Mae Cronfa Cymru Actif yn parhau i fod yn brif ffynhonnell o gyllid gan Chwaraeon Cymru i helpu clybiau cymunedol i gyflawni nodau Cyrff Rheoli Cenedlaethol o ddatblygu eu chwaraeon, darparu cyfleoedd am oes, a mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn cyfranogiad chwaraeon.
Gan ddefnyddio arian sydd wedi’i neilltuo i Chwaraeon Cymru gan y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 y gellir eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion fel prynu offer newydd, talu am gyrsiau addysgu hyfforddwyr, neu ddefnyddio technoleg i ennyn diddordeb mwy o gyfranogwyr (ee darparu sesiynau ar-lein).
I helpu i ysbrydoli clybiau ar draws yr holl chwaraeon i ystyried sut gallai’r cyllid sydd ar gael gefnogi eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, dyma rai enghreifftiau gwych o sut mae clybiau criced yng Nghymru wedi bod yn gwneud defnydd da o Gronfa Cymru Actif yn ystod y 12 mis diwethaf…
1. Clwb Criced Malpas: Offer ymarferol
Mae mwyafrif helaeth y grant o £5,350 wedi cael ei ddefnyddio gan y clwb i brynu peiriant torri gwair i eistedd arno sydd wedi gwneud cynnal a chadw eu cae yn llawer cyflymach a haws i wirfoddolwyr y clwb. Mae mwy o wirfoddolwyr yn cynnig gwneud y gwaith nawr gan ei fod wedi dod yn llawer haws!
2. Clwb Criced Llandaf: Cyrsiau hyfforddi
Straeon llwyddiant mwyaf y clwb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd creu tîm dan 12 i enethod o gymunedau ethnig amrywiol yn ogystal â dau dîm merched newydd. Defnyddiodd y clwb ran o'i grant o £4,168 i dalu am gyrsiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr newydd ac i brynu'r offer yr oedd arnynt ei angen.
3. Clwb Criced Trefynwy: Gwella cyfleusterau
Er bod cawell batio ychwanegol (a brynwyd gan ddefnyddio grant o £1,339) wedi'i dargedu'n bennaf at gynyddu cyfranogiad merched a genethod, mae holl aelodau'r clwb wedi bod yn elwa o'i gyfleusterau gwell.
Hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae clybiau criced yng Nghymru wedi rhannu gwerth mwy na £250,000 o grantiau Cronfa Cymru Actif. Wrth esbonio sut mae Cronfa Cymru Actif yn cyfrannu at gynlluniau Criced Cymru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, dywedodd y Rheolwr Datblygu a Chymuned, Mark Frost: “Drwy gynnig grantiau i uwchraddio cyfleusterau ac offer clybiau, a hefyd darparu hyfforddiant i hyfforddwyr gwirfoddol newydd, mae Cronfa Cymru Actif yn elfen allweddol o gefnogi gwaith clybiau i wneud criced yn apelgar i’r teulu cyfan.
“Mae cymaint o glybiau yng Nghymru wedi cymryd camau mawr ymlaen i gael teuluoedd i chwarae, cefnogi, hyfforddi, trefnu ac wrth gwrs ymlacio gyda’i gilydd wedyn a chwrdd â ffrindiau newydd ar y nosweithiau haf (niferus) hynny!
“Mae’r cyllid hefyd yn cefnogi ein gwaith i wneud criced yn fwy amrywiol. Mae clybiau sy'n fwy cynhwysol yn dod yn well ac yn gryfach. Er enghraifft, mae dyfodiad pêl feddal merched (cymdeithasol neu ‘ddifrifol’) wedi cyflwyno rhwydwaith newydd i lawer o glybiau ac mewn sawl achos mae wedi cefnogi cadw chwaraewyr gwrywaidd yn ogystal ag ymgysylltu â llawer mwy o enethod yn ein rhaglenni All Stars a Dynamos.”