Skip to main content
  1. Hafan
  2. Polisïau a Llywodraethu
  3. Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw bod pawb yn gallu cael mwynhad oes o chwaraeon. Mae'r argyfwng hinsawdd yn fygythiad sylweddol i wireddu'r Weledigaeth. 

Rydym eisoes yn gweld cynnydd yn amlder llifogydd ar gaeau ac arwynebau chwarae eraill, gan amharu ar amserlenni chwaraeon a gyda’r potensial i gael effaith andwyol ar gyfranogiad. Mae cyfnodau o wres eithafol ac ansawdd aer gwael yn arwain at ganslo gemau, ac yn gwaethygu cyflyrau iechyd presennol a / neu’n arwain at berfformiad salach gan athletwyr. Bydd yr effaith i'w theimlo ar draws yr holl chwaraeon ar lefel gymunedol ac elitaidd.

Rhagair

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Mae Chwaraeon Cymru eisoes wedi cyflawni llawer drwy ganolbwyntio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan osod paneli ynni solar a system pwmp gwres ffynhonnell daear arloesol yn eu lle ym Mhlas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru. Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud ac rydym wedi datblygu ein Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol cyntaf mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon, gan ymgynghori â’n staff a’n rhanddeiliaid.

Fel y sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod gennym rôl arweiniol i’w chwarae. Mae ein Cynllun nid yn unig wedi'i anelu at leihau ein hôl troed carbon sefydliadol ein hunain a chyfrannu at wella bioamrywiaeth, ond hefyd cefnogi'r sector i wneud gwelliannau. Rydym yn gwybod y bydd gweithio gyda chydweithwyr o fewn chwaraeon a dysgu ganddynt yn cynyddu’r effaith amgylcheddol gadarnhaol a’r cyfraniad at sero net ymhell y tu hwnt i’n ffin sefydliadol ein hunain.

Mae ein Cynllun yn canolbwyntio ar bum thema allweddol: -

  • Ein Pobl
  • Ein Partneriaid
  • Ein Llefydd
  • Ein Caffael
  • Ein Prosesau

Rydym yn credu y bydd canolbwyntio ein camau gweithredu ar y pum maes hyn yn lleihau ein hôl troed carbon ein hunain ac ôl troed carbon y sector chwaraeon ehangach yn sylweddol. Yn unol â'n gwerthoedd, byddwn yn mabwysiadu dull dysgu drwy gydol cyfnod y Cynllun hwn. Mae’r Cynllun yn pennu’r cyfeiriad, ond rydym yn cydnabod yr angen am fod yn hyblyg, gan ymateb i dechnolegau, syniadau a ffyrdd newydd o weithio – rhai nad ydynt yn bodoli eto efallai. Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu'r Cynllun drwy gydol y cyfnod, gan herio ein hunain i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a chyflawni camau gweithredu yn gyflym.

Rydym yn gyffrous am ein rôl yn cyflawni sero net ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030 ac yn llawn brwdfrydedd am y cyfle i gydweithio â phartneriaid ar draws chwaraeon, dosbarthwyr y Loteri a chyrff sector cyhoeddus eraill. Rydym hefyd eisiau chwarae ein rhan i wella bioamrywiaeth. Bydd ein gweithredoedd nawr yn sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro 

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â

Logo Ymddiriedolaeth Garbon