Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 7 - Ionawr 2023

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 7 - Ionawr 2023

Cyfwelodd Savanta 1,035 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 6ed Ionawr a 9fed Ionawr 2023. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol. 

Crynodeb Gweithredol 

  • Mae cyfran yr oedolion yng Nghymru sy'n gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol (2 i 4 diwrnod yr wythnos) yn gyson â Chanol 2022 (Awst 22), gyda dau o bob pump yn gwneud hynny. Mae hyn yn gynnydd o gymharu â Dechrau 2022 (Chwefror 22). Mae cyfran y bobl sy’n gwneud gweithgarwch corfforol bob dydd bron (5+ diwrnod yr wythnos) yn parhau’n gyson â 2022 (19%).
  • Cerdded yw'r gweithgaredd mwyaf cyffredin o hyd, yn unol â Chanol 2022 (Awst 22), ac mae wedi cynyddu'n sylweddol o gymharu â Dechrau 2022 (Chwefror 22). Mae llai o ymatebwyr hefyd yn gwneud y gweithgaredd hwn gyda rhywun arall o gymharu â Chanol 2022 (Awst 22).
  • Mae oedolion Cymru yn fwy tebygol o deimlo bod ganddynt y cyfle a'r gallu i fod yn actif o gymharu â Chanol 2022 (Awst 22), yn ogystal â bod yn fwy tebygol o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif. Fodd bynnag, mae gwell mynediad a hyder yn gyson gryfach ymhlith ymatebwyr gwrywaidd o gymharu ag ymatebwyr benywaidd, gan ddangos bod gwaith i'w wneud o hyd.
  • Yn yr un modd, mae hyder pobl i fynychu cyfleusterau dan do yn parhau i gynyddu ar ôl y pandemig. Mae pobl yn fwy tebygol na Chanol 2022 (Awst 22) o fynychu campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd a phyllau nofio, tra bo’r hyder hefyd wedi cynyddu ers Dechrau 2022 (Chwefror 22) i fynychu neuaddau chwaraeon, stiwdios a chyrtiau dan do.
  • Fodd bynnag, mae’r hyder yn gymharol isel o hyd yn gyffredinol. Dywed bron hanner oedolion Cymru nad ydynt yn teimlo’n hyderus mewn cyrtiau dan do, nid yw dau o bob pump yn teimlo’n hyderus mewn stiwdios neu neuaddau chwaraeon, ac nid yw dros draean yn teimlo’n hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd. Mae'r duedd hon eto'n cael ei sbarduno'n bennaf gan ymatebwyr benywaidd, yn ogystal â'r rhai sy'n hŷn.
  • Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio'n sylweddol ar weithgarwch corfforol pobl hefyd. Mae dau o bob pump yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, tra bo traean yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw. Mae hyn yn parhau i fod yn gyson â chanfyddiadau o Ganol 2022 (Awst 22).
  • Mae un o bob pedwar hefyd yn dweud bod newidiadau mewn costau byw yn golygu eu bod wedi / y byddant yn newid i weithgareddau rhatach / am ddim, tra bo un o bob pump yn dweud y byddant / eu bod wedi cymryd rhan mewn llai o weithgareddau y mae’n rhaid talu amdanynt neu'n gwario llai ar ddillad / offer chwaraeon. Mae'r materion hyn yn gyson yn effeithio fwyaf ar bobl ifanc (16 i 34 oed), yn ogystal â phobl â phlant.
  • Dywed dau o bob tri oedolyn o Gymru eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn AG a / neu chwaraeon yn yr ysgol uwchradd i unrhyw raddau, gyda thri o bob deg yn dweud eu bod wedi gwneud hynny i raddau helaeth. Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn AG a / neu chwaraeon yn yr ysgol uwchradd i unrhyw raddau, yn ogystal ag i raddau helaeth.

Lefelau gweithgarwch 

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff a oedd yn ddigon i gynyddu’r gyfradd anadlu. 

  • Gwnaeth mwyafrif oedolion Cymru weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod (46%), sy'n gynnydd ers Dechrau 2022 (Chwefror 22) (41%) ac yn unol â Chanol 2022 (Awst 22) (48%).
  • Mae'r gyfran na wnaeth ymarfer corff wedi aros yn gyson ers mis Awst 22 (22% o gymharu â 20%).
  • Mae nifer y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (19%) yn parhau i ostwng o Ganol 2021 (Awst 21) (29%).
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol na phobl 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (25% o gymharu â 18%).
  • Mae ymatebwyr ar radd gymdeithasol C2DE yn fwy tebygol o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol na'r rhai yn ABC1 (29% o gymharu â 17%).

Math ac amledd y gweithgarwch 

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan yr ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded er diben hamdden (57%), cerdded i deithio (23%) a mynd i'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer corff (15%).
  • Mae’r ymatebwyr yn fwy tebygol nag yn gynnar yn 2022 (Chwefror 22) o fod wedi cerdded er diben hamdden neu deithio (67% o gymharu â 63%).
  • Mae ychydig llai na hanner (49%) y rhai sy'n cerdded i hamddena yn gwneud hynny gyda rhywun arall, gostyngiad o 58% yng nghanol 2022 (Awst 22).
  • Mae dwy ran o dair (65%) o’r rhai sy’n mynd i’r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain, sy’n gynnydd ers Dechrau 2022 (Chwefror 22) (58%), tra bo’r gyfran sy’n gwneud hynny gyda rhywun arall wedi gostwng hefyd (35 o gymharu â 47%).
  • Dywed tri o bob pump o ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai er diben hamdden neu deithio yn rheolaidd (unwaith y mis o leiaf) yn ystod y tri mis diwethaf (62%), tra bo un o bob pump yn dweud eu bod wedi mynd i’r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (23%) ac mae 20% wedi bod yn nofio yn rheolaidd.
  • Dywed mwy nag un o bob deg (14%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf.
  • Mae cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi mynd i’r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff yn rheolaidd yn parhau i gynyddu o ddechrau 2022 (Chwefror 22) (23% o gymharu â 18%).
  • Mae’r ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol na’r rhai 16 i 34 oed o ddweud nad ydynt wedi gwneud unrhyw ymarfer corff rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf (17% o gymharu â 10%), fel y mae’r ymatebwyr benywaidd (16% o gymharu ag 11%).
  • Mae pobl 16 i 34 oed yn fwy tebygol o fod wedi mynd i’r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff yn rheolaidd (37% o gymharu â 27% o gymharu â 11%), tra bo pobl 55+ oed yn fwy tebygol o fod wedi cerdded er diben hamdden neu deithio (70% o gymharu â 49% o gymharu â 62%).

Rhesymau dros gymryd rhan

  • Dywed tri o bob pump (61%) eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, cynnydd o 53% yn gynnar yn 2022 (Chwefror 22), a dywed yr un gyfran eu bod yn gwneud hynny i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (59%),
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol (64% o gymharu â 54%).
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, mae tri o bob pump o'r ymatebwyr (57%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel eu prif reswm dros gymryd rhan, cynnydd o 30% ar ddechrau 2022 (Chwefror 22). Mae un o bob pump (20%) wedi nodi teimlo'n dda fel eu prif reswm.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o nodi bod yn gorfforol iach fel eu prif reswm (63% o gymharu â 52%), tra bo’r ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol o nodi teimlo'n dda fel eu prif reswm (24% o gymharu â 16%).

Cyfle a gallu         

  • Mae saith o bob deg (72%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, cynnydd o 64% yng nghanol 2022 (Awst 22).
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (75% o gymharu â 68%), a hefyd y rhai 16 i 34 oed (81% o gymharu â 74% o gymharu â 63%).
  • Mae saith o bob deg (70%) o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, cynnydd o 65% yng nghanol 2022 (Awst 22).
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (78% o gymharu â 62%).

Agweddau at weithgarwch

Mwynhad, pwysigrwydd a hyder             

  • Mae mwy na hanner (56%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gweld ymarfer corff fel rhywbeth pleserus ac yn llawn boddhad.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o gytuno (62% o gymharu â 51%) eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn llawn boddhad.
  • Mae dwy ran o dair (67%) o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o gytuno (71% o gymharu â 63%) ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Mae tri o bob pump (62%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, cynnydd o 54% yng nghanol 2022 (Awst 22).
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol na’r ymatebwyr benywaidd o gytuno (72% o gymharu â 52%) bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.

Hyder mewn lleoliad 

  • Mae’r hyder mewn lleoliadau dan do wedi parhau i gynyddu ers canol 2022 (Awst 22), gan gynnwys campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (45% o gymharu â 37%) a phyllau nofio (55% o gymharu â 46%).
  • Mae’r hyder wedi cynyddu hefyd ers dechrau 2022 (Chwefror 22) mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (45% o gymharu â 35%), neuaddau chwaraeon (33% o gymharu â 28%), stiwdios (32% o gymharu â 25%) a chyrtiau dan do (28% o gymharu â 25%).
  • Mae’r ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy hyderus na grwpiau oedran eraill mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (58% o gymharu â 51% o gymharu â 33%)

 

  • Fodd bynnag, mae’r hyder yn gyffredinol yn gymharol isel o hyd yn y lleoliadau hyn. Er enghraifft, dywed 47% o’r ymatebwyr nad ydynt yn teimlo’n hyderus mewn cyrtiau dan do, 42% mewn stiwdios, 38% mewn neuaddau chwaraeon, a 35% mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd.
  • Mae'r duedd hon yn cael ei sbarduno’n bennaf gan ymatebwyr benywaidd a hŷn. Mewn cyrtiau dan do, mae’r ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teimlo'n hyderus (55% o gymharu â 37%), fel y mae pobl 55+ oed (54% o gymharu â 37% o gymharu â 44%).
  • Mewn stiwdios, mae pobl 16 i 34 oed yn llai tebygol na’r rhai 35 i 54 oed a 55+ oed o ddweud nad ydynt yn teimlo'n hyderus (35% o gymharu â 44% o gymharu â 46%).
  • Mewn neuaddau chwaraeon, mae’r ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teimlo’n hyderus (50% o gymharu â 25%), tra bo pobl 16 i 34 oed yn llai tebygol na rhai 35 i 54 a 55+ oed o ddweud nad ydynt yn teimlo’n hyderus (27% o gymharu â 41% o gymharu â 44%).
  • Mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, mae’r ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teimlo’n hyderus (42% o gymharu â 27%), tra bo pobl ifanc 16 i 34 oed yn llai tebygol na rhai 35 i 54 oed a 55+ oed o ddweud nad ydynt yn teimlo hyderus (22% o gymharu â 36% o gymharu â 43%).

 

  • Mae dau o bob pump o'r ymatebwyr (40%) oedd wedi cymryd rhan mewn camp neu weithgaredd yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg wedi defnyddio cyfleuster dan do.
  • Mae 22% wedi defnyddio campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd, 20% wedi defnyddio pyllau nofio dan do, ac 8% wedi defnyddio cyfleusterau dan do eraill
  • Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y defnydd o byllau nofio o Ddechrau 2022 (Chwefror 22) (20% o gymharu â 16%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn camp neu weithgaredd mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae bron i naw o bob deg yn dweud eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (88%) a phyllau nofio dan do (88%).

Cwestiynau Pwnc

Gwirfoddoli 

  • Nid yw ychydig dros ddau o bob pump o'r ymatebwyr (43%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y tair blynedd diwethaf, tra bo un o bob deg (11%) wedi rhoi'r gorau i wirfoddoli. Mae mwy nag un o bob deg (15%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd, cynnydd sylweddol o gymharu â Dechrau 2022 (Chwefror 22) (12%).
  • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn fwy tebygol o fod yn wrywod (20% o gymharu â 10%), 16 i 34 oed (26% o gymharu â 16% o gymharu â 7%) a bod â phlant (22% o gymharu â 11%)
  • Dywed bron i hanner yr ymatebwyr na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (47%), tra bo mwy na thraean yn dweud eu bod yn debygol o gefnogi achos y tu allan i’r coronafeirws neu chwaraeon a gweithgarwch corfforol (36%).
  • Mae traean hefyd yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (34%) neu gefnogi'r ymateb i'r coronafeirws (34%).
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd (39% o gymharu â 29%) a’r rhai 16 i 34 oed (44% o gymharu â 31% o gymharu â 29%) yn fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi'r ymateb i'r coronafeirws.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd (41% o gymharu â 26%) a’r rhai 16 i 34 oed (46% o gymharu â 34% o gymharu â 26%) yn fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd (43% o gymharu â 30%) a’r rhai 16 i 34 oed (48% o gymharu â 36% o gymharu â 29%) yn fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi achos y tu allan i'r coronafeirws neu chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Costau Byw     

  • Mae dau o bob pump o’r ymatebwyr (42%) yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, gyda llai nag un o bob deg (9%) yn dweud ei fod wedi cael effaith gadarnhaol.
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (45% o gymharu â 50% o gymharu â 35%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif , fel y mae'r rhai â phlant o gymharu â'r rhai heb blant (53% o gymharu â 36%).
  • Dywed bron i hanner (47%) yr ymatebwyr nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, tra bo traean (32%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw a llai nag un o bob deg (8%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud mwy.
  • Mae’r ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol na’r ymatebwyr gwrywaidd (37% o gymharu â 27%) ac mae’r rhai 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na’r rhai 55+ oed (41% o gymharu â 39% o gymharu â 21%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, fel y mae'r rhai â phlant o gymharu â'r rhai heb blant (46% o gymharu â 25%).
  • Dywed chwarter (24%) yr ymatebwyr bod newidiadau mewn costau byw yn golygu eu bod wedi / y byddant yn newid i weithgareddau rhatach / am ddim, tra bo un o bob pump yn dweud y byddant / eu bod wedi cymryd rhan mewn llai o weithgareddau y mae’n rhaid talu amdanynt (22%) neu’n gwario llai ar ddillad / offer chwaraeon (20%).
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (29% o gymharu â 27% o gymharu â 18%) o ddweud bod newidiadau mewn costau byw yn golygu eu bod wedi / y byddant yn newid i weithgareddau rhatach / am ddim, fel y mae’r rhai â phlant o gymharu â'r rhai heb blant (31% o gymharu â 20%).
  • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed (25% o gymharu â 30% o gymharu â 15%) o ddweud bod newidiadau mewn costau byw yn golygu eu bod wedi / y byddant yn newid i weithgareddau rhatach / am ddim, fel y mae'r rhai â phlant o gymharu â'r rhai heb blant (37% o gymharu â 15%).
  • Mae'r rhai â phlant yn fwy tebygol na'r rhai heb blant (27% o gymharu â 17%) o ddweud bod newidiadau mewn costau byw yn golygu eu bod wedi / y byddant yn gwario llai ar ddillad / offer chwaraeon.

 

Gweithgarwch ysgolion uwchradd

  • Dywedodd tri chwarter yr ymatebwyr (73%) eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn AG a / neu chwaraeon yn yr ysgol uwchradd i unrhyw raddau, gyda thri o bob deg (30%) yn dweud eu bod wedi gwneud hynny i raddau helaeth.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd (84% o gymharu â 62%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn AG a / neu chwaraeon yn yr ysgol uwchradd i unrhyw raddau, yn ogystal ag i raddau helaeth (40% o gymharu â 21%).