Skip to main content

Gwneud ‘Amser Ychwanegol’ i siarad am chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Amser Ychwanegol - Ionawr 2022
  3. Gwneud ‘Amser Ychwanegol’ i siarad am chwaraeon yng Nghymru

Croeso gan Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru

Mae blas ‘dysgu’ cryf ar y rhifyn cyntaf ‘Amser Ychwanegol’ – o ymchwil hynod ddiddorol i effaith cylch y mislif ar chwaraeon merched, i fanylion ein cegin hyfforddi athletwyr newydd, ac adlewyrchu ar gyllid clybiau cymunedol. Gobeithio y bydd y rhifyn hwn o ddiddordeb i chi a byddem yn croesawu eich adborth.

Rydym hefyd eisiau i ‘Amser Ychwanegol’ arddangos gwerth chwaraeon i sectorau a sefydliadau eraill lle mae cyfleoedd ar gyfer cydweithio. A hoffem i bartneriaid gymryd rhan mewn rhifynnau yn y dyfodol. Er enghraifft, os ydych chi’n arwain prosiect arloesol yr hoffech chi dynnu sylw ato er mwyn gwneud cysylltiadau newydd o fewn y sector chwaraeon yng Nghymru a thu hwnt, e-bostiwch y tîm cyfathrebu neu siaradwch â’ch cyswllt yn Chwaraeon Cymru.

Rydym hefyd eisiau i ‘Amser Ychwanegol’ arddangos gwerth chwaraeon i sectorau a sefydliadau eraill lle mae cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru

Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022

Yn unol â’r thema dysgu, hoffwn eich gwneud yn ymwybodol y bydd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 yn cael ei lansio ddydd Llun 28 Mawrth ac y bydd ar agor tan ddydd Gwener 22 Gorffennaf. 

Yn un o arolygon mwyaf y byd o bobl ifanc, bydd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 yn darganfod pa weithgareddau chwaraeon y mae plant Cymru yn eu mwynhau fwyaf, a pha rai yr hoffent wneud mwy ohonynt. 

Bydd hefyd yn datgelu pa rwystrau sy’n atal pobl ifanc yng Nghymru rhag byw bywyd mwy actif. Rwy’n meddwl y bydd yr arolwg eleni yn bwysicach nag erioed gan y bydd yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar effaith pandemig Covid-19 ar arferion gweithgarwch pobl ifanc. 

Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn enghraifft berffaith o chwaraeon yng Nghymru yn gweithredu drwy ganolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n helpu sector chwaraeon Cymru i nodi meysydd sydd angen ein sylw ac yn ein helpu i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau. Ynghyd â’n partneriaid, byddwn yn defnyddio data’r arolwg i ddadansoddi tueddiadau sy’n dod i’r amlwg fel bod posib datblygu chwaraeon mewn fformat sy’n ysgogi plant a phobl ifanc heddiw. 

Ac wrth gwrs, ynghyd â data o Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae canlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn dylanwadu ar sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu gan Chwaraeon Cymru i nifer o’n partneriaid. 

Bydd rhai newidiadau i’r arolwg eleni, yn seiliedig ar adborth a roddwyd gan bartneriaid yn ystod ymgynghoriad y llynedd. Byddwn yn rhannu'r newidiadau hynny gyda chi yn fuan. 

Fel bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth enfawr mae ein partneriaid, a phartneriaid yn yr awdurdodau lleol yn benodol, wedi’i rhoi i gwblhau’r arolwg. Rhwng nawr a diwedd mis Mawrth, gall awdurdodau lleol ac ysgolion ddisgwyl cael yr holl wybodaeth sydd arnynt ei hangen i helpu i roi llais i bobl ifanc eto eleni. Cadwch lygad am fanylion yn fuan.
 

bydd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 yn darganfod pa weithgareddau chwaraeon y mae plant Cymru yn eu mwynhau fwyaf, a pha rai yr hoffent wneud mwy ohonynt.

Fuddsoddiad ychwanegol o £4.5m gan Lywodraeth Cymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad am fuddsoddiad ychwanegol o £4.5m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o wella a datblygu cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar hyd a lled Cymru.

Bydd yn gwneud gwelliannau ac yn cefnogi datblygiad ar draws llu o gyfleusterau, gan gynnwys lleoliadau aml-chwaraeon, traciau beicio, lleoliadau dan do, traciau rhedeg, pyllau nofio, a chaeau 3G, ymhlith eraill.

Mae’r holl fuddsoddiad wedi cael ei glustnodi yn dilyn proses mynegi diddordeb a gynhaliwyd ddiwedd y llynedd, a ddangosodd yr angen am yr arian ychwanegol ac sydd wedi ein galluogi i nodi prosiectau blaenoriaeth.

Rydyn ni wedi gweithio gyda’r sector i sicrhau dosbarthiad daearyddol eang a bod amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau yn cael eu cefnogi. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus hefyd i geisio sicrhau y bydd y buddsoddiad o fudd i'r cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf.

Mae angen i bob un o’r prosiectau a fydd yn cael eu cefnogi symud ymlaen i gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, felly ni fydd yn hir cyn i’r cyhoedd yng Nghymru ddechrau gweld manteision y dyraniad.

Plas Menai

Yn ystod y 39 mlynedd diwethaf, mae Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai wedi meithrin enw da am ddarparu anturiaethau awyr agored o safon byd i bob oedran. Yn 2021, ar ôl cyfnod o adolygu, cytunodd Bwrdd Chwaraeon Cymru y byddai datblygu partneriaeth gyda sefydliad priodol yn helpu i sicrhau bod Plas Menai yn gallu manteisio i’r eithaf ar ei botensial am flynyddoedd i ddod. 

Rydyn ni nawr yn barod i wahodd sefydliadau i gofrestru eu diddordeb ar GwerthwchiGymru a gallwch chi gael gwybod mwy yma.