Skip to main content

1. Cyflwyniad

Mae’r Adroddiad Cyflwr y Genedl yn edrych ar ganfyddiadau’r adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021-2022.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg o sampl ar hap o aelwydydd o oedolion(16 oed a hŷn) o bob rhan o Gymru. Gweithredir yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Cyn 2016, roedd Chwaraeon Cymru yn cynnal arolwg annibynnol o’r enw ‘Yr Arolwg Oedolion Actif’. Ers hynny, mae arolygon cyrff cyhoeddus ar raddfa fawr wedi’u dwyn ynghyd i wella effeithlonrwydd wrth gasglu data ledled Cymru, gan ffurfio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y mae heddiw. O ganlyniad, mae cwestiynau arolwg Chwaraeon Cymru wedi’u hymgorffori bellach yn ACC, ac maent yn cael eu galw yn adran ‘Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif’ yr arolwg.

Methodoleg Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg parhaus, gyda data’n cael eu casglu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn er mwyn osgoi rhagfarn dymhorol o fewn y canlyniadau.

Bob Gwanwyn, mae cylch newydd yn dechrau, a dadansoddir data o'r 12 mis blaenorol i gynhyrchu crynodeb blynyddol o ymddygiad ymhlith oedolion yng Nghymru. Wedyn caiff y data eu pwysoli i gynrychioli nodweddion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, sef tua 2.5 miliwn o oedolion. Cyhoeddir y prif ganlyniadau gan Lywodraeth Cymru yn ystod misoedd yr haf.

Mae’r prif ganfyddiadau a gwybodaeth gefndir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU.

Gwybodaeth Allweddol:

  • Yn 2021-22, cymerodd 12,500 o oedolion (16+ oed) ledled Cymru ran.
  • Roedd adran “Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif” yr arolwg yn canolbwyntio ar gyfranogiad a galw mewn “Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol”. Mae’r cwestiynau hyn o’r arolwg ar gael ar-lein (Tudalennau 130-143).
  • Yn yr adroddiad hwn, mae'r term “Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol” yn cyfeirio at y gweithgareddau a restrir yn Atodiad 7.1.
  • Er mwyn casglu ffigurau cyfranogiad, gofynnwyd i’r ymatebwyr am eu hymddygiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y “…pedair wythnos flaenorol”, gan fod hyn yn rhoi syniad o ymddygiad nodweddiadol yr unigolyn hwnnw. 
  • Mae'r cwestiynau yn yr adran hon yn yr arolwg yn galluogi adrodd ar “Canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos”. Mae hwn yn Ddangosydd Cenedlaethol (Rhif 38) ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Erbyn mis Ebrill 2023, bydd cylch casglu data blynyddol arall wedi dod i ben. Bydd y gyfres nesaf o ganlyniadau cymaradwy yn debygol o gael ei rhyddhau yn ystod yr Haf. 

 

Newidiadau Pwysig i Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22

Oherwydd y gwahaniaethau yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd, ni ddylid cymharu canlyniadau adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 yn uniongyrchol â chanlyniadau blaenorol Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Addaswyd cylch arolygu 2020-21 ar gyfer ei ddefnyddio oherwydd pandemig COVID-19 ac, felly, ni ellid cynnwys yr adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif gan fod y cwestiynau gwreiddiol wedi'u cynllunio i'w gofyn wyneb yn wyneb drwy ddefnyddio cardiau arddangos. Yn ystod y cyfnod hwn, cwblhawyd gwaith ar addasu a threialu’r cwestiynau gwreiddiol, yn barod i’w cynnwys yn arolwg 2021-22.

Ar gyfer yr Adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif, roedd y newidiadau yn cynnwys y canlynol:

  • Defnyddiwyd cyfweliadau ffôn yn lle’r dull cyfweld wyneb yn wyneb a ddefnyddiwyd yn flaenorol.
  • Adolygwyd cwestiynau i fod yn fwy addas i'w cyflwyno dros y ffôn, fel Gweithgareddau Chwaraeon yn cael eu categoreiddio mewn grwpiau ehangach.
  • Ni ellid defnyddio cardiau arddangos mwyach i roi rhestr o opsiynau ymateb i’r cyfranogwyr.

Mae’r newidiadau hyn wedi arwain at doriad yn y data tueddiadau rhwng 2019-20 a 2021-22. Yn eu tro, dylai’r cymariaethau dros amser fod yn gyfyngedig, a dylid eu trin yn ddoeth.

Fodd bynnag, er bod y newidiadau methodolegol diweddar yn effeithio ar gymariaethau â data blaenorol, ystyrir bod y fethodoleg newydd yn rhoi adlewyrchiad cywir o gyfranogiad a galw mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru.

Dehongli'r data:

Dylid nodi y bydd adegau drwy gydol yr adroddiad lle gall cyfansymiau’r tablau amrywio er gwaethaf adrodd ar yr un pwnc. Gall hyn ddigwydd pan fydd ymatebion sy’n cael eu dosbarthu fel data coll, er enghraifft, ymateb ‘ddim yn gwybod’. Enghraifft arall o ble gallai hyn ddigwydd yw pan ofynnir cwestiwn penodol i is-sampl cynrychioliadol o'r arolwg.

Mae’r canrannau wedi'u talgrynnu i'r ganran agosaf, a phoblogaeth y mil agosaf. Mae'r gwahaniaethau rhwng pwyntiau data a'u grwpiau poblogaeth cysylltiedig wedi cael eu hamlygu drwy gydol yr adroddiad. Mae'r gwahaniaethau hyn yn ystadegol arwyddocaol, oni nodir yn wahanol.