Skip to main content

3. Cyd-destun Deddfwriaethol a Pholisi

Llwyfan Rhyngwladol

Mae Cytundeb Paris yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol ar newid hinsawdd. Fe’i mabwysiadwyd gan 196 o Bleidiau yn COP 21 ym Mharis, ar 12 Rhagfyr 2015 a daeth i rym ar 4 Tachwedd 2016.

Ei nod yw cyfyngu ar gynhesu byd-eang i ymhell o dan 2, i 1.5 gradd Celsiws os yn bosib, o gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol.

Er mwyn cyrraedd y nod tymheredd hirdymor hwn, mae’r gwledydd yn anelu at gyrraedd uchafbwynt byd-eang o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr cyn gynted â phosibl er mwyn cyflawni byd niwtral o ran hinsawdd erbyn canol y ganrif.

Canolbwyntiodd Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 y Cenhedloedd Unedig ym Montreal ar gadwraeth ac ymdrechion i warchod bioamrywiaeth. Y canlyniad oedd ymrwymiad byd-eang i warchod traean o'r blaned ar gyfer byd natur erbyn 2030 yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd 50%.

Llywodraeth y DU

Yn 2019, diwygiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 i ymrwymo’r DU i gyflawni sero net erbyn 2050, gan wella ar y targed blaenorol o ostyngiad o 80% erbyn yr amser hwn. Mae cyllidebau carbon pum mlynedd wedi'u hymgorffori yn y gyfraith ac maent yn rhwymol yn gyfreithiol eu natur. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, corff annibynnol, yn adrodd ar gynnydd i’r Senedd.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu fframwaith deddfwriaethol a pholisi sy’n galluogi ac yn ysgogi camau gweithredu yngylch y newid yn yr hinsawdd, gan ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.

Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 saith nod llesiant yn gyfraith ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni datblygu cynaliadwy (a ddiffinnir fel y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru). Mae’r nodau Llesiant yn cynnwys gofyniad i weithio tuag at y canlynol:

  • “Cymru Sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang,” cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud y fath beth gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
  • “Cymru Gydnerth,” cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau gweithredol iach sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid.

Yn bwysig, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fabwysiadu pum ffordd o weithio ac mae pob un ohonynt yn berthnasol i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Logos Cenedlaethau'r Dyfodol: 5 ffordd o weithio. Cynnwys, Cydweithio, Hirtymor, Integreiddio, Atal.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi proses statudol fodern ar waith i gynllunio a rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydgysylltiedig a chynaliadwy. Mae’n darparu fframwaith i sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau ac yn ddyletswydd bioamrywiaeth newydd.

Ym mis Ebrill 2019, y Senedd oedd y Senedd gyntaf i ddatgan Argyfwng Hinsawdd. Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Natur hefyd.

Cyflwynodd Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 gyllidebau carbon fel gostyngiadau wedi’u targedu yn erbyn y llinell sylfaen, gan weithio tuag at Gymru sero net erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu uchelgais ymhellach i sector cyhoeddus Cymru fod yn sero net erbyn 2030. Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn anelu at y dyddiad cynharach hwn, ac rydym wedi bod yn gweithio drwy ein hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Datganiadau Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru a’r Senedd 2019

DeddfwriaethStrategaeth Uchelgais Gweinidogol 
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015Ffyniant i Bawb – Cynllun Gweithredu Economaidd (2017)Sector Cyhoeddus Sero Net erbyn 2030 
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) Ffyniant i Bawb – Cymru Ymwybodol o’r Hinsawdd (2020)70% o ddefnydd trydan Cymru i fod yn adnewyddadwy erbyn 2030 
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2021 Rhaglen ar gyfer Llywodraethu  2021 – 20261GW o’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru i fod yn eiddo lleol erbyn 2030 
 Cyllideb Carbon 2 Cymru Sero Net (2021-5)Pob datblygiad ynni newydd i gynnwys elfen o berchnogaeth leol 

Mae trosolwg strategol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru wedi’i ddarparu hefyd drwy fap llwybr Statws Carbon Sero Net erbyn 2030 ar gyfer datgarboneiddio, sy’n tynnu sylw at y meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a’r cerrig milltir sydd eu hangen er mwyn i sector cyhoeddus Cymru gyrraedd sero net erbyn 2030 gyda’i gilydd. Rydym wedi defnyddio’r fframwaith hwn i’n cefnogi i ddatblygu’r Cynllun hwn, gan nodi siwrnai tri cham tuag at sero net.

Mae ein llythyr cylch gwaith ar gyfer y tymor llywodraethu hwn hefyd yn rhoi pwyslais ar ddatgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol fel nod a rennir ac yn ailadrodd y gefnogaeth a ddisgwylir ar gyfer uchelgais sero net (sector cyhoeddus) erbyn 2030 Llywodraeth Cymru.

Uchelgeisiau Lleol

Mae Chwaraeon Cymru yn berchen ar Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru Plas Menai yng Ngwynedd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r ddau awdurdod lleol wedi datgan argyfyngau hinsawdd a natur ac wedi cynhyrchu strategaethau a chynlluniau gweithredu mewn ymateb i hynny. Mae hyn yn rhoi cyfle i Chwaraeon Cymru weithio tuag at yr uchelgeisiau lleol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol a chydweithio i gyflawni hyn.