Skip to main content

Cyngor doeth i ddod yn glwb chwaraeon amgylcheddol gynaliadwy

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyngor doeth i ddod yn glwb chwaraeon amgylcheddol gynaliadwy

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod newid hinsawdd yn effeithio ar y ffordd rydyn ni'n byw ac rydyn ni'n teimlo ei effaith mewn chwaraeon hefyd. Yn anffodus, mae caeau dan ddŵr, gwres eithafol ac ansawdd aer gwael yn dod yn fwy cyffredin a dyna pam ei bod yn bwysig ein bod ni’n gwneud yr hyn a allwn ni ar gyfer yr amgylchedd.

Dyma rai awgrymiadau da i helpu eich clwb i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

1. Dechrau gwneud newidiadau syml i arbed ynni

Os oes gan eich clwb chi ei eiddo ei hun, mae newidiadau cyflym a hawdd y gallwch chi eu gwneud i fod yn fwy ynni-effeithlon a lleihau eich allyriadau carbon.

Mae pethau syml fel troi eich gwres i lawr hicyn, ychwanegu thermostatau at reiddiaduron, atal drafftiau a diffodd cyfarpar yn y soced i gyd yn ein helpu ni i arbed ynni – ac arbed arian!

Gallwch hefyd fod yn ofalus gyda'ch goleuadau, gan newid eich bylbiau golau am rai LED ynni-effeithlon, a gall goleuadau synhwyrydd symudiad mewn ystafelloedd newid, cynteddau a thoiledau fod yn syniad da hefyd. Yn y cyfamser, gall pennau cawodydd eco helpu i arbed ynni a dŵr a chostio cyn lleied â £15. 

2. Gwneud eich cyfleusterau yn fwy ynni-effeithlon 

Ymunwch â’r nifer cynyddol o glybiau ledled Cymru sy’n newid eu hen lifoleuadau sy’n defnyddio llawer o ynni am lifoleuadau LED modern. A’r newyddion gwych ydi y gall Chwaraeon Cymru eich cefnogi chi gyda hyn drwy Gronfa Cymru Actif.

Neu beth am newid i ynni solar? Yn dibynnu ar eich cyfleuster, gallai gosod paneli solar arbed miloedd oddi ar eich biliau ynni yn y tymor hir a gwneud rhyfeddodau i'r amgylchedd.

Os byddai eich clwb yn elwa o fesurau arbed ynni fel gwell inswleiddio, boeler mwy modern, paneli solar a goleuadau LED, cadwch lygad am fanylion Grantiau Arbed Ynni newydd sbon Chwaraeon Cymru, a fydd yn cael eu lansio ym mis Mai 2023.

3. Teithio mewn ffordd werdd 

Mae teithio i hyfforddiant a chystadlaethau i gyd yn ychwanegu at ein hamgylchedd a’r effeithiau arno. Un ffordd o leihau allyriadau tanwydd yw drwy annog aelodau'r clwb i gerdded neu feicio i'ch sesiynau hyfforddi a'ch gemau, pan mae hynny’n bosibl. Neu os oes raid iddyn nhw ddefnyddio car, gallent rannu lifft yn lle gyrru ar eu pen eu hunain. Ar gyfer gemau pell, bydd archebu bws mini yn helpu i leihau eich ôl troed carbon ar y cyd. Efallai y byddwch eisiau ystyried datblygu cynllun teithio gwyrdd hyd yn oed ar gyfer eich clwb, i helpu i annog yr aelodau i leihau eu dibyniaeth ar geir. 

4. Lleihau eich gwastraff plastig 

Gall newid diwylliant eich clwb o amgylch y defnydd o blastig gael effaith fawr. Mae'n cymryd ychydig o gynllunio ond mae'n bosibl yn sicr. 

Beth am roi cynnig ar y camau syml yma:

  • Dywedwch hwyl fawr wrth boteli dŵr. Oeddech chi’n gwybod bod 725,000 o boteli plastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd? Maen nhw'n cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu ac yn cyrraedd ein moroedd ni yn y diwedd, gan niweidio bywyd gwyllt. Gwrthodwch werthu dŵr potel a darparu mynediad hawdd at ddŵr yfed yn lle hynny, gan annog pobl i ail-lenwi.
  • Cynigiwch ostyngiadau ar ddiodydd poeth i'r rhai sy'n dod â'u cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio eu hunain.
  • Os oes angen cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc untro, chwiliwch am rai papur a phren y gellir eu compostio a'u hailddefnyddio.

Darllenwch sut daeth Clwb Rygbi Uplands y clwb chwaraeon cyntaf yng Nghymru i dderbyn dyfarniad gan Gyfeillion y Ddaear Cymru ar ôl iddo benderfynu rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig.

5. Gwneud eich caeau chwaraeon yn eco-gyfeillgar 

Ledled Cymru, mae cannoedd o gaeau pêl droed a rygbi, cyrsiau golff, meysydd criced a lawntiau bowlio. Ac mae angen eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da.

Ond mae gwrtaith cemegol a phlaladdwyr yn creu hafoc, yn llygru'r cyflenwad dŵr lleol ac yn peryglu bywyd gwyllt lleol. Fodd bynnag, mae mwy a mwy o gwmnïau bellach yn cynnig dewisiadau gwyrddach i'ch helpu chi i gynnal caeau chwaraeon organig.

A thra rydych chi wrthi, beth am geisio cynaeafu eich dŵr glaw i helpu gyda dyfrio yn ystod misoedd yr haf a chompostio eich toriadau glaswellt? Yn y tymor tawel, gadewch y glaswellt i dyfu i ddenu bywyd gwyllt.

Blodau gwyllt coch yn eu blodau llawn
Gardd flodau gwyllt ger cae chwaraeon.

6. Gadael i fyd natur ffynnu 

Os oes gennych chi le yn yr awyr agored, meddyliwch am fannau lle gallwch chi adael i’r glaswellt dyfu'n dal i helpu i greu cynefin bywyd gwyllt prysur. Mae dant y llew, blodau menyn a meillion i gyd yn ffynonellau bwyd gwych i bryfed peillio – felly peidiwch â chael eich temtio i’w chwynnu nhw. Dim llawer o le? Bydd ychydig o botiau sy’n blodeuo gyda blodau llawn neithdar yn gwneud byd o wahaniaeth i’n gwenyn a’n glöynnod byw ni.

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi hyd yn oed gael eich achredu am eich ymdrechion? Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn gweithredu’r fenter 'Bee Friendly' i ddiogelu gwenyn a phryfed peillio eraill. Felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gyfeillgar i Wenyn yn swyddogolmae mwy o wybodaeth yma.

7. Helpu i gyflawni sero net gyda bwyd a diod cynaliadwy 

Os ydych chi'n glwb chwaraeon sy'n gweini bwyd a diod, gwnewch ymdrech i brynu yn lleol pan fo hynny’n bosibl i helpu i leihau allyriadau carbon.

Mae hefyd yn werth darganfod oes gennych chi unrhyw ganolfannau bwyd dros ben yn eich ardal chi. Mae’r sefydliadau gwirfoddol yma’n arbed bwyd rhag cael ei wastraffu ac yn ei rannu gyda’r gymuned. Gallai eich clwb chi helpu i sicrhau bod bwyd yn mynd i foliau ac nid i finiau!

8. Ailgylchu ac ailddefnyddio 

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael cymaint o fywyd â phosib o'r cit chwaraeon drwy ei drosglwyddo i aelodau iau. Ac anogwch eich aelodau i feddwl am drosglwyddo neu werthu offer, fel esgidiau beicio neu esgidiau pêl droed, unwaith y byddant wedi tyfu’n rhy fawr iddyn nhw.

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi finiau ailgylchu wedi'u labelu'n glir a gwnewch ddefnydd o'ch gwasanaethau ailgylchu lleol ar gyfer pethau fel dodrefn, eitemau trydanol a batris.  

9. Newid cyfrif cyfredol eich clwb i fanc moesegol         

Er mawr syndod, fe all penderfynu ble i fancio gael effaith fawr ar yr amgylchedd gan fod llawer o fanciau’n buddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil. I’ch helpu chi i benderfynu a ydych am newid, edrychwch ar Ethical Consumer sy'n graddio record foesegol ac amgylcheddol 31 o gyfrifon cyfredol y DU.

10. Newid i gyflenwr ynni gwyrdd   

Mae wedi bod yn anodd newid i gyflenwr ynni gwahanol yn ystod yr argyfwng costau byw ond gobeithio y bydd prisiau ynni cyfanwerthol yn dechrau gostwng eto’n fuan. A phan fyddwch chi’n ystyried newid, edrychwch ar dariffau gwyrdd.

Mae cyflenwyr ynni gwyrdd yn cael eu hynni o ffynonellau adnewyddadwy fel ynni dŵr, solar, tonnau neu wynt felly mae’n ffordd wych o leihau eich ôl troed carbon.

Edrychwch ar Gynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol Chwaraeon Cymru i weld sut rydyn ni’n bwriadu chwarae ein rhan i gyflawni uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru. 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

79 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy