau cyffredin yn cynnwys y canlynol:

  1. Diffyg dealltwriaeth o werth agor cyfleusterau ysgolion           
  2. Diogelu a risg       
  3. Cost – capasiti a chyllid 
  4. Covid-19

Casgliad

Mae amrywiaeth eang o ffyrdd y gall ysgolion agor eu cyfleusterau i'r gymuned. Mae ysgolion sy’n creu darpariaeth lwyddiannus yn ymateb i anghenion eu cymuned leol, ac yn cydweithio â darparwyr chwaraeon i ymateb i anghenion disgyblion a’r gymuned. Gall ysgolion ddatblygu rhaglen gadarnhaol a deniadol sy’n cynnig darpariaeth chwaraeon hygyrch i unigolion a chymunedau, gan sicrhau darpariaeth chwaraeon gynaliadwy a all gynnwys iechyd a lles yn y tymor hir.

Ble nesaf?

Gwybodaeth am y treialu - rydym yn treialu drwy gydol 2022 a byddwn yn monitro a gwerthuso’r prosiect lleoliadau addysg actif.