Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae tîm bach o Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect manwl i wella cyrhaeddiad ac effaith ein harian grant ar gyfer clybiau a sefydliadau cymunedol.
Gyda chefnogaeth partneriaid, mae buddsoddiad cymunedol wedi dod yn amlwg iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ers i’r pandemig ddechrau, gyda mwy na 1,100 o glybiau a sefydliadau’n rhannu gwerth bron i £6m o gyllid drwy Gronfa Cymru Actif.
Ond rydym yn gwybod y gellir gwneud mwy i gefnogi ein nod hirdymor o leihau anghydraddoldeb mewn cyfranogiad chwaraeon yng Nghymru.
Fe fuom ni’n siarad ag Owen Burgess, Arweinydd Dylunio a Datblygu Gwasanaethau Chwaraeon Cymru, i gael gwybod beth mae’r prosiect wedi’i ddatgelu…
Dull rhesymegol o weithredu
Gan weithio gydag arbenigwyr o’r Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, rydym wedi rhannu’r prosiect yn gamau gwahanol; y cyntaf oedd y cam darganfod. Er bod llawer ohonom yn y sector wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd am y problemau mae rhai pobl yn eu hwynebu wrth wneud cais i wahanol gronfeydd, roedd angen i ni gynnal ymchwil manwl i adolygu a nodi diffygion ein prosesau ymgeisio am arian ein hunain. Roeddem eisiau deall sut brofiad mae'r defnyddiwr yn ei gael, gweld pa broblemau maent yn dod ar eu traws a pha gymorth sydd arnynt ei angen.
Beth wnaethom ei ddarganfod
Un thema gyson oedd yn codi mewn arolygon a chyfweliadau gyda mwy na 250 o grwpiau a chlybiau cymunedol oedd y ffaith y dylai ein ffurflen gais am grant fod yn fyrrach, yn symlach ac yn gliriach:
“Rydyn ni’n cael ein gweithredu gan amaturiaid sy’n rhoi o’u hamser, gwirfoddolwyr”
“Mae’r mae angen gwneud y broses yn symlach”
“Mae’r ffurflen yn anodd ei deall – mae’r geiriau sy’n cael eu defnyddio yn rhy fawr”
(Dyfyniadau gan ddefnyddwyr a roddodd adborth fel rhan o’r cam darganfod)
Roeddem wedi dychryn o glywed bod rhai defnyddwyr yn teimlo bod angen iddynt gael eu haddysgu i lefel gradd i gwblhau ein ffurflen gais gan eu bod yn gweld y broses yn rhy gymhleth. Dywedodd hanner y rhai a roddodd eu hadborth eu bod yn hapus i lenwi ffurflen ysgrifenedig tra bo eraill yn ffafrio dulliau eraill o wneud cais – cawsant eu hatal rhag gwneud cais gan nad oeddent yn teimlo’n hyderus nac yn gyfforddus i ysgrifennu cais.