Skip to main content

6. Ein Ffyrdd o Weithio

Siart cylch yn dangos rhanddeiliaid allweddol Chwaraeon Cymru.

Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, bydd angen i ni weithio gydag ystod eang o randdeiliaid.

Rydym wedi ymrwymo i’r ffyrdd canlynol o weithio gyda phob un o’n rhanddeiliaid: -

  • Hyblygrwydd – ymateb i arloesi a newid cyflym
  • Dysgu – bod yn agored i ddysgu a rhannu ein profiad ein hunain
  • Cynnwys – cynnwys partneriaid a rhanddeiliaid wrth lunio ein blaenoriaethau a’n camau gweithredu
  • Cydweithredu – gweithio gydag eraill i gyflawni camau gweithredu ac amcanion cynaliadwyedd amgylcheddol y naill a’r llall.

Llywodraethu

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Fel y cyfeiriwyd ato yn Llythyr Cylch Gwaith Llywodraeth Cymru, a’n Cynllun Busnes, mae cynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio yn faes ffocws hynod bwysig. O’r herwydd, Cadeirydd Chwaraeon Cymru fydd yn gyfrifol yn y pen draw am ddull y sefydliad o weithredu gyda chynaliadwyedd a datgarboneiddio.

Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am roi swyddogaethau a chyfrifoldebau addas ar waith i sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei reoli a’i ystyried ym mhob rhan o’r sefydliad. Bydd adroddiadau blynyddol i Lywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd.

Bydd gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes gyfrifoldeb gweithredol am adrodd ar allyriadau carbon i Lywodraeth Cymru. Bydd y Grŵp Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn rhan o’r rôl hon a bydd yn datblygu ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni camau gweithredu i leihau allyriadau carbon.

Bydd Cadeirydd y Gweithgor Cynaliadwyedd (is-grŵp o Fforwm Prif Weithredwyr Cyrff Rheoli Cenedlaethol) yn gyswllt pwysig rhwng y partneriaid a Chwaraeon Cymru. Bydd y rôl hon yn cyfleu syniadau a cheisiadau am gefnogaeth gan y CRhC i ni drwy’r Prif Weithredwr a bydd yn adrodd yn ôl ar gynnydd a gweithdrefnau newydd gyda’r nod o helpu i leihau allyriadau ar draws Chwaraeon Cymru a’n sefydliadau partner.

Bydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Cyfleusterau Chwaraeon Cenedlaethol, Seilwaith a Chyfalaf, y Rheolwyr Stadau a’r timau cynnal a chadw yn sefydlu ffyrdd addas o weithio i sicrhau bod allyriadau carbon yn cael eu hystyried fel dull cylch bywyd ym mhob agwedd ar eu gwaith yn y Canolfannau Cenedlaethol.

Rheolwyr Perthnasoedd i weithredu fel cyfryngwyr rhwng Chwaraeon Cymru a phartneriaid cenedlaethol (Cyrff Rheoli Cenedlaethol, partneriaid cenedlaethol a phartneriaethau chwaraeon) i ddeall ac ymateb i anghenion y sector.

Bydd yr holl staff yn deall uchelgais Chwaraeon Cymru i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2030 a byddant yn deall sut gallant gyflawni eu rôl gan roi ystyriaeth ddyledus i’w heffeithiau amgylcheddol.

Adrodd

Byddwn yn paratoi Adroddiad Carbon blynyddol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei adrodd i'r Bwrdd er mwyn olrhain ein perfformiad yn erbyn uchelgais sero net ar gyfer 2030.