Skip to main content

2. Newid Hinsawdd a Chwaraeon

Effaith Chwaraeon ar Newid Hinsawdd

Mae'n bwysig cydnabod bod chwaraeon hefyd wedi cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Mae chwaraeon ar bob lefel yn anochel yn golygu teithio i ddigwyddiadau, defnydd o ynni a defnyddio offer bywyd byr arbenigol.

Mae'r Rapid Transition Alliance yn amcangyfrif bod chwaraeon yn cyfrannu 0.8% o allyriadau byd-eang, sy'n cyfateb i wlad ganolig ei maint.

Effaith Newid Hinsawdd ar Chwaraeon

Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith sylweddol ar chwaraeon ar lefel elitaidd a chymunedol. Mae arwynebau chwarae yn fwyfwy agored i newid yn yr hinsawdd. Mae llifogydd y gaeaf yn golygu nad oes modd chwarae ar gaeau, gan darfu ar gemau, sy’n peryglu cyfranogiad a diddordeb. Erbyn 2050, rhagwelir y bydd bron i chwarter tiroedd y gynghrair pêl droed dan ddŵr yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae tymheredd yr haf a chyfnodau o sychder hefyd yn bygwth caeau a chyrsiau ar draws ystod o wahanol chwaraeon.

Mae tymereddau uwch ac ansawdd aer gwael yn ystod misoedd yr haf hefyd yn bygwth digwyddiadau chwaraeon ar bob lefel. Mae athletwyr yn dioddef fwyfwy o orflinder gwres sy'n effeithio'n niweidiol ar berfformiad ac yn achosi effeithiau gwael ar iechyd a lles. Mae amserlenni chwaraeon yn cael eu haddasu i osgoi rhannau poethaf y dydd neu'r flwyddyn. Ar un adeg, paratowyd polisïau gwres eithafol ar gyfer posibiliadau annhebygol ond maent bellach yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ar draws ystod o chwaraeon.

Mae chwaraeon y gaeaf hefyd yn agored i newid hinsawdd. Tynnodd adroddiad gan y Rapid Transition Alliance sylw at y ffaith na fyddai hanner dinasoedd blaenorol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd y Gaeaf yn gallu cynnal y Gemau erbyn 2050 oherwydd effaith cynhesu byd-eang.

Effaith Newid Hinsawdd ar Chwaraeon Cymru

Fel y nodwyd uchod, ni fydd effaith newid hinsawdd yn cael ei theimlo'n gyfartal a bydd yn gwaethygu anghydraddoldebau. Mae hyn yn fygythiad i gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru sydd eisiau sicrhau bod pawb yn cael mwynhad oes o chwaraeon.

Gallai amcanestyniadau o erydu arfordirol cynyddol a chynnydd yn lefel y môr fod yn fygythiad yn y dyfodol i weithrediadau Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai ar lan Culfor Menai, a gallai llifogydd amlach effeithio ar safle Plas Menai a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, fel safle isel arall ger yr Afon Taf. Hefyd mae Culfor Menai wedi’i ddynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig Forol.

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio gydag ystod o wahanol bartneriaid i wireddu’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru, gan ddarparu cyllid drwy ein modelau buddsoddi. Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y partneriaid hyn, yn enwedig y rhai sydd â chyfleusterau yn agos at afonydd neu arfordiroedd. Mae’n bosibl y bydd angen i rywfaint o’n cyllid fod yn adweithiol ei natur gan fod angen cynyddol am ymyriadau brys.

Ymhellach i ffwrdd, gallai ein sefydliad gael ei effeithio gan darfu byd-eang ar y gadwyn gyflenwi yn sgil digwyddiadau tywydd garw cynyddol, a gallai methiant cnydau dramor arwain at brinder cyflenwad bwyd.
 

Mae chwaraeon hefyd yn dod â chyfleoedd sylweddol i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a datgarboneiddio.

Mae gan athletwyr, hyfforddwyr a chlybiau lais arwyddocaol a gallant ddylanwadu a newid ymddygiad. Mae grwpiau fel Athletes of the World yn eiriolwyr pwerus dros newid yn wyneb heriau byd-eang.

Eicon yn dangos y Ddaear

Mae gan chwaraeon gyrhaeddiad byd-eang a gall gael mwy o effaith o ganlyniad. Gall Cymru Sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang arwain y ffordd drwy sicrhau newid a chydweithio ag eraill.

Eicon o effaith crychdonni mewn dŵr

Gall gweithredoedd newid hinsawdd yn y sector chwaraeon gael effaith ar ddiwydiannau eraill, gan annog ymddygiad a dulliau gweithredu cynaliadwy ehangach.