Skip to main content

Chwifio’r Faner dros Bêl Droed Americanaidd

Yn ôl y sôn mae digwyddiad chwaraeon mwyaf America yn gallu dod â phwerdy mawr y byd i stop, ond yng Nghymru, mae Super Bowl wedi ysbrydoli cefnogwyr cadair freichiau i weithredu ers mwy na 30 o flynyddoedd.

Sylw ar y teledu roddodd gychwyn i Bêl Droed Americanaidd yn y DU, gan gynnwys dangos Super Bowl yn fyw ar S4C a Channel 4 yn y 1980au, a heddiw mae Cymru'n gartref i glybiau dynion a merched ac mae'r gêm yn cael ei chwarae mewn prifysgolion a chan sawl tîm digyswllt. 

Er nad yw'r un o'r clybiau a ffurfiwyd yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a gogledd Cymru yn y 1980au wedi goroesi hyd heddiw, Warriors De Cymru, sydd wedi cystadlu yng Nghynghreiriau Cenedlaethol Cymdeithas Bêl Droed Americanaidd Prydain (BAFA) ers 2001, yw'r clwb sydd wedi'i sefydlu ers yr amser hiraf yng Nghymru ac mae'n dal i ddenu chwaraewyr newydd.

Pan fydd y tymor newydd yn cychwyn ym mis Ebrill, bydd y Warriors, sy'n chwarae eu gemau cartref yng Nghlwb Rygbi Llanharan, tua hanner ffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, yn cystadlu yn erbyn clybiau o bob cwr o dde Lloegr yn ail haen y gêm ym Mhrydain, ar ôl ennill teitl Adran Dau y De yr haf diwethaf.         

Agorodd y Warriors eu rhaglen hyfforddi ym mis Ionawr gyda sesiynau ar gyfer chwaraewyr newydd mewn camp sydd angen pob siâp a maint yn ôl y chwaraewyr.    

Mae Christopher Bartlett-Legge wedi chwarae er pan oedd yn 15 oed ac mae'r amddiffynnwr ôl yn dechrau ar ei 12fed tymor gyda'r Warriors ar ôl ymuno fel llanc 18 oed.          

Er gwaetha'r enw sydd gan y gêm am lawer o gyswllt, sy'n cael ei ategu gan yr offer gwarchodol yn steil gladiators mae'r chwaraewyr yn ei wisgo, cafodd ei ddenu at y gamp i ddechrau ar ôl cael anaf rygbi. 

"Roeddwn i'n chwarae rygbi pan oeddwn i'n iau ac fe wnes i frifo fy mhen-glin felly es i i chwilio am gamp gyda llai o gyswllt ar y pryd a dod o hyd i bêl droed baner a dyna pryd dechreuodd fy obsesiwn i gyda'r gêm," meddai'r llanc 29 oed bellach o'r Isga ger Casnewydd.

Er nad oedd ganddo "ddim syniad" am y rheolau i ddechrau, mae'r rheolwr stoc wedi magu llawer o brofiad ac mae hefyd yn hyfforddi tîm Gwent Gators ac yn llwyddo i gael amser i fynychu dau sesiwn hyfforddi Pêl Droed Americanaidd bob wythnos, yn ogystal ag o leiaf tri ymweliad â'r gampfa a threulio amser yn gwylio fideos hyfforddi.

Mae Christopher, sydd hefyd yn ganolwr i'w dîm rygbi lleol, Cwmcarn Unedig, yn dweud bod Pêl Droed Americanaidd yn gallu dod o hyd i safle technegol ar gyfer pob siâp corff ac felly mae'n gwneud y gamp yn wahanol i'r chwaraeon sydd i'w canfod yn draddodiadol ar gaeau chwarae Cymru.

"Rydw i'n meddwl mai ei hatyniad mwyaf o gymharu â champau prif ffrwd yw ei bod yn gêm i bobl o bob maint. Mae angen pobl gydag amrywiaeth o feintiau corff er mwyn bod yn llwyddiannus.

"Fe allwch chi fod yn 5"6 ac yn naw stôn - neu'n 6"6 ac yn 20 stôn - a chael eich gwerthfawrogi yr un faint."

Mae Lois McConville - fel Christopher - yn amddiffynnwr ôl ac nid oedd ganddi lawer o wybodaeth am y gêm pan ymunodd â Valkyries Caerdydd ym mis Chwefror 2016, pan ffurfiwyd y clwb fel tîm Pêl Droed Americanaidd cyntaf Cymru i ferched, a'r unig dîm i ferched o hyd. 

Cafodd ei hysbrydoli gan ei phartner, oedd yn chwarae i'r Cobras, tîm Pêl Droed Americanaidd Prifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn cystadlu yng nghynghrair Prifysgolion Prydain ers 1986, ar ôl cyflawni sawl rôl wirfoddol.

Meddai: "Roeddwn i'n chwarae pêl rwyd yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol ac rydw i'n dawnsio tap hefyd.

"Pan oedd sesiwn blasu ar gyfer merched fe wnes i feddwl y byddwn i'n rhoi cynnig arno gan fy mod i wedi ymwneud â thîm y brifysgol o ran ffysio/tylino chwaraeon neu fel swyddog peli yn y gemau.

"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y gamp a dydw i ddim yn gwybod popeth nawr, ond roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd."

Dechreuodd y Valkyries drwy chwarae pêl droed baner ac, yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, maent wedi cystadlu mewn twrnameintiau baner a chyffwrdd, gyda llai o chwaraewyr, yn hytrach na'r 11 safonol, ar gaeau llai ledled y wlad. 

Mae Lois, sy'n 25 oed ac yn byw yn Llaneirwg, Caerdydd, yn diolch i'r hyfforddwr Simon Browning, cyn-chwaraewr gyda'r Warriors a'r Cobras, am wneud y grŵp cychwynnol o bump o ferched dibrofiad yn rym cystadleuol.

"Fe wnaethon ni ddechrau gyda phêl droed baner ac rydyn ni newydd dyfu a datblygu i fod yn dîm cyswllt ac mae rhai o'n merched ni wedi bod yn rhan o Gyfres Diamond a chael cyfle i gael eu gweld ar gyfer tîm merched Prydain Fawr.                 

"Rydyn ni'n lwcus iawn o gael Simon fel ein prif hyfforddwr ni. Mae'n gwybod cymaint am y gamp a sut mae'r cynghreiriau ledled y DU yn cael eu gweithredu."

Mae'r clwb yn uchelgeisiol am recriwtio.          

"Rydyn ni eisiau i bob menyw yng Nghymru ystyried chwarae i ni," ychwanegodd Lois.

"Mae safle addas i bob math o berson mewn pêl droed Americanaidd; cryf, araf, cyflym, bach, ffyrnig, sionc, manwl gywir. Doeddwn i heb chwarae camp gyswllt yn fy mywyd cyn ymuno â'r tîm yma.            

"Mae gennym ni chwaraewyr o bob math o gefndiroedd: dim chwaraeon, pêl rwyd, dringo creigiau, crefftau ymladd a rygbi. Rydyn ni eisiau i ferched ddod draw, bod yn frwdfrydig a mwynhau eu hunain.

"Rydw i'n mynd allan i hysbysebu'r tîm mewn campfeydd lleol yn fy nghit gyda merched eraill. Rydw i'n ceisio dweud wrth y merched rydyn ni'n eu cyfarfod am roi cynnig ar rywbeth newydd ac nad ydi'r elfen gyswllt yn rhywbeth i'w ofni."