Skip to main content

5. Ein Cynllun ar gyfer y dyfodol

Ein Dull o Weithredu

Diagram cylch sy'n dangos sut datblygwyd y Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol gan ddefnyddio cyfres o saethau. Amlinellir y geiriau sylfaen, cynnwys, datblygu, cyflwyno a monitro ym mhob saeth. Mae'r saethau wedi'u canoli o amgylch cylch gyda'r geiriau dysgu gyda'n gilydd yn y canol.

Bwriedir i'n dull o ddatblygu ein Cynllun fod yn ailadroddus ac yn adlewyrchol, yn unol â'n gwerthoedd ac yn adlewyrchu cyflymder newid ac arloesi. Byddwn yn edrych eto ar y Cynllun bob dwy flynedd i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol, gan gydnabod cyflymder y newid yn y maes hwn.

Wrth ddatblygu'r Cynllun hwn, rydym wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i ddeall ein llinell sylfaen er mwyn canolbwyntio ein hymdrechion.

Rydym wedi cynnwys a chydweithio â staff, cynrychiolwyr partneriaid a’r Bwrdd i ddatblygu ein Cynllun a’n hymrwymiadau i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Y camau nesaf yw cyflawni ein hymrwymiadau a monitro cynnydd drwy ein hadroddiadau carbon blynyddol i Lywodraeth Cymru.

Siart cylch coch yn dangos mai’r meysydd ffocws allweddol yn y Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol yw ein pobl, ein caffael, ein prosesau, ein llefydd a’n partneriaid.

Ein Huchelgais

Ein huchelgeisiau yw 

  • Cyflawni sero net erbyn 2030
  • Bod yn sefydliad cynaliadwy sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd a bioamrywiaeth
  • Darparu arweiniad a chefnogaeth i’r sector chwaraeon, gan ymestyn ein heffaith amgylcheddol y tu hwnt i’n ffin sefydliadol ein hunain 

Ein Cynllun – Gwireddu Ein Huchelgais

  • Ein Pobl - Rydym eisiau i’n pobl a’r rheini ar draws y sector chwaraeon fod yn ymwybodol o garbon a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus gyda chynaliadwyedd amgylcheddol mewn golwg.
  • Ein Partneriaid - Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r sector i leihau ei effaith carbon, gan ymestyn datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol y tu hwnt i’n ffin sefydliadol.
  • Ein Caffael - Rydym eisiau ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio yn ein proses gaffael a gweithio gyda chyflenwyr i ddeall a lleihau effaith carbon ein pryniannau.
  • Ein Llefydd - Rydym eisiau arwain y ffordd wrth fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i weithredu ein canolfannau cenedlaethol yn y ffordd fwyaf cynaliadwy, gan gyflawni gweithgareddau carbon isel yn ogystal â diogelu a gwella bioamrywiaeth.
  • Ein Prosesau - Rydym eisiau sicrhau bod ein prosesau yn annog datgarboneiddio ac yn cydbwyso amcanion tymor byr a thymor hir yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau, buddsoddiadau ac achosion busnes.

Ein pobl

Rydym eisiau i’n pobl a’r rheini ar draws y sector chwaraeon fod yn ymwybodol o garbon a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus gyda chynaliadwyedd amgylcheddol mewn golwg.

Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030

  • Byddwn yn parhau i gynnwys hyfforddiant ar faterion amgylcheddol, bioamrywiaeth, effeithlonrwydd ynni ac arferion cynaliadwy ar gyfer yr holl staff mewn iaith ddealladwy a syml.
  • Byddwn yn asesu sut gallwn fabwysiadu egwyddorion Llwybr Newydd (Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021) yn ogystal â chyfleoedd Siarteri Teithio Iach lleol i sicrhau bod ein staff yn gallu cymudo i’r gwaith yn y ffordd fwyaf cynaliadwy.
  • Byddwn yn gwneud manteisio i’r eithaf ar weithio hybrid, gan leihau teithio i'r gwaith nad yw'n hanfodol.
  • Byddwn yn hyrwyddo ac yn cynnig cynllun beicio i’r gwaith a thaliadau milltiredd ar gyfer siwrneiau ar feic i’r holl staff, er mwyn annog teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus wrth gymudo i adeiladau Chwaraeon Cymru.
  • Byddwn yn cynnal arolwg teithio staff i ddeall y mathau o gludiant y mae staff yn eu defnyddio i gymudo i'r gwaith, a cheisio cynyddu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Byddwn yn adolygu effeithiau amgylcheddol unigol yn y gwaith ac yn helpu staff i dracio eu heffaith carbon bersonol, gan ddathlu ffyrdd carbon isel o fyw ac annog newid ymddygiad cyson a gweithredol.
  • Byddwn yn nodi, yn hwyluso ac yn cyfeirio at gyfleoedd dysgu ar gyfer y sector ehangach.

Ein partneriaid

Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r sector i leihau ei effaith carbon, gan ymestyn datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol y tu hwnt i’n ffin sefydliadol.

Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030

  • Byddwn yn datblygu adnoddau cyfarwyddyd a chyfeirio ar gyfer ein partneriaid i'w cefnogi bob cam ar eu siwrneiau datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Cyrff Rheoli Cenedlaethol, partneriaid cenedlaethol, awdurdodau lleol a phartneriaethau chwaraeon i rannu enghreifftiau o arfer gorau ac ysgogi gwelliannau mewn allyriadau carbon yn y maes chwaraeon.
  • Byddwn yn ymgorffori gofynion cynaliadwyedd yn ein prosesau buddsoddi mewn partneriaid.
  • Byddwn yn cefnogi clybiau chwaraeon wrth iddynt geisio datgarboneiddio eu sefydliadau drwy adeiladu ar waith Cronfa Cymru Actif i gynnwys gofynion amgylcheddol penodol ac amodau grant, a hyrwyddo offer carbon isel a ffynonellau ynni adnewyddadwy fel paneli solar a phympiau gwres ymhlith y rhai sy’n derbyn ein grantiau.

Ein Caffael

Rydym eisiau ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio yn ein proses gaffael a gweithio gyda chyflenwyr i ddeall a lleihau effaith carbon ein pryniannau.

Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030

  • Byddwn yn cyflwyno fframwaith mewnol ar gyfer caffael cynaliadwy, gan gynnwys safon ofynnol o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni ar gyfer nwyddau sy’n cael eu caffael ochr yn ochr â'n hymrwymiad i wella gwaith partneriaeth gymdeithasol a chyflawni caffael cyhoeddus sy'n gymdeithasol gyfrifol o dan y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
  • Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr gan nodi ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed ein hunain a chyflwyno gofynion fesul cam i’n cyflenwyr fynd i’r afael â’u hôl troed carbon, i lefel sydd o fewn eu gallu.
  • Byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda'n cyflenwyr mwy yn y sectorau bwyd ac adeiladu, i ddeall ac annog eu cynnydd o ran datgarboneiddio, a phennu disgwyliadau ganddynt.

Ein Llefydd

Rydym eisiau arwain y ffordd wrth fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i weithredu ein canolfannau cenedlaethol yn y ffordd fwyaf cynaliadwy.

Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030

  • Byddwn yn gweithio i ddatgarboneiddio ein hadeiladau, gan ganolbwyntio ar gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy ar y safle a datgarboneiddio gwresogi.
  • Byddwn yn parhau i gael gwared yn raddol ar danwyddau ffosil yn ein fflyd, gan newid pob cerbyd fflyd ar ddiwedd eu hoes gyda cherbydau trydan yn unig ac ystyried cyfleoedd eraill sy'n dod i'r amlwg, fel cerbydau hydrogen.
  • Byddwn yn edrych ar gyfleoedd i gefnogi prosiectau gwrthbwyso carbon ar ein safleoedd ein hunain.
  • Byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o weithio sy’n llai penodol i adeiladau ac yn cynnwys rhannu gofod swyddfa gyda sefydliadau eraill.
  • Byddwn yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth ym mhob un o’n safleoedd gan gynnwys ymestyn ardaloedd blodau gwyllt presennol i annog gwenyn a glöynnod byw, cynnal coed yn unol â Gorchmynion Diogelu Coed a defnyddio bocsys adar o amgylch ein safleoedd i ddenu rhywogaethau brodorol.
  • Byddwn yn parhau i leihau'r defnydd o chwynladdwyr wrth gynnal y caeau ar ein safleoedd.
  • Byddwn yn cynnal y twll turio ar y safle yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru fel dull o gasglu dŵr i’w ailddefnyddio ar draws ein cyfleusterau.
  • Byddwn yn gweithio gyda'r partner a gomisiynwyd ym Mhlas Menai i sicrhau bod y gweithgareddau a ddarperir ar y safle yn cefnogi bioamrywiaeth a bod ansawdd dŵr yn cael ei gynnal.

Ein Prosesau

Rydym eisiau sicrhau bod ein prosesau yn annog cynaliadwyedd amgylcheddol yn weithredol ac yn cydbwyso amcanion tymor byr a thymor hir yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau, buddsoddiadau ac achosion busnes.

Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030

  • Byddwn yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein hallyriadau carbon i Lywodraeth Cymru drwy broses adrodd carbon sero net Sector Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn adolygu'r canlyniadau ac yn nodi meysydd ffocws allweddol yn flynyddol.
  • Byddwn yn rhoi'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar staff i wneud penderfyniadau sy'n ymwybodol o'r amgylchedd ym mhob un o gamau busnes Chwaraeon Cymru (fel meincnodau gwahanol gynhyrchion / camau gweithredu o ran allyriadau CO2).
  • Byddwn yn ystyried ein dull o weithredu gyda chyfarfodydd gyda chydweithwyr mewnol ac allanol, gan ddefnyddio cyfarfodydd rhithwir lle bo hynny'n briodol.
  • Byddwn yn parhau i dynnu sylw at a chodi ymwybyddiaeth o'n prosiectau carbon isel ein hunain, ac yn hyrwyddo astudiaethau achos o glybiau chwaraeon sy'n gweithio i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau, drwy ein gwefan a sianeli cyfathrebu eraill.
Graffeg sy’n cymharu map llwybr Llywodraeth Cymru at sero net â Chynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol Chwaraeon Cymru.  Cam 1 yw newid gêr rhwng 2021 a 2022.  Cam 2 yw pan fyddwn ymhell ar ein ffordd rhwng 2022 a 2026.  Cam 3 yw pan fyddwn yn cyflawni ein nod rhwng 2026 a 2030.