Skip to main content

Ble i ailgylchu cit chwaraeon ac offer yng Nghymru

Mae’n Wythnos Ailgylchu 2023 (16 i 22 Hydref) ac mae’n gyfle perffaith i wneud yn siŵr bod chwaraeon yng Nghymru yn gwneud ei ran.

Rydyn ni’n gwybod bod chwaraeon yn cael effaith ar yr amgylchedd ond mae ffyrdd y gallwn ni fynd ati i leihau ein gwastraff. Mae ailgylchu hen ddillad a chit chwaraeon yn ffordd wych o ddechrau lleihau ein heffaith ar y blaned.

Pam ailgylchu hen ddillad a chit chwaraeon?

  • Mae'n dda i'r amgylchedd. Mae angen ynni a deunyddiau i wneud pethau fel cit chwaraeon, padiau crimog ac esgidiau golff. Mae defnyddio ynni yn aml yn golygu llosgi glo, olew neu nwy sy'n achosi newid hinsawdd. A phan fyddwn ni wedi tyfu allan o git neu pan nad oes ei angen bellach, mae’n aml yn cael ei daflu, sy’n cyfrannu at y broblem tirlenwi.
  • Pan fyddwn yn pasio hen git ymlaen i rywun arall, mae'n golygu bod posib i eraill gymryd rhan mewn chwaraeon heb iddo gostio'r ddaear (yn llythrennol). Mae ei roi i rywun arall, neu hyd yn oed ei werthu ymlaen am gost is, yn helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol chwaraeon.
  • Ac mae hynny'n golygu y gall ailgylchu cit helpu i gael mwy o bobl i chwarae a hoffi chwaraeon - yng Nghymru ond hefyd dramor mewn gwledydd tlotach. Mae pawb ar eu hennill drwy wneud hyn.

Sut gallaf i ailgylchu fy hen ddillad a chit chwaraeon?

Mae llawer o gynlluniau sy'n ailgylchu hen git chwaraeon yng Nghymru. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • Play It Again Sport - mae’n cymryd unrhyw offer a dillad chwaraeon y mae posib eu defnyddio. Mae ganddyn nhw nifer o finiau cyfrannu mewn canolfannau hamdden ac yma yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Maen nhw’n cael eu gwerthu am gost lawer is ac mae’r arian sy’n cael ei godi’n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau chwaraeon lleol.
  • Lord’s Taverners – gallwch gyfrannu cit i’ch hwb casglu agosaf a gwybod y bydd yn cael ei ailddosbarthu ar draws y DU a ledled y byd i brosiectau teilwng.
  • SOS Kit Aid – yn casglu cit o glybiau rygbi a phêl droed ac mae’n cael ei anfon dramor i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Yr Ystafell Git Gymunedol- ewch â'ch hen git chwaraeon i leoliad hwb ym Mlaenau Gwent i gael ei ailddefnyddio yn y gymuned. Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn gweithio mewn partneriaeth â StreetGames Cymru i sicrhau nad yw cael y cit priodol yn rhwystr i gyfranogiad.
  • Hefyd mae llawer o brosiectau ledled Cymru lle gallwch chi gyfrannu hen esgidiau ac esgidiau ymarfer fel Ystafell Esgidiau Casnewydd, Esgidiau i'r Adar Gleision ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl Droed Wrecsam. Yn ogystal mae’rYstafell Esgidiau yn Abertawe wedi bod mor llwyddiannus fel ei bod hefyd wedi sefydlu The Kit Room. Felly, chwiliwch er mwyn dod o hyd i brosiectau yn eich ardal chi.
  • Gallwch hefyd gyfrannu neu gasglu esgidiau chwaraeon ail law yn unrhyw un o ganolfannau Byw'n Iach ar draws Gwynedd.

Ac wrth gwrs, fe allwch chi drosglwyddo cit ac offer i bobl rydych chi'n eu hadnabod neu eu gwerthu ar wefannau fel Vinted neu Facebook Marketplace. Mae llawer o siopau atgyweirio ac ailddefnyddio ar gael ledled Cymru hefyd. 

Clwb Rygbi Arberth yn enghraifft wych o glwb sy’n ailgylchu cit ac offer.

Fe ymunodd Clwb Rygbi Arberth ag SOS Kit Aid y llynedd a throsglwyddo hen git ac offer gan gynnwys peli rygbi. Ac mae Arberth wedi bod yn chwilota yn ei siopau eto ac ar fin gwneud rhodd arall yn fuan.

Meddai Rob Lewis, Cadeirydd Clwb Rygbi Arberth:

“Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd mae'n dda helpu unrhyw glybiau a gwledydd sydd heb git. Os yw e'n cyrraedd plant yn y gwledydd hynny, a'u bod nhw’n dechrau chwarae rygbi, yna mae'n ehangu'r gêm. Ac yn hytrach na chael ei daflu, mae'n cael defnydd da. Mae yna lawer o blant sy’n methu fforddio prynu cit felly rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n gwneud gwaith da.”

Mae gan Gymru ystadegau ailgylchu nodedig eisoes. Mae Cymru yn gyntaf yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd o ran ailgylchu. Ond erbyn 2050, y nod yw bod Cymru yn dod yn Economi Gylchol. Mae hyn yn golygu y bydd popeth yn cael ei ailddefnyddio, ei atgyweirio neu ei ailgylchu.

Fe fyddem wrth ein bodd yn clywed am ymdrechion ailgylchu eich clwb chi. Cysylltwch â ni heddiw.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

79 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy