Skip to main content

Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol - Canfyddiadau allweddol

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol - Ymgynghoriad
  4. Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol - Canfyddiadau allweddol

Mae ystod eang o heriau amgylcheddol yn wynebu'r sector. Mae llawer o'r rhain yn gyffredin ar draws pob math o chwaraeon, ond yn naturiol, mae rhai chwaraeon yn wynebu materion gwahanol i rai eraill.

Mae pob rhan o'r sector eisoes yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng ynni ac argaeledd adnoddau. Costau ynni cynyddol, a chostau cynhyrchion a deunyddiau oedd yr heriau ymddangosiadol mwyaf yn yr arolwg, ac ategwyd hyn yn y grwpiau ffocws a'r cyfweliadau.

Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol a wneir yn yr awyr agored eisoes yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau tywydd eithafol (llifogydd / sychder / tywydd poeth). Dywedodd 39% o’r ymatebwyr bod tarfu ar chwarae oherwydd y tywydd yn her maent yn ei hwynebu.

Mae canfyddiadau'r ymgynghoriad yn dynodi mai'r effeithiau mwyaf y mae'r sector yn eu cael ar yr amgylchedd yw: dibyniaeth ar geir i deithio i / o fannau lle mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn digwydd; defnydd o nwy a thrydan o adeiladau (ac mae llawer ohonynt yn heneiddio, yn aneffeithlon o ran ynni ac yn gostus i'w gweithredu); a materion gwastraff (naill ai heriau sbwriel / ailgylchu neu git chwaraeon ac offer sydd ag oes fer).

Cwestiwn arolwg: Pa effeithiau, os o gwbl, y mae eich sefydliad yn eu cael ar yr amgylchedd yn eich barn chi? (Dewiswch eich 3 uchaf): Dibyniaeth ar gar i gyrraedd y clwb / cyfleuster / cystadlaethau / gemau (58%), Defnydd o nwy a thrydan (50%), Materion dŵr - sbwriel, diffyg cyfleusterau ailgylchu neu wasanaeth casglu (36%), Materion gwastraff - cit ac offer chwaraeon gydag oes fer (29%), Defnydd o fwyd a diod (24%), Defnydd cemegol (18%), Colli bioamrywiaeth a difrod (8%), Dim un o’r rhain (6%), Arall (rhowch fanylion) (4%), ddim yn siwr (3%)

Cwestiwn arolwg: Pa effeithiau, os o gwbl, y mae eich sefydliad yn eu cael ar yr amgylchedd yn eich barn chi? (Dewiswch eich 3 uchaf)

Rhwystrau i weithredu ar yr heriau hynny

Un o’r cwestiynau allweddol a ofynnwyd yn ystod yr ymgynghoriad oedd “beth yw’r rhwystrau i weithredu ar yr heriau amgylcheddol hyn?”

Dim digon o gyllid oedd y rhwystr mwyaf i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol yn yr arolwg, a’r ail rwystr mwyaf i gyrff rheoli.

Ar gyfer cyrff rheoli ac ymbarél, diffyg capasiti oedd y prif rwystr, gyda'r mwyafrif heb swyddi cynaliadwyedd penodol. Cadarnhawyd y canfyddiadau hyn drwy’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, gyda'r cyrff rheoli eisiau “rhoi trefn ar eu tŷ eu hunain” cyn eu bod yn teimlo y gallant gefnogi eu haelodau.

Dynododd y cyfweliadau a'r grwpiau ffocws bod clybiau / grwpiau yn deall y materion, ond y brif her yw gwybod ble a sut i ddechrau a chael yr amser a'r arian i wneud hynny: mae her o ran gweithredu. Nododd yr arolwg yr angen am symud o ymwybyddiaeth i gamau ymarferol a newid ymddygiad.

Mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol hamdden, nid yw'r adeiladau a'r cyfleusterau yn eiddo i'r clwb / partner darparu gweithgarwch yn aml, a thynnwyd sylw at y diffyg rheolaeth a gallu i wneud newidiadau; rhoi pwyslais ar rôl dylanwadu, cydweithredu a gweithredu ar y cyd wrth gyflawni uchelgeisiau cynaliadwyedd amgylcheddol. 

 

Tri uchaf

Ydi eich sefydliad yn berchen ar ei gyfleusterau?
YdiNac ydi
1Dim digon o gyllidDiffyg capasiti
2Diffyg capasitiDim digon o gyllid
3Diffyg gwybodaeth ac arbenigeddDiffyg gallu i ddylanwadu
Y prif rwystrau i weithredu ar heriau amgylcheddol, yn dibynnu ar a yw'r sefydliad yn berchen ar ei gyfleusterau ei hun ai peidio

475 o’r ymatebwyr i’r arolwg o bob rhan o Brydain Fawr:

  • 76 o wahanol chwaraeon a gweithgareddau wedi’u cynrychioli
  • 86% o'r ymatebwyr yn credu bod eu sefydliadau naill ai'n eithaf gwybodus neu'n wybodus iawn am faterion cynaliadwyedd
  • 82% eisiau i’w sefydliadau fod yn uchelgeisiol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol
  • 58% yn ystyried dibyniaeth ar geir fel effaith amgylcheddol fwyaf eu sefydliad
  • 25% o sefydliadau heb ofyn am gyngor ar gynaliadwyedd erioed
  • 58% wedi dweud bod defnydd ynni yn her amgylcheddol allweddol, os ydynt yn berchen ar eu cyfleusterau eu hunain ai peidio
  • 56% wedi dweud mai rhesymau moesol a moesegol yw'r sbardunau cryfaf dros weithredu, gyda gwydnwch busnes ac arbed arian yn dilyn yn agos
  • 55% o sefydliadau yn gweld diffyg cyllid fel y rhwystr mwyaf i weithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol

Y gefnogaeth sydd ei hangen

Darparwyd ystod eang o ymatebion, gan ddynodi y byddai gwahanol fathau o gymorth cynaliadwyedd amgylcheddol o fudd i'r sector. Yn y dadansoddiad, rydym yn tynnu sylw at y cymorth sydd ei angen ar Gyrff Rheoli / Partneriaid System (a lle maent yn cael mynediad at y cymorth hwn ar hyn o bryd), yn ogystal â’r cymorth sydd ei angen ar y clybiau a’r grwpiau ar lawr gwlad.

Nodwyd cyllid ar gyfer mentrau amgylcheddol fel y math o gefnogaeth a ddymunir fwyaf ar gyfer sefydliadau: dywedodd 59% o ymatebwyr hyn. Daeth cyllid a mwy o gapasiti ar gyfer partneriaid systemau ar gyfer cynaliadwyedd yn amlwg iawn hefyd yn y grwpiau ffocws a'r cyfweliadau.

Y meysydd cymorth allweddol eraill yr oedd eu hangen oedd:

  • Canllawiau - deunydd ar-lein a allai gynnwys canllawiau, templedi, pecynnau adnoddau ac ati
  • Cefnogaeth a chyngor arbenigol, e.e. drwy ymweliadau safle personol neu fynediad at ymgynghorwyr
  • Sesiynau hyfforddi ac addysg am ddim (e.e. Pecyn Adnoddau Chwaraeon Llythrennedd Carbon)
  • Adnoddau cyfathrebu am ddim i’w lawrlwytho (e.e. posteri)
  • Offer mesur amgylcheddol am ddim (e.e. mesuryddion ynni, synwyryddion)
  • Mentrau / ymgyrchoedd ar y cyd i gymryd rhan ynddynt
  • Astudiaethau achos o arfer orau a gwersi a ddysgwyd

Amlygwyd yr angen am ganolbwyntio ar “gynnydd nid perffeithrwydd”, felly bydd mesurau cefnogi sy’n ei gwneud yn hawdd i glybiau gymryd camau bach yn bwysig.

Yn ogystal, mae’r ymgynghoriad wedi pwysleisio’r angen am arweiniad traws-sector: yr angen am gyfeiriad a negeseuon clir, un llais, eglurder a chydweithredu. Mae hyn yn cadarnhau pwysigrwydd y Gynghrair Chwaraeon, Amgylchedd a Hinsawdd (SECC), i arwain a chydlynu ymdrechion y sector ar newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol ehangach.

Mae’r sector hefyd yn chwilio am gyfleoedd i gydweithredu, rhwydweithio ag eraill ar yr un siwrnai, rhannu dysgu ac arbenigedd, a hyd yn oed cydweithio i ddylanwadu ar bartneriaid masnachol er enghraifft.

Yr heriau amgylcheddol allweddol yr hoffai’r sector gael cymorth i fynd i’r afael â hwy yw:

  • Teithio: Lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â theithio i / o'r mannau lle mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn digwydd (hyfforddiant / cystadlaethau ac ati).
  • Adeiladau: Lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon o adeiladau.
  • Economi gylchol: lleihau defnydd a gwastraff sy'n gysylltiedig ag offer, cit a gweithrediadau cyffredinol.
  • Ansawdd a defnydd dŵr: gwella ansawdd dŵr (afonydd / llynnoedd / môr), rheoli costau dŵr cynyddol, rheoli llifogydd a sychder ar gaeau awyr agored a mannau gwyrdd trefol.
  • Addasu i newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol: i gynnal gallu’r sector i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, nawr ac yn y dyfodol.

Mae pŵer chwaraeon i ymgysylltu â phobl bob dydd a dylanwadu’n gadarnhaol arnynt wedi’i gydnabod ers blynyddoedd lawer. Drwy gydol yr ymgynghoriad, codwyd yr angen am newid ymddygiad amgylcheddol ymhlith darparwyr chwaraeon a gweithgareddau a chyfranogwyr fel ei gilydd (sut rydym yn teithio, beth rydym yn ei brynu, osgoi gwastraff, arbed ynni ac ati).

Er bod gan bencampwyr / arwyr chwaraeon ran i'w chwarae, datgelodd yr ymgynghoriad mai hyfforddwyr / addysgwyr yn aml sy'n arweinwyr uchel eu parch yn y gymuned ar lawr gwlad, yn gweithio gyda chyfranogwyr yn wythnosol. Drwy ddarparu sesiynau hyfforddi ac ymgysylltu i hyfforddwyr / addysgwyr / rheolwyr, a’u cael hwy i ddangos arweiniad ar gyfer gweithredu dros gynaliadwyedd amgylcheddol, gallem gyflawni sgil-effeithiau ar ffurf newid ymddygiad a gweithredu.

Rôl Sport England, sportscotland, a Chwaraeon Cymru

Mae llawer o sefydliadau’n gweithredu yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac yn aml mae’n aneglur pwy sy’n gwneud beth/a ddylai fod yn gwneud beth a sut mae holl agendâu a gweithgareddau’r sefydliadau yn cyd-fynd (neu beidio).

Y meysydd allweddol lle’r oedd cyfranogwyr yr ymgynghoriad yn teimlo y gallai Sport England, sportscotland a Chwaraeon Cymru chwarae rhan, o ystyried eu safle a’u rôl yn y sector, oedd :

  • Arweinyddiaeth a dylanwad: Dylanwadu “i fyny" at y Llywodraeth (e.e. newid polisi), dylanwadu a galluogi newid systemau gan weithio gyda phartneriaid, ac ysbrydoli a chefnogi “i lawr” i glybiau a chyfranogwyr.
  • Buddsoddi mewn partneriaid strategol: Parhau â / cynyddu cyllid partneriaid strategol – gallai’r Cynghorau Chwaraeon ariannu swyddi cynaliadwyedd, a allai yn ei dro gael dylanwad enfawr ar draws y sector.
  • Cyllid agored ar gyfer clybiau / grwpiau / cyfleusterau: Defnyddio cyllid grant fel ysgogiad ar gyfer newid. Cyflwyno grant amgylcheddol / gweithredu dros yr hinsawdd, a / neu gyflwyno meini prawf amgylcheddol fel rhan o Raglenni Grantiau mwy eraill.
  • Ariannu canllawiau ac adnoddau canolog: Ariannu cyngor /cymorth arbenigol am ddim, canllawiau ar-lein a thempledi cynllun gweithredu, sesiynau hyfforddi ac addysg am ddim (e.e. helpu i ariannu’r Pecyn Chwaraeon Llythrennedd Carbon). Gallai'r Cynghorau Chwaraeon gyflwyno adnoddau canolog y gellir eu haddasu / defnyddio ar draws gwahanol chwaraeon / cyfleusterau - i osgoi dyblygu ymdrechion. Gellid cynnwys cyfeirio at astudiaethau achos arfer gorau yn hyn.
  • Cyfleusterau a chynllunio: Drwy ein hymwneud â’r system gynllunio, arwain canllawiau dylunio’r sector ac fel buddsoddwr mewn cyfleusterau chwaraeon, gall y Cynghorau Chwaraeon godi’r safon ar gyfer cyfleusterau newydd a gallent gyflwyno safonau cynaliadwyedd gofynnol yn seiliedig ar y math o gyfleuster gan hefyd sicrhau eu bod realistig ac yn hyfyw.
  • Cyfathrebu ac ymgyrchoedd: Gall Cynghorau Chwaraeon gyflwyno ymgyrchoedd pwerus a helpu i gyfathrebu'r neges i ysbrydoli gweithredu. Fel y dywedodd un rhanddeiliad, “Rydym yn gweld chwaraeon fel cyfrwng i gyrraedd ystod ehangach o gymunedau na fyddent o bosibl yn ymgysylltu â newid hinsawdd fel arall.” Cafodd ymgyrch ‘This Girl Can’ Sport England ei dyfynnu sawl gwaith fel enghraifft wych o ymgyrch bwerus. Roedd 22% o ymatebwyr yr arolwg yn meddwl y byddai mentrau / ymgyrchoedd ar y cyd i gymryd rhan ynddynt yn ddefnyddiol. Teimlai rhanddeiliaid y gallai’r negeseuon ganolbwyntio ar ‘pam mae hyn yn bwysig ar gyfer chwaraeon’ – mae hyn yn bwysig i’n pobl ifanc ni, chwaraewyr a chyfranogwyr y dyfodol ac ati. Gallai llawer o negeseuon a awgrymwyd gyfeirio hefyd at y cyd-fuddiannau, e.e., arbed arian, buddion cymdeithasol.
  • Rôl gydlynu: Gallai’r Cynghorau Chwaraeon fod yn gydlynydd / cynullydd, efallai drwy gyflwyno rhwydwaith cynaliadwyedd ar gyfer cynrychiolwyr o’r partneriaid strategol a’r CRhC y maent yn eu hariannu, ynghyd â chyrff anllywodraethol amgylcheddol ac arbenigwyr cynaliadwyedd. Gallent hefyd gynnwys noddwyr ehangach a phartneriaid masnachol mewn gweithgor cynaliadwyedd neu rwydwaith rhannu gwybodaeth, i helpu i sbarduno newid.
  • Ysbrydoliaeth a chymhellion: Drwy’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, cadarnhawyd yr angen am ddull “moronen yn hytrach na ffon” – h.y. i’r Cynghorau Chwaraeon ddarparu ysbrydoliaeth, cymhellion a chefnogaeth yn hytrach na gofynion neu feini prawf llym i gydymffurfio â hwy. Gallai’r Cynghorau Chwaraeon ystyried cynnwys mwy o gymorth amgylcheddol a metrigau yn eu cod llywodraethu chwaraeon er mwyn cael mwy o gydraddoldeb ochr yn ochr â’u ffocws ar gyfranogiad a chynhwysiant.
  • Cysylltu’r agendâu amgylcheddol a chymdeithasol: Roedd y rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfle allweddol i’r Cynghorau Chwaraeon asio’r agendâu amgylcheddol a chymdeithasol yn hytrach na’u hystyried ar wahân, fel rhan o’r ‘trosi cyfiawn’ a ‘chyfiawnder hinsawdd’.