Skip to main content

Y Camau Nesaf

O ystyried ei bod yn hysbys bod anweithgarwch corfforol yn effeithio’n negyddol ar iechyd a lles drwy gydol y cylch bywyd, mae annog pobl i fabwysiadu ymddygiadau iach, gan gynnwys gweithgarwch corfforol o oedran cynnar, yn hanfodol. Nid yw’r neges o ganllawiau gweithgarwch corfforol y blynyddoedd cynnar wedi newid ers 2011, felly mae nodi ffyrdd o helpu rhieni i wireddu potensial gweithgarwch cynnar yn bwysig iawn.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth i ymarferyddion a llunwyr polisïau sy’n ymwneud â chomisiynu, dylunio a darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn y gymuned i blant cyn oedran ysgol. Er mwyn mynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol ac annog ymgysylltu â gweithgarwch corfforol a chyfranogiad mewn chwaraeon, gallai fod yn hollbwysig datblygu strategaethau a chyfleoedd sy’n cydnabod ac yn ceisio mynd i’r afael â’r rhwystrau a nodwyd, ac adeiladu ar yr hwyluswyr a amlygwyd gan rieni, yn enwedig yn ymwneud â seilwaith a fforddiadwyedd. Yn wir, gall hyn fod yn arbennig o berthnasol mewn ardaloedd o Gymru sy'n cael eu dosbarthu fel rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol. Nawr bod gwybodaeth wedi'i chasglu ar gyfer y boblogaeth cyn-ysgol gyffredinol, mae angen hefyd edrych ar y ffactorau sy'n dylanwadu ar grwpiau penodol, fel poblogaethau clinigol (e.e. plant cyn-ysgol sydd ag awtistiaeth neu barlys yr ymennydd) i sicrhau bod gweithgareddau cymunedol addas yn briodol ac yn hygyrch i anghenion pob plentyn a’u rhieni.

Argymhellion 

Mae rhieni wedi nodi ffactorau lluosog ar draws pedair lefel y model cymdeithasol-ecolegol fel rhai sy’n dylanwadu ar ymgysylltiad eu plentyn cyn oedran ysgol â gweithgarwch corfforol yn y gymuned. Er bod y rhain yn darparu meysydd allweddol i'w hystyried gan ymarferyddion a llunwyr polisïau, mae angen mwy o waith ar rai hefyd i archwilio a deall eu heffaith ymhellach.

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, mae tri argymhelliad allweddol wedi’u gwneud, ac mae awgrymiadau ar gyfer eu gweithredu wedi’u hamlinellu:

Argymhelliad 1

Mae angen archwilio ymhellach y canfyddiadau o ran sut gall y rhwystrau a'r hwyluswyr amrywio rhwng mamau a thadau. Er bod barn ac anghenion tadau'n cael eu trafod yn rhai o'r erthyglau a gynhwyswyd, roedd nifer y safbwyntiau gan ferched yn llawer uwch.

Mae cyfleusterau fel cylchoedd chwarae a pharciau yn rhoi cyfleoedd i famau gymdeithasu: mae angen archwilio safbwyntiau tadau ymhellach. Efallai y bydd angen ymgyrchoedd hysbysebu deuol i dargedu rôl y ddau riant ar yr un pryd.     

Argymhelliad 2

Gallai’r ffactorau a allai gael y dylanwad mwyaf ar rieni sy’n fwy neu’n llai cefnog, a / neu sy’n byw mewn lleoliadau gwledig neu drefol, amrywio ac mae angen ymchwilio ymhellach iddynt.

Mewn cymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu, rhwystrau fforddiadwyedd a mynediad yw'r her fwyaf; lle nad yw cost yn broblem, mae'n ymddangos bod y ffactorau sy’n dylanwadu’n canolbwyntio mwy ar gredoau a chyfleoedd cymdeithasol: mae angen cymharu effaith gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol a daearyddol yn fanylach.

Efallai y bydd angen graddio strategaethau gweithredu polisi a darpariaeth cyfleoedd, er eu bod yn cael eu darparu i bawb, yn dibynnu ar angen

Argymhelliad 3

Gall credoau a gwybodaeth rhieni ddylanwadu ar y ffordd maent yn blaenoriaethu gweithgarwch corfforol.   

Ers blynyddoedd lawer, y dybiaeth o fewn cymdeithas yw bod plant cyn oedran ysgol yn ddigon actif eisoes, dim ond drwy gymryd rhan yn eu gweithgareddau bob dydd arferol: mae angen sefydlu ble ar y sbectrwm o bwysigrwydd mae rhieni yn gosod cynnwys plant cyn oedran ysgol mewn gweithgarwch corfforol.

Mae angen ystyried strategaethau sy'n addysgu rhieni am werth gweithgarwch corfforol ac sy’n herio credoau a gwybodaeth.

Darllen Mwy
Cefndir
Darllen Mwy
Canlyniadau