Skip to main content

5. Mwynhad

Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch. 

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y ‘Galw’ a’r ‘Galw Heb ei Fodloni’ am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion. Mae'r ffigurau hyn yn dangos lle mae gan weithgareddau y potensial i gynyddu ac, yn ei dro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.

5.1 Galw Cenedlaethol

Mae oedolion â ‘Galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.

Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, dywedodd 773,000 bod ganddynt alw i gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol, sef 31% o’r holl oedolion.

Graff 8: Cyfran yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o weithgaredd

Graff gyda thri bar fertigol. Y tri bar uchaf ar 20 y cant, sy'n dynodi'r galw am Weithgareddau Ffitrwydd, y bariau eraill yn 10 a 5 y cant. Mae'r rhain yn cynrychioli Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored, yn y drefn honno.

Ar draws y categorïau gweithgarwch eang, roedd gan 20% (500,000 o bobl) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, roedd gan 10% (260,000 o bobl) alw am o leiaf un gweithgaredd ‘Chwaraeon a / neu Gêm’, ac roedd gan 5% (123,000 o bobl) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored’.

Mae hyn yn cyfateb i tua 1 miliwn o gyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyfranogiad ar draws y boblogaeth o oedolion.

Tabl 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o weithgarwch, yn ôl amledd y cyfranogiad.

 Canran o Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos             43%328,000
Wedi cymryd rhan 2 waith yr wythnos           10%79,000
Wedi cymryd rhan 1 waith yr wythnos11%82,000
Wedi cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos37%281,000

 

Ymhlith oedolion sydd â galw am chwaraeon, cymerodd 43% ran, ar gyfartaledd, deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol. I'r gwrthwyneb, roedd 37% o oedolion oedd â galw wedi cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos ar gyfartaledd, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol.

5.2 Daearyddiaeth

 

Tabl 10: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

 Canran o Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol  
Gogledd Cymru30%165,000
Canolbarth Cymru33%55,000
Gorllewin Cymru27%156,000
Canolbarth y De 35%265,000
Gwent 28%132,000
   
Dwysedd Poblogaeth  
Trefol32%529,000
Gwledig29%244,000
   
Cyfanswm Cymru31%773,000

 

Canolbarth y De oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol (35%), sef 265,000 o oedolion. Mae cyfran yr oedolion sydd â galw yng Nghanolbarth y De yn sylweddol uwch na Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru a Gwent.

Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngorllewin Cymru a Gwent yn sylweddol is o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 31%.

Yn ogystal, roedd nifer yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd Trefol yn fwy na dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, gan gynrychioli cyfran ystadegol wahanol o alw rhwng poblogaethau â nodweddion dwysedd amrywiol.

Tabl 11: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

 Canran o Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru  
C1 (20% mwyaf difreintiedig)28%113,000
C2 27%126,000
C331%164,000
C4 30%168,000
C5 (20% lleiaf difreintiedig) 35%202,000
   
Cyfanswm Cymru31%773,000

 

Mae Tabl 11 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn erbyn ei gilydd.

Roedd gwahaniaeth sylweddol o 7 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn wahaniaeth o 89,000 o oedolion.

5.3 Oedrannau

Graff 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Grŵp Oedran

Graff ag wyth bar fertigol. Mae'r bar ar y chwith eithaf yn dynodi galw cenedlaethol, sef 31 y cant. Y bar uchaf, sef 39 y cant, sy'n dynodi bod galw ar gyfer pobl 35 i 44 oed. Mae'r bariau eraill yn 38 ,36 35, 30, 23, a 13 y cant. Mae’r rhain yn cynrychioli pobl 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 45 i 54 oed, 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a phobl 75 oed a hŷn, yn y drefn honno.

Yn gyffredinol, mae cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran. Roedd y rhai rhwng 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed yn fwy tebygol o adrodd am alw i gymryd rhan o gymharu â’r rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed a 75+ oed.

5.4 Demograffeg

Tabl 12: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw i wneud mwy o un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol o leiaf.

 Canran o Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Rhyw:   
Benywod 32%382,000
Gwrywod30%390,000
   
Ethnigrwydd:   
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati)30%697,000
Gwyn – Arall 40%26,000
Unrhyw Grŵp Ethnig arall 44%49,000
   
Salwch, Anabledd neu Lesgedd  
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog                         28%341,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog                         32%430,000
   
Amddifadedd  
Byw mewn amddifadedd materol 31%89,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol31%684,000
   
Yr Iaith Gymraeg  
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)33%94,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd30%678,000
   
Cyfanswm Cymru31%773,000

 

Mae Tabl 12 yn dangos cyfran yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion demograffig.

Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn – Arall’, ac ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol. Roedd gan y ddau grŵp yma fwy o alw am fwy o weithgarwch o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn – (Cymreig, Seisnig, Prydeinig, ac ati)’

Ymhellach, roedd y rhai na ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai oedd â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog.

I’r gwrthwyneb, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng Gwrywod a Benywod, y rhai sy’n byw ac nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol, a’r rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg bob dydd.

5.5 Iechyd a Lles a Hunanadroddir 

Tabl 13: Nifer a chanran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.

 Canran o Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Iechyd Cyffredinol   
Da iawn neu dda32%587,000
Gweddol 29%142,000
Gwael neu wael iawn 21%44,000
   
Unigrwydd   
Ddim yn unig24%177,000
Unig weithiau 33%484,000
Unig 35%111,000
   
Boddhad gyda bywyd  
Mawr iawn 27%214,000
Mawr 33%407,000
Canolig 32%111,000
Isel 30%39,000
   
Hapusrwydd Cyffredinol   
Mawr iawn 27%263,000
Mawr 33%325,000
Canolig 34%122,000
Isel 33%63,000
   
Gorbryder Cyffredinol   
Isel iawn 27%292,000
Isel 34%174,000
Canolig 33%130,000
Mawr 34%176,000
   
Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil  
Mawr iawn 28%268,000
Mawr 32%369,000
Canolig 34%101,000
Isel 31%32,000
   
Ag ymdeimlad o gymuned (perthyn; gwahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, trin gyda pharch)  
Oes29%451,000
Nac oes 34%296,000
   
Cyfanswm Cymru31%773,000

 

Mae Tabl 13 yn dangos sut ymatebodd pobl sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.

Roedd y rhai a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘Dda Iawn neu Dda’ yn fwy tebygol o fod â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn dioddef o iechyd ‘Drwg neu wael iawn’.

Roedd cyfraddau’r galw ar draws y grwpiau a ymatebodd i ‘Boddhad Bywyd Cyffredinol’ a ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn gymysg. Roedd y rhai a nododd bod ganddynt hapusrwydd cyffredinol 'Isel' neu 'Ganolig', ochr yn ochr â'r rhai a nododd 'Isel', Canolig' neu 'Mawr' am Foddhad mewn Bywyd yn llawer mwy tebygol o fod â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â'r rheini a adroddodd hapusrwydd 'Mawr Iawn' a boddhad mewn bywyd.

Roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ neu’n ‘Unig Weithiau’ yn fwy tebygol o fod â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod ‘Ddim yn Unig’.

Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn uwch ymhlith oedolion a nododd lefelau ‘Uchel’ o orbryder cyffredinol o gymharu â’r rhai a nododd orbryder cyffredinol ‘Isel Iawn’.

Roedd cyfran yr oedolion a oedd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ystadegol debyg ar draws y grwpiau ymateb ‘Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil’.

Yn olaf, roedd y rhai nad oes ganddynt ymdeimlad o gymuned yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai sydd ag ymdeimlad o gymuned.

5.6 Fforddiadwyedd Bwyd, Sefyllfa Byw, a Mynediad i Gerbydau.

Graff 10: Canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl fforddiadwyedd bwyd

Graff gyda phedwar bar llorweddol. Y bar uchaf, sef 43 y cant, sy'n dynodi mai’r rhai a gafodd bryd llai o fwyd neu a fethodd brydau yn ystod y pythefnos blaenorol oedd â'r galw mwyaf am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol.  Mae'r tri bar arall ar 40%, 33% a 31%, sy'n cynrychioli'r rhai 'a gafodd o leiaf un diwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf heb unrhyw bryd bwyd sylweddol', sef y rhai 'Wedi derbyn bwyd o fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian', a'r rhai 'a oedd yn cael opsiwn yn cyfateb i gig neu bryd llysieuol bob yn ail diwrnod o leiaf’, yn y drefn honno.

Mae Graff 10 yn cyflwyno cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd

Roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael pryd o fwyd gyda’r hyn oedd yn cyfateb i gig / opsiwn llysieuol bob yn ail ddiwrnod o leiaf yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o’u cymharu â’r rhai a oedd wedi cael prydau llai neu wedi hepgor prydau bwyd, neu wedi cael diwrnod yn ystod y pythefnos blaenorol heb bryd o fwyd sylweddol.

Graff 11: Canran yr oedolion sydd â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl mynediad i gerbydau.

Graff ag wyth bar fertigol. Mae'r bar ar y chwith eithaf yn dynodi galw cenedlaethol, sef 31 y cant. Y bar uchaf, sef 39 y cant, sy'n dynodi bod galw ar gyfer pobl 35 i 44 oed. Mae'r bariau eraill yn 38 ,36 35, 30, 23, a 13 y cant. Mae’r rhain yn cynrychioli pobl 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 45 i 54 oed, 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a phobl 75 oed a hŷn, yn y drefn honno.

Fel y dangosir yng Ngraff 11, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am chwaraeon / gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oes ganddynt ddefnydd o gerbyd.

5.7 Galw Heb ei Fodloni

At ddibenion yr adroddiad hwn, mae’r rhai sydd â ‘Galw Heb ei Fodloni’ yn cyfeirio’n benodol at y rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn camp / gweithgaredd eisoes, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny yn y dyfodol.

Yn 2021-22, dywedodd 44% neu 1,104,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Fodd bynnag, dywed 20% o'r oedolion hyn eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 224,000 o bobl, neu 9% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru.

Graff 12: Nifer yr oedolion nad ydynt eto'n cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau a / neu Weithgareddau Awyr Agored, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny.

Graph 12 	Alt Text: Graph with three vertical bars. The highest bar at 191,000 represents the number of adults who do not yet participate in Sports and Games, but say they would like to.  The other two bars at 183,000 and 101,000, represent the number of adults who want to participate in Fitness Activities and Outdoor Pursuits, but don't yet participate in these activities, respectively. 	Testun Alt: Graff gyda thri bar fertigol. Mae'r bar uchaf, sef 191,000, yn cynrychioli nifer yr oedolion nad ydynt eto'n cymryd rhan mewn Chwaraeon a Gemau, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny. Mae'r ddau far arall, sef 183,000 a 101,000, yn cynrychioli nifer yr oedolion sydd eisiau cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd a Gweithgareddau Awyr Agored, ond nad ydynt yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn eto, yn y drefn honno.

Mae Graff 12 yn dangos bod 183,000 o oedolion yn 2021-22 na chymerodd ran mewn unrhyw ‘Weithgaredd Ffitrwydd’ ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Ymhellach, dywedodd 191,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw ‘Chwaraeon neu Gemau’, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 101,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Awyr Agored, ond yr hoffent wneud hynny.

Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i bron i hanner miliwn o gyfleoedd mewn chwaraeon ymhlith oedolion, oedd eto i’w cyflawni yn ystod 2021-22.

Tabl 14: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

 Oedolion â Galw Heb Ei Fodloni (%)Oedolion â Galw Heb Ei Fodloni 
Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol  
Gogledd Cymru8%44,000
Canolbarth Cymru10%17,000
Gorllewin Cymru9%49,000
Canolbarth y De 11%79,000
Gwent 8%36,000
   
Dwysedd Poblogaeth  
Trefol 10%161,000
Gwledig7%64,000
   
Cyfanswm Cymru9%224,000

 

Canolbarth y De oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o ystyried cyfanswm yr oedolion yn y rhanbarth hwn. Mae cyfradd y galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De yn uwch nag yng Ngogledd Cymru a Gwent. Mae Tabl 14 yn dangos bod llawer mwy o oedolion â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De na sydd mewn rhannau eraill o Gymru. Er enghraifft, er bod y gyfradd yn debyg i gyfradd Canolbarth Cymru, mae nifer gwirioneddol yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De fwy na 4 gwaith yn fwy.

Ymhellach, nododd cyfran uwch o oedolion o ardaloedd trefol alw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol na mewn ardaloedd gwledig. Hefyd, mae tua 2.5 gwaith y nifer o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig.