Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif: Adroddiad Cyflwr y Genedl

Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif: Adroddiad Cyflwr y Genedl

Am Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg cenedlaethol gynrychioliadol o aelwydydd sydd wedi'i dargedu at oedolion (16 oed a hŷn).

Astudiaeth ffôn fawr yw'r arolwg sy'n holi pobl ledled Cymru am wahanol agweddau ar eu bywydau. 

Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2024 i Mawrth 2025

Cyhoeddwyd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (Ebrill 2024 – Mawrth 2025) am 9:30am ar 27/08/2025.

Ar gyfer 2024–25, cymerodd tua 6,000 o oedolion (16 oed a hŷn) ran. 

Eleni, ni lwyddwyd i gyfweld cymaint o bobl ag y bwriadwyd, felly dylid darllen y canlyniadau gyda rhywfaint o ofal. 

Er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n fwy cywir, cafodd yr atebion eu cydbwyso (eu pwysoli) i gynrychioli pawb yng Nghymru yn well.

Canfyddiadau Allweddol

Cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol

  • Cymerodd 59% o oedolion ran mewn rhywfaint o chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y 4 wythnos diwethaf.
    • Cymerodd 56% ran mewn gweithgareddau ffitrwydd (e.e. dosbarthiadau, rhedeg, beicio, nofio).
    • Fe wnaeth 19% chwaraeon neu gemau (e.e. pêl-droed, rygbi, tenis bwrdd, golff).
    • Fe wnaeth 6% fwynhau gweithgareddau awyr agored (e.e. caiacio, hwylio).

Gwneud chwaraeon yn amlach

  • Dywedodd 35% o oedolion eu bod yn gwneud chwaraeon neu'n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae hyn wedi gostwng o 39% yn 2022–23.

Eisiau gwneud mwy

  • Dywedodd 35% o oedolion yr hoffent wneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn gyffredinol (wedi codi o 27% yn 2022–23).
    • Mae 22% eisiau gwneud mwy o weithgareddau ffitrwydd.
    • Mae 12% eisiau gwneud mwy o chwaraeon neu gemau.
    • Mae 6% eisiau gwneud mwy o weithgareddau awyr agored.

Beth nesaf?

Bydd adroddiad mwy cyflawn yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn yr Hydref. Bydd yn edrych ar y canlynol:

  • y gwahanol fathau o chwaraeon y mae pobl yn eu chwarae.
  • gwahaniaethau yn ôl oedran, cefndir, a lle mae pobl yn byw.
  • pam mae pobl yn cymryd rhan.
  • defnydd o gyfleusterau.
  • gwirfoddoli mewn chwaraeon a gwylio.
  • agweddau at fod yn egnïol.

Mae llawer mwy o bynciau i'w harchwilio yn yr arolwg ac mae'r prif ganlyniadau ar gael ar hyn o bryd ar dudalen Arolwg Cenedlaethol Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Arolygon blaenorol

Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg cenedlaethol…

Darllen Mwy
Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg o sampl…

Darllen Mwy