Skip to main content

Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol - Ymgynghoriad

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol - Ymgynghoriad

Canfyddiadau'r Ymgynghoriad - Crynodeb Gweithredol

Yn dilyn lansio ein Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol, roedd Chwaraeon Cymru eisiau sicrhau dealltwriaeth well gan y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol o’r hyn sydd ei angen i gyflymu camau gweithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Aethom ati i gwblhau darn o waith ar y cyd gyda Sport England a sportscotland i gasglu gwybodaeth am y camau gweithredu presennol, yr heriau a’r gefnogaeth sydd ei hangen.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan yr Useful Group, a gynhaliodd gyfweliadau a grwpiau ffocws gydag amrywiaeth o sefydliadau a datblygu arolwg ar-lein ar gyfer clybiau ar lawr gwlad.

Mae’r crynodeb isod yn nodi’r hyn rydym wedi ei glywed gennych chi am beth rydych eisoes yn ei wneud, yr effeithiau amgylcheddol a’r heriau rydych chi’n mynd i’r afael â hwy a’r rhwystrau i weithredu. Byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid drwy’r Gynghrair Chwaraeon, yr Amgylchedd a’r Hinsawdd i ymateb yn uniongyrchol i rai o’r heriau a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Un enghraifft o hyn yw ‘Yr Hwb Adnoddau’ sy’n dod â’r wybodaeth ddiweddaraf am gynaliadwyedd chwaraeon, a hefyd dogfennau ac adnoddau ymarferol a all eich cefnogi chi i weithredu, at ei gilydd.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a byddwn yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar yr agenda yma yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

logo Chwaraeon Cymru, logo Sport England, logo sportscotland a logo Useful Projects

Pam mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig

Mae digwyddiadau tywydd eithafol a’r argyfwng ynni eisoes yn effeithio ar bob rhan o gymdeithas ym Mhrydain Fawr, ac mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am gamau cyflymach i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn dod yn fwy cyffredin yn fyd-eang ac yn lleol.

Mae Sport England, sportscotland a Chwaraeon Cymru yn ymwybodol iawn y bydd y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael ei effeithio gan newid yn yr hinsawdd ac ansawdd amgylcheddol (sy'n effeithio ar allu pobl i gymryd rhan), yn ogystal â chael effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn cydnabod bod gennym gwmpas, cyfle a rhwymedigaeth sylweddol i greu newid cadarnhaol. Fodd bynnag, nid oes dealltwriaeth gyffredin o’r broblem ar draws ein sector, sut i ddechrau arni, a ble gall y sector gael yr effaith fwyaf. Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam cyntaf i fynd i’r afael â hyn.

Bydd Sport England yn defnyddio canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn i ddatblygu strategaeth ar gyfer sut gall gefnogi a dylanwadu ar y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad i gyflymu camau gweithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd Chwaraeon Cymru (sydd eisoes â strategaeth gynaliadwyedd, Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol Chwaraeon Cymru) a sportscotland yn defnyddio’r canfyddiadau a’r wybodaeth i flaenoriaethu ac fel sail i’r camau maent yn eu cymryd i gefnogi clybiau / grwpiau / sefydliadau chwaraeon.

Methodoleg

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Ebrill a Mai 2023 gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol i ddeall yr heriau presennol, y camau gweithredu, y cyfleoedd a’r cymorth sydd eu hangen..

  • Cafwyd 475 o ymatebion o bob rhan o Brydain Fawr a chan 76 o wahanol chwaraeon mewn arolwg ar-lein, a dargedwyd at glybiau / sefydliadau / grwpiau ar lawr gwlad.
  • Cynhaliwyd 19 cyfweliad ar-lein gydag amrywiaeth o arweinwyr o fewn y Cynghorau Chwaraeon, partneriaid system / cyrff ymbarél, a chyrff rheoli.
  • Cynhaliwyd 6 grŵp ffocws ar-lein, gyda chyfanswm o 161 o bobl yn bresennol o gyrff rheoli a phartneriaid system / cyrff ymbarél, Awdurdodau Lleol, a pherchnogion a gweithredwyr y llefydd a’r mannau lle mae gweithgarwch corfforol yn digwydd.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan Useful Projects (ymgynghoriaeth cynaliadwyedd, Menter Gymdeithasol a B Corp), gyda chefnogaeth Right Formula ac EcoIMPACT SPORTS. 

Gweithredu

Mae ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd am newid yn yr hinsawdd, ac adlewyrchwyd hyn yn yr ymgynghoriad. Mae’r ymgynghoriad wedi datgelu bod gan y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol lefelau da eisoes o wybodaeth am effeithiau amgylcheddol a sut byddant yn effeithio ar glybiau / sefydliadau / grwpiau, a digon o uchelgais i fynd i’r afael â’r materion hyn. Dywedodd 82% o ymatebwyr yr arolwg eu bod am i'w sefydliad fod yn uchelgeisiol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol.

Dywedodd 62% o ymatebwyr yr arolwg eu bod wedi rhoi rhyw fath o gamau amgylcheddol ar waith; rydym yn credu bod y ganran hon yn arbennig o uchel oherwydd ei bod yn debygol bod yr arolwg wedi'i gwblhau gan y rhai sy'n ymgysylltu fwyaf yn y sector. Yn ystod y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, roedd y rhanddeiliaid yn teimlo’n gyffredinol mai ychydig iawn o gamau sy’n cael eu cymryd gan glybiau / grwpiau ar lawr gwlad, ond bod rhai CRhC wedi dechrau.

Mae'n ymddangos bod y gallu i weithredu yn cael ei lesteirio gan ddiffyg arian a chapasiti i roi newidiadau ar waith - mewn sector sy'n ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr ac sydd â phrinder arian parod.

Mae rhai rhannau o’r sector wedi bod yn cymryd camau i reoli effeithiau amgylcheddol ers blynyddoedd lawer, yn enwedig chwaraeon sy’n rhyngweithio â dŵr (naill ai ansawdd dŵr, llifogydd neu sychder). Roedd gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau, cyfathrebu i ddylanwadu ar ymddygiadau cyfranogwyr (e.e. y ffordd maent yn teithio), a mentrau ailddefnyddio / ailgylchu hefyd yn gamau gweithredu yr adroddwyd amdanynt yn gyffredin.

Datgelodd yr arolwg bod sefydliadau sy’n berchen ar eu cyfleusterau eu hunain yn tueddu i fod wedi rhoi mwy o gamau ar waith na’r rhai nad ydynt. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd bod ganddynt fwy o reolaeth dros y cyfleuster a'i weithrediadau. Hefyd mae clybiau / sefydliadau gyda mwy o arian wedi tueddu i fod wedi gweithredu mwy.

Dywedodd bron i chwarter y rhai a ymatebodd i’r arolwg eu bod wedi asesu eu heffeithiau ac wedi rhoi Polisi, Cynllun Gweithredu neu Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol ffurfiol ar waith – ond rydym yn ymwybodol bod pobl a ymatebodd i arolwg am gynaliadwyedd amgylcheddol yn debygol o ymgysylltu mwy â’r agenda. .

Dywedodd 25% o ymatebwyr yr arolwg nad ydynt erioed wedi gofyn am gyngor cynaliadwyedd. I'r rhai sydd wedi gwneud hynny, maent yn mynd at ystod eang o ffynonellau ar gyfer hyn, y gellid eu hystyried yn aneffeithlon ac a allai hefyd arwain at negeseuon cymysg. Mae clybiau chwaraeon yn tueddu i fynd at gyrff rheoli am gyngor, neu chwilio am arbenigedd ymhlith eu haelodau. Dywedodd sefydliadau cymunedol eu bod yn tueddu i fynd at eu hawdurdod lleol neu sefydliad chwaraeon neu weithgarwch corfforol lleol arall am gyngor, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau lleol o fewn ardal ddaearyddol.

Mae cyrff rheoli yn tueddu i fynd at ymgynghoriaethau / elusennau, a'r Cynghorau Chwaraeon. Mae’r rhain yn ystyriaethau pwysig ar gyfer y cymorth sydd ei angen. Y cwestiwn i'r Cynghorau Chwaraeon yw, sut gallant ddylanwadu ar wella hyn?

Fe wnaethom ofyn am y sbardunau ar gyfer gweithredu. Dywedodd 56% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg mai rhesymau moesol a moesegol yw’r rhesymau cryfaf, wedi’u dilyn yn agos gan gynllunio gwydnwch busnes hirdymor ac arbed arian.

Ymatebion yr arolwg ar y rhesymau dros lefel uchelgais cynaliadwyedd amgylcheddol y sefydliad: Rhesymau cyfrifoldeb amgylcheddol moesol / moesegol (56%), Cynllunio gwydnwch busnes hirdymor (e.e. diogelu cyfleusterau chwaraeon) (49%), arbed arian (44%), Disgwyliadau aelodau / rhanddeiliaid (39%), Gofyniad cyllid / buddsoddiad (33%), Arall (rhowch fanylion) (11%), ddim yn siwr (5%)

Ymatebion yr arolwg ar y rhesymau dros lefel uchelgais cynaliadwyedd amgylcheddol y sefydliad

Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg beth oedd y cyfleoedd amgylcheddol allweddol ar gyfer eu sefydliad yn eu barn hwy, fel ateb rhydd. Roedd yr ymatebion mwyaf poblogaidd yn ymwneud â'r canlynol:

  • Ynni a charbon
  • Teithio
  • Lleihau gwastraff ac ailgylchu

Mae hyn yn cyd-fynd â'r effeithiau allweddol y dywedodd sefydliadau / grwpiau chwaraeon a gweithgarwch corfforol maent yn eu cael ar yr amgylchedd ac felly maent yn feysydd allweddol ar gyfer darparu cymorth.

Drwy’r ymgynghoriad, rydym wedi casglu nifer o astudiaethau achos arfer gorau gan sefydliadau a grwpiau sydd wedi gweithredu, y gellir eu rhannu â’r sector ehangach i helpu i gyflymu cynnydd.