Skip to main content

BLOG: Cynulleidfa, Cynulleidfa, Cynulleidfa – sut mae Clip yn eu rhoi nhw yn gyntaf

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. BLOG: Cynulleidfa, Cynulleidfa, Cynulleidfa – sut mae Clip yn eu rhoi nhw yn gyntaf

Mae’r heriau i chwaraeon yn gallu ymddangos yn ddiddiwedd yn aml. Mewn byd sy’n newid yn gyflym iawn, mae un her yn codi’n uwch nag eraill – cyrraedd ein cynulleidfa.   

Yn y blog yma, mae Paul Batcup yn edrych ar bwysigrwydd ymwneud â’r gynulleidfa a pham y gall Clip helpu. 

Bydd technolegau’n esblygu, ymddygiad defnyddwyr yn newid yn anochel ond fe ddylech chi fod â strategaeth farchnata graidd yn ei lle sy’n addasu gydag amser. Drwy adnabod eich cynulleidfa a beth rydych chi eisiau ei gyflawni fel sefydliad, mae’r cyfleoedd creadigol yn ddiddiwedd.       

Yn y byd chwaraeon rydyn ni’n anghofio yn aml iawn am bwysigrwydd cynllunio ein strategaethau marchnata oherwydd pwysau amser, adnoddau a baich gwaith. Ond mae rhai o’r ymgyrchoedd chwaraeon mwyaf llwyddiannus wedi deillio o gynllunio medrus a dull hyblyg o weithredu. 

 

Gadewch i ni edrych ar un esiampl y gallwn ni uniaethu â hi. Fedrwch chi gredu bod parkrun sydd mor boblogaidd wedi dathlu ei ben blwydd yn 15 oed eleni? Fyddech chi’n synnu o ddeall mai dim ond 13 rhedwr oedd yn cymryd rhan yn y bore parkrun cyntaf, gyda phump o wirfoddolwyr yn cefnogi? Heddiw mae’n deulu rhyngwladol gyda mwy na thair miliwn o redwyr. 

Roedd y cysyniad yn syml; cyrraedd bob bore Sadwrn a cherdded, loncian neu redeg 5k, neu os ydych chi’n blentyn, 2k bob dydd Sul. Does dim ots pa mor gyflym ydych chi. Does dim ots beth rydych chi’n ei wisgo. Yr hyn sy’n bwysig yw cymryd rhan. Mae digwyddiadau parkrun mewn 20 o wledydd ym mhob cwr o’r byd erbyn hyn. 

Roedd parkrun yn deall ei gynulleidfa o’r dechrau un, gan roi sylw i gynhwysiant a lles a dyhead pobl i deimlo’n rhan o gymuned leol real. 

Er nad yw’r cysyniad wedi newid, mae’r dechnoleg wedi newid yn sicr. Bymtheng mlynedd yn ôl, y cyfan roedd yn ei gynnwys oedd tagiau dur gyda rhifau ar y cefn cyn i docynnau plastig gael eu defnyddio. Roedd yr angen am esblygu’n glir ac yn fuan iawn cafodd system adnabod a thracio ar-lein ei hintegreiddio a hyd yn oed heddiw mae technoleg yn symud mor gyflym fel bod rhaid iddi gyd-fynd â gofynion ei defnyddwyr yn y dyfodol.           

 

Felly sut mae cymryd dalen o lyfr parkrun?

Mae llawer o heriau’n wynebu chwaraeon yng Nghymru a rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni o flaen y rhain, rhag i neb gael ei adael ar ôl. Maen nhw’n cynnwys yr algorithmau sy’n newid o hyd, sef llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, addasiadau mewn technoleg, casglu gwybodaeth a dirnadaeth, y ffyrdd mae ein cynulleidfaoedd ni’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, sut maen nhw’n cael eu newyddion a sut gallwn ni ddefnyddio data syml am ein cynulleidfaoedd i greu ymgyrchoedd person-ganolog llwyddiannus. 

Drwy rannu ein profiadau gyda’n gilydd, gallwn feddwl am fentrau marchnata cadarnach a chanolbwyntio ein hymdrechion yn fwy effeithiol a hefyd teimlo ein bod yn cael ein cefnogi a’n hannog gan ein cyfoedion. Rydyn ni eisiau rhoi adnoddau i chi er mwyn gallu dilyn siwrnai eich defnyddwyr yn y pen draw fel eich bod yn gallu darparu’r wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen, yn y fformat maen nhw ei angen. Os ydych chi’n gallu ateb rhai o’r cwestiynau hyn eisoes, rydych chi ar y llwybr cywir. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny eto oherwydd bydd y rhaglen CLIP yn eich helpu chi gyda hynny.

  • Beth ydych chi’n ei gynnig sy’n unigryw i’ch cwsmeriaid? 
  • Pwy yw eich cynulleidfa darged? Am beth maen nhw’n poeni? 
  • Pa fath o negeseuon sy’n gweithio’n dda gyda’ch cynulleidfa darged? Ydych chi’n eu cyrraedd nhw yn y ffordd iawn ar y llwyfannau iawn? 
  • Pa fath o ymgyrchoedd neu weithgareddau marchnata allwch chi eu cynnal i gysylltu â’ch athletwyr a’ch cynulleidfaoedd? 
  • Oes gennych chi bresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol sy’n ddifyr? 

Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am y pynciau yma, clywed am straeon llwyddiannus ar draws sectorau ac, yn y pen draw, gwella eich ymdrechion cyfathrebu, cofiwch edrych ar y sesiynau CLIP neu gysylltu â’r tîm.   

Ffynhonnell: https://blog.parkrun.com/se/2019/09/30/parkrun-celebrates-15-years-how-times-have-changed/