Skip to main content

Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg o sampl ar hap o aelwydydd o oedolion (16 oed a hŷn) ledled Cymru. Gweithredir yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Oherwydd newidiadau methodolegol i arolwg 2021-22, dylid cyfyngu ar gymariaethau rhwng ffigurau 2021-22 a ffigurau o arolygon blaenorol a’u trin yn ddoeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y fethodoleg, edrychwch ar y Cyflwyniad

Prif Ganfyddiadau:

Cyfranogiad:

  • Cymerodd 56% o oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol (o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos diwethaf). 
  • Roedd 34% o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol Rhif 38). 
  • Dywedodd mwy o oedolion eu bod yn cymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau ffitrwydd’ (51%), o gymharu â ‘Chwaraeon a Gemau’ (14%), neu Weithgareddau Awyr Agored (6%) (Sylwer – gallai oedolion adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau niferus). 
  • Roedd oedolion yn fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd sawl gwaith yr wythnos; roedd 59% o oedolion a gymerodd ran yn y math yma o weithgaredd yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos. Wrth gymharu, cymerodd 19% o'r rhai a gymerodd ran mewn Chwaraeon a Gemau, a 12% o'r rhai a gymerodd ran mewn Gweithgareddau Awyr Agored, ran yn y mathau yma o weithgareddau deirgwaith neu fwy yr wythnos. 

Galw:

  • Yn gyffredinol, dywedodd 31% o'r holl oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol. 
  • Roedd mwy o alw am ‘Weithgareddau Ffitrwydd’ na ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’; dywedodd 20% o oedolion eu bod eisiau gwneud mwy o ‘Weithgareddau Ffitrwydd’, o gymharu â 10% o oedolion a ddywedodd bod galw am ‘Chwaraeon a Gemau’, a 5% am Weithgareddau Awyr Agored (Sylwer – gallai oedolion adrodd am alw am weithgareddau niferus). 
  • O blith y rhai sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, mae 43% eisoes yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
  • Dywedodd 20% o oedolion nad ydynt eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yr hoffent gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 224,000 o bobl, ac yn cyfateb i 9% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru. 
Logo Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon

Cynnwys: Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y Weledigaeth yw’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu traws-sector mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’n ceisio trawsnewid Cymru yn genedl actif, lle gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol am oes.

Cafodd y weledigaeth ei llunio ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid ac mae’n cynrychioli llais pobl Cymru. Bydd ymdrech gydweithredol i weithio tuag at y Weledigaeth yn cyflawni’r canlynol:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth
  • Rhoi'r sgiliau i bobl Cymru gyrraedd eu potensial
  • Cefnogi cymunedau i ffynnu
  • Creu cyfleoedd i bawb ymuno
  • Hyrwyddo Cymru i'r byd drwy ein hagwedd at chwaraeon