Skip to main content

Gwarchod cyfleusterau chwaraeon lleol gyda'r Addewid Caeau Gwyrdd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gwarchod cyfleusterau chwaraeon lleol gyda'r Addewid Caeau Gwyrdd

Wrth i ni deimlo effeithiau newid yn yr hinsawdd, mae'n dod yn fwyfwy pwysig gwarchod ein hamgylcheddau chwaraeon.

Mae My Green Valley yn grŵp casglu sbwriel ac amgylcheddol ym Mhontardawe sydd wedi creu menter i wneud hynny.

Maen nhw wedi lansio’r Addewid Caeau Gwyrdd, sef prosiect cydweithredol rhwng y grŵp, cynghorau lleol, a chlybiau chwaraeon lleol. Crëwyd yr addewid i fynd i’r afael â phroblem y mae eu gwirfoddolwyr yn dod ar ei thraws wythnos ar ôl wythnos – sbwriel yn cael ei adael o amgylch caeau chwaraeon ar ôl gemau a sesiynau hyfforddi.

Mae'r addewid yn gytundeb rhwng clybiau chwaraeon a My Green Valley ac maen nhw’n cytuno i adael eu caeau chwaraeon a'u cyfleusterau heb unrhyw sbwriel sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod pob gêm a sesiwn hyfforddi.

Am gytuno i'r addewid a'i lofnodi, mae My Green Valley wedi cyllido a bydd yn darparu Gorsaf Gasglu Gyflym i bob cae chwaraeon yn yr ardal leol, i’w gwneud yn haws i glybiau lleol glirio unrhyw sbwriel.

Dyn, dynes a phlentyn yn dal i fyny eu Addewid Cae Gwyrdd wedi'i lofnodi
Gorsaf Gasglu Gyflym - Dyfais i ddal dau fag bin a rolio o gwmpas y cae i gasglu sbwriel

Mae clybiau pêl droed, rygbi a chriced i gyd yn llofnodi’r addewid, gan gydweithio i sicrhau bod tiroedd lleol aml-ddefnydd yn cael eu diogelu hefyd.

Mae’r grŵp yn gobeithio y bydd y prosiect yn annog ac yn grymuso defnyddwyr caeau chwaraeon lleol i ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol am sicrhau nad oes dim yn cael ei adael ar ôl a’u bod yn gadael ystafelloedd newid a mannau cymunedol yn lân, ac mewn cyflwr da, ar ôl eu defnyddio.

Dywedodd Kerina Lake, Cydsylfaenydd a Chadeirydd My Green Valley: “Mae’r Addewid Caeau Gwyrdd yn brosiect ar lawr gwlad sydd wedi’i sefydlu yng Nghwm Tawe i fynd i’r afael â sbwriel ar gaeau chwaraeon.

“Rydyn ni’n gweithio i addysgu ac ymgorffori gwerth gofalu am ein mannau gwyrdd ni drwy ysgwyddo cyfrifoldeb am ein caeau chwaraeon a galluogi ymwelwyr, chwaraewyr a chefnogwyr sy’n defnyddio’r tiroedd yma i weithio gyda’i gilydd i gadw lle rydyn ni’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn lân, yn wyrdd ac o ddefnydd i bawb."

Dywedodd Emma Wilkins, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes yn Chwaraeon Cymru: "Mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd i sicrhau ein bod ni’n darparu amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

“Mae’r Addewid Caeau Gwyrdd yn enghraifft wych o sut gall cymunedau gydweithio i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn a allant i ddiogelu eu hamgylchedd lleol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.” 

Duncan Jones yn dal pêl rygbi

"Mae’n fenter wych i sicrhau bod cyfleusterau chwarae, sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan wirfoddolwyr yn aml, yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel a glân fel bod pawb yn gallu eu mwynhau nhw.” - Duncan Jones

Tri o arwyr chwaraeon lleol, Duncan Jones, Loren Dykes MBE a Gwenan Davies, i gyd yn llysgenhadon i'r prosiect.

 

Dywedodd cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol y Gweilch a Chymru, Duncan Jones: “Mae chwaraeon yn gyffredinol yn dysgu gwaith tîm, parch, ac ymdeimlad o ‘wneud eich rhan’, dim ots pa mor fawr neu fach yw hynny. Dyna lle mae’r Addewid Caeau Gwyrdd yn gwneud synnwyr – mae’n fenter wych i sicrhau bod cyfleusterau chwarae, sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan wirfoddolwyr yn aml, yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel a glân fel bod pawb yn gallu eu mwynhau nhw.”

Dywedodd cyn-amddiffynnwr a hyfforddwr Cymru, Loren Dykes: “Rydw i wrth fy modd yn cael bod yn llysgennad ar gyfer Addewid Caeau Gwyrdd My Green Valley. Rydw i eisiau i bob chwaraewr, rhiant, a chefnogwr ymfalchïo yn y cyfleusterau a’r tiroedd lle rydyn ni’n hyfforddi ac yn chwarae pêl droed, rygbi, criced, ac i bawb weld ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i’w cadw nhw’n lân ac yn wyrdd.”

Dywedodd y gricedwraig o Gymru, Gwenan Davies: “O oedran ifanc iawn roedd e bron yn draddodiad yng Nghlydach eich bod chi, ar fore Sadwrn, yn y clwb criced am 8:30am i helpu i lanhau’r clwb, sgubo’r ystafelloedd newid, a chlirio’r tir cyn byddai gemau'r penwythnos yn dechrau. Y cyfan am baned o goffi a brechdan cig moch. 

“Nawr bron i 15 mlynedd yn ddiweddarach ac yn mwynhau bywyd fel athletwr proffesiynol, mae ‘sgubo’r siediau’ yn rhywbeth rydyn ni’n ei ddisgwyl i’n cyd-chwaraewyr ni ei wneud, os ydych chi’n seren ryngwladol neu’n chwaraewr ifanc yn canfod eich llwybr.

“Mae’r Addewid Caeau Gwyrdd mor bwysig i’n chwaraeon ni – nid yn unig i’r ieuenctid ar lawr gwlad, ond i’r oedolion hefyd, i’w hatgoffa nhw nad oes neb uwchlaw gwneud eu rhan.”

Eisiau gwneud eich rhan yn eich clwb chwaraeon? Mae mwy o wybodaeth am sut gallwch chi leihau eich effaith amgylcheddol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ar gael drwy ddarllen ein hadnoddau ni yn basis.org.uk.

Newyddion Diweddaraf

Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

Roedd James yn poeni efallai nad oedd chwaraeon yn addas iddo, ond mae nawr yn gobeithio gwisgo fest…

Darllen Mwy

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy