Skip to main content

1. Effaith Newid Hinsawdd

Effaith Fyd-eang Newid Hinsawdd

Ceir consensws gwleidyddol byd-eang ein bod yn profi argyfwng hinsawdd, ac mae angen brys am ffrwyno allyriadau carbon er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf cynhesu byd-eang. Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (‘IPCC’) yw’r corff Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd i asesu’r wyddoniaeth sy’n ymwneud â newid hinsawdd. Rhyddhaodd yr IPCC adroddiad1 ym mis Mawrth 2022, yn mynegi pryder cynyddol am “ffenestr sy’n cau’n gyflym” o amser i weithredu yngylch yr argyfwng hinsawdd.

Gallai cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol gyfyngu ar effeithiau mwyaf peryglus ac anwrthdroadwy newid yn yr hinsawdd.

Mae effaith codi uwchlaw’r targed 1.5 gradd yn ddwys a bydd i'w theimlo ar draws pob rhan o'r byd. Mae'r IPCC yn tynnu sylw at wres cynyddol, tywydd eithafol, llifogydd, prinder dĹľr, tarfu ar gadwyni bwyd, mudo a difodiant rhywogaethau, tanau gwyllt, ansawdd aer is ac iechyd sy'n dirywio. Amcangyfrifir bod y taf-lwybr (ar Ă´l COP 26) yn cadw'r tymheredd i isafswm o 1.8 gradd o godiad, felly mae angen gweithredu ar frys.

Newid Hinsawdd yn y DU

Mae newid hinsawdd yn achosi cynhesu ar draws y DU. Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae pob un o’r deg o flynyddoedd cynhesaf erioed yn y DU wedi digwydd ers 2002. Cafwyd y diwrnod poethaf i’w gofnodi yn y DU ym mis Gorffennaf 2022, gyda 40.3°C wedi’i fesur yn Swydd Lincoln.

1 Mae crynodeb hawdd ei ddarllen o ddarganfyddiadau’r IPCC i’w weld drwy ddilyn y ddolen ganlynol  

Effaith Newid Hinsawdd yng Nghymru

Siart yn dangos y newid tymheredd cyfartalog yng Nghymru ers 1884. Cynrychiolir y tymheredd gan streipiau lliw. Mae streipiau glas yn dangos y tymheredd yn oeri a’r streipiau coch yn dangos cynhesu. Mae’r siart yn las yn bennaf tan ganol y 1990au ac ar ôl hynny mae’n mynd yn fwyfwy coch, gan ddangos bod y tymheredd cyfartalog yn codi yng Nghymru.

Daw'r data o wefan #showyourstripes

Newid Hinsawdd yng Nghymru

Mae Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 yn nodi bod tebygolrwydd uchel yng Nghymru y bydd digwyddiadau tywydd digynsail, gan gynnwys stormydd arfordirol, llifogydd, gwres mawr a sychder, yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Rhagwelir y bydd hafau yn gynhesach (1.340C yn gynhesach erbyn 2050) ac yn sychach, gaeafau yn fwynach ac yn wlypach (mwy o wlybaniaeth o 5% erbyn 2050) a rhagwelir y bydd lefel y mĂ´r yn codi ledled y wlad hyd at 24cm erbyn 2050. Ymhellach, ni fydd effaith newid yn yr hinsawdd yn cael ei theimlo'n gyfartal – bydd pobl dan anfantais economaidd a chymdeithasol yn cael eu heffeithio'n anghymesur ac mae'r anghydraddoldebau presennol yn debygol o waethygu.

Dylid nodi bod gan gamau gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd y potensial hefyd i gael effaith niweidiol neu eithrio pobl sydd dan anfantais yn economaidd ac yn gymdeithasol. Er enghraifft, efallai y bydd y camau gweithredu yn gofyn am neu'n arwain at gostau uwch.

Nododd Adroddiad Cyflwr Natur 2019 bod 8% o rywogaethau sy’n bodoli y mae digon o ddata ar gael ar eu cyfer wedi’u dosbarthu’n ffurfiol fel rhai sydd dan fygythiad ac mewn perygl o ddifodiant. Bu gostyngiad o 52% yn niferoedd cyfartalog rhywogaethau o lĂśynnod byw ers 1976. Mae amgylchedd morol Cymru dan bwysau hefyd ac mae ystod o ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu sefydlu i sicrhau bod safleoedd yn cael eu rheoli’n briodol i warchod bioamrywiaeth.