Skip to main content

Ymchwil i gylch y mislif

Ymchwil diweddaraf: Athrawon angen mwy o gefnogaeth i leihau effaith cylch y mislif ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon

Mae cam diweddaraf ymchwil Cymru i effaith cylch y mislif ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon wedi argymell bod angen mwy o gefnogaeth ar athrawon i helpu i wella addysg am y pwnc mewn ysgolion.

Mae arolwg helaeth o bron i 800 o athrawon o bob rhan o’r DU wedi canfod mai dim ond 48% o athrawon sy’n teimlo’n hyderus yn eu gwybodaeth i addysgu am gylch y mislif, a bod bron i un o bob pedwar (23%) yn anghyfforddus yn addysgu’r pwnc.

Roedd 35% o athrawon yn teimlo bod eu diffyg hyder a phrinder adnoddau yn rhwystrau sy’n atal addysgu gwersi mwy addysgiadol am y mislif mewn ysgolion, a dywedodd 40% bod diffyg amser yn cael ei neilltuo i’r mater.

Mae’r ymchwil athrawon wedi’i gynnal diolch i gydweithrediad rhwng Chwaraeon Cymru, Athrofa Gwyddor Perfformiad Cymru a Phrifysgol Abertawe fel cam diweddaraf prosiect mawr i edrych ar a deall y materion amrywiol sy’n wynebu athletwyr benywaidd ar bob lefel mewn chwaraeon.

Dechreuodd y prosiect dair blynedd yn ôl gyda ffocws ar athletwyr elitaidd ac ers hynny mae wedi ehangu ei gwmpas yn ehangach.

Dangosodd y canfyddiadau cychwynnol bod y mislif yn destun tabŵ o hyd mewn chwaraeon elitaidd ac yn parhau i gael effaith negyddol ar ferched sy’n cystadlu ar y lefel uchaf.

Fodd bynnag, canfuwyd bod athletwyr elitaidd yn tueddu i ddod yn well am reoli eu harferion drwy brofiad, tra oedd merched iau weithiau'n cyfaddef nad oeddent wedi gwneud cysylltiad mewn gwirionedd rhwng dirywiad yn eu perfformiad neu eu brwdfrydedd dros hyfforddi a chael eu mislif.

O ganlyniad, roedd tîm yr ymchwil eisiau ymestyn eu hastudiaeth i adolygu’r addysg sy’n cael ei darparu mewn ysgolion am gylch y mislif i weld a oedd lle i wella.

Mae’r prif ymchwilydd, Dr Natalie Brown, yn esbonio mwy: “Ar ôl edrych ar sut roedd cylch y mislif yn effeithio ar athletwyr lefel uchaf o ran eu hyfforddiant a’u perfformiad, roedden ni eisiau mynd â’r ymchwil i gyfeiriad edrych ar sut roedd diffyg gwybodaeth posibl am gylch y mislif yn effeithio ar ferched iau.

“Roedden ni’n meddwl tybed a ellid gwneud mwy i roi mwy o ymwybyddiaeth a chyngor i athletwyr iau ar gyfer rheoli symptomau difrifol a allai eu helpu yn eu gyrfaoedd chwaraeon, a hefyd gweld a oedd y mislif yn ffactor a oedd yn achosi i rai merched roi’r gorau i chwaraeon yn gyfan gwbl.  

“Roedden ni eisiau cael gwybod gan athrawon beth sy’n cael ei drafod a beth sydd ddim yn cael ei drafod yn yr ystafell ddosbarth. Rydyn ni wedi darganfod bod y rhan fwyaf o’r addysgu’n canolbwyntio ar agweddau biolegol cylch y mislif a’r system atgenhedlu, gyda llai o sylw’n cael ei roi i’r dimensiynau cymdeithasol ac emosiynol. Mae bwlch yn y wybodaeth sy’n cael ei rhoi am sut i reoli’r symptomau sy’n amharu ar ferched.” 

Canfu’r ymchwil diweddaraf bod 88% o athrawon wedi adrodd am effaith ymddangosiadol ar gyfranogiad mewn Addysg Gorfforol, presenoldeb yn yr ysgol a hyder merched o ganlyniad i’r mislif. Yn y cyfamser, dim ond 18% a ddywedodd eu bod wedi addysgu am fanteision ymarfer corff yn ystod y mislif.

Ychwanegodd Natalie: “Dylai addysg ganolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth ac effaith ar iechyd a lles cyffredinol, a hefyd tynnu sylw at fanteision gweithgarwch corfforol i reoli symptomau cylch y mislif fel crampiau stumog. Gall ymarfer corff ysgafn, cerdded neu ioga helpu i leihau difrifoldeb unrhyw boen. 

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n grymuso merched i reoli cylch eu mislif a gofyn am help priodol lle mae angen. Yn hollbwysig, mae hyn yn gofyn am gefnogaeth i athrawon gynyddu eu hyder a’u gwybodaeth, ac mae angen hefyd i athrawon fynd i’r afael â’u hangyfforddusrwydd eu hunain wrth drafod ac addysgu am y mislif.

“Dyma faes arall mewn bywyd lle mae COVID-19 wedi cael effaith. Gyda gorfodi addysgu gartref yn ystod y cyfnodau clo cenedlaethol, mae grŵp o bobl ifanc sydd â chryn dipyn yn llai o addysg y mislif o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. ”

“Mae hefyd yn bwysig nodi mai un agwedd yn unig yw addysg mewn ysgolion ar gyflawni newid diwylliannol a lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â’r mislif; mae cefnogaeth rhieni yn hollbwysig hefyd i normaleiddio sgyrsiau mewn cymdeithas a chyfathrebu’n agored am gylch y mislif.”

Ar ôl casglu barn athrawon, bydd Natalie nawr yn arwain cyfres o grwpiau ffocws gyda disgyblion ysgol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf er mwyn sefydlu darlun cliriach o faint o gyfranogiad gan ferched mewn chwaraeon a allai fod yn mynd ar goll oherwydd problemau’n ymwneud â chylch y mislif.

Meddai Natalie wedyn: “Mae hwn yn bwnc mor bwysig a hynod ddiddorol, ac ychydig iawn o waith ymchwil sydd wedi’i wneud yn ei gylch o’r blaen. Mae’n bwysig i ni ddysgu beth allwn ni ei wneud i gefnogi merched gyda chylch eu mislif fel nad ydyn nhw’n colli addysg gorfforol ac yn rhoi’r gorau i chwaraeon.” 

Gallwch ddarllen crynodeb o’r canfyddiadau diweddaraf yma