Skip to main content

£4.5m ychwanegol i wella’r tirlun chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. £4.5m ychwanegol i wella’r tirlun chwaraeon yng Nghymru

Heddiw mae Chwaraeon Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad am fuddsoddiad ychwanegol o £4.5m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o wella a datblygu cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar hyd a lled Cymru.

Bydd y bddsoddiad ychwanegol yn cyfrannu at yr uchelgais i bob person yng Nghymru gael mynediad i ystod o gyfleusterau o ansawdd uchel lle gallant gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Bydd yn gwneud gwelliannau ac yn cefnogi datblygiad ar draws llu o gyfleusterau, gan gynnwys lleoliadau aml-chwaraeon, traciau beicio, lleoliadau dan do, traciau rhedeg, pyllau nofio, a chaeau 3G, ymhlith eraill.

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru; “Heb y cyfleusterau sydd ar gael, does dim unrhyw ffordd y gallwn ni gyflawni ein nod o roi’r cyfle i bob person yng Nghymru fod yn gorfforol actif, a dyma pam rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y cyllid ychwanegol yma gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r holl fuddsoddiad wedi cael ei glustnodi yn dilyn proses mynegi diddordeb a gynhaliwyd ddiwedd y llynedd, a ddangosodd yr angen am yr arian ychwanegol ac sydd wedi ein galluogi i nodi prosiectau blaenoriaeth.

“Rydyn ni wedi gweithio gyda’r sector i sicrhau dosbarthiad daearyddol eang a bod amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau yn cael eu cefnogi. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus hefyd i geisio sicrhau y bydd y buddsoddiad o fudd i'r cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf.

“Mae angen i bob un o’r prosiectau a fydd yn cael eu cefnogi symud ymlaen i gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, felly ni fydd yn hir cyn i’r cyhoedd yng Nghymru ddechrau gweld manteision y dyraniad.”

O’r £4.5m, bydd £1.2m yn cael ei ddyrannu i brosiectau caeau artiffisial cydweithredol rhwng hoci, pêl-droed a rygbi, gan greu sawl cae 3G ac Astroturf newydd ledled Cymru. Mae £1.5m wedi cael ei glustnodi ar gyfer prosiectau cyfalaf unigol mewn campau niferus a nodwyd ledled y wlad. Mae £1.3m yn cael ei ddyrannu i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fel rhan o becyn cymorth llywodraethol y cytunwyd arno i wneud gwelliannau y mae eu gwir angen i gyfleusterau pêl-droed ac aml-chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru. Bydd £0.5m yn cefnogi gwella prosiect BMX cyffrous yng nghanol Dinas Caerdydd.

Mae cymunedau Cymru yn cael eu hatgoffa hefyd bod Cronfa Cymru Actif a Lle i Chwaraeon Crowdfunder yn parhau i fod ar agor ar gyfer ceisiadau gan glybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol i gefnogi gwelliannau a datblygiadau unigol. I gael rhagor o wybodaeth am y ddwy gronfa, ewch i https://www.sport.wales/grants-and-funding/

 

Newyddion Diweddaraf - Grantiau a Chyllid

Cronfa gwerth £5 miliwn yn cael effaith am y tro cyntaf

Fe hawliodd Cymru'n gwbl briodol ei bod wedi defnyddio Profion pêl rwyd yr haf fel carreg gamu at lwyddiant…

Darllen Mwy

Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

Mae cronfa newydd i helpu i roi hwb i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghymru wedi dyrannu dros…

Darllen Mwy

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy