Os oedd y llynedd yn 12 mis prysur i chwaraeon yng Nghymru, mae 2020 yn addo bod yn brysurach fyth gyda chyfle, cymhelliant a mynediad i bawb i gyrraedd mwy o binaclau chwaraeon.
Chwaraeon yng Nghymru - Ffocws 2020
O ran cyfranogiad, nod Chwaraeon Cymru o hyd yw cael mwy o bobl i fod yn actif, agor mwy o ddrysau ar iechyd a lles, ac i bobl allu cysylltu ag eraill drwy weithgareddau corfforol.
Ar yr un pryd, mae eleni’n gyfle rhagorol i Gymru bwysleisio ei statws fel cenedl sydd wedi’i bendithio â phencampwyr chwaraeon – modelau rôl i ysbrydoli a gwneud i ni deimlo’n falch.
O ran hynny, mae 2020 nid yn unig yn flwyddyn Olympaidd, ond hefyd bydd y Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal. Dau ddigwyddiad byd-eang sy’n debygol o weld ein hathletwyr o safon byd ni, fel Jade Jones ac Aled Davies, yn serennu.
Wedyn mae siawns am fwy o glod i Gymru yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Bêl Droed Ewrop eleni ar ôl i Ryan Giggs arwain ei dîm i’r camau terfynol. Os bydd hi’n hanner gymaint o antur ag un 2016, estynnwch am eich crys coch oherwydd rydyn ni’n mynd i gael gwledd.
I baratoi bois Giggs ar gyfer yr Ewros, mae gemau cartref cyfeillgar yn erbyn Awstria yn Abertawe ar Fawrth 27 ac yng Nghaerdydd dridiau yn ddiweddarach yn erbyn UDA.
Hefyd mae gan ferched Cymru ymgyrch allweddol i geisio cymhwyso ar gyfer Ewro 2021, gyda gemau cartref hollbwysig i ddod yn erbyn Ynysoedd Faroe a Norwy ym mis Ebrill. I baratoi, mae gan garfan Jayne Ludlow gêm gynhesu yn erbyn Estonia yn Wrecsam ar Fawrth 6.
Mae gan rygbi Cymru dri thîm sy’n brysur iawn gyda’u hymgyrchoedd unigol yn nhwrnameintiau’r Chwe Gwlad – twrnameintiau’r dynion, y merched a D21 – gyda’r dynion yn amddiffyn teitl y Gamp Lawn – ac mae ehangder y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn golygu bod beicio, hoci, nofio, bocsio, jiwdo, rhwyfo, hwylio, taekwondo, triathlon, tennis bwrdd a chodi pwysau i gyd yn barod am y misoedd prysur sydd o’u blaen.
Un uchafbwynt yn sicr fydd y twrnamaint cymhwyso Olympaidd ar gyfer tîm bocsio Prydain Fawr, sy’n cael ei gynnal yn Llundain ym mis Mawrth.
Yn arwain carfan Cymru fydd Lauren Price, a ddaeth yn bencampwraig byd yn ôl ym mis Tachwedd ac meddai: “Mae mynd i’r Gemau Olympaidd wedi bod yn freuddwyd i mi er pan oeddwn i’n wyth oed.
“Dyma pam wnes i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon ac rydw i’n benderfynol o fanteisio ar y cyfle yma i archebu fy lle yn Tokyo ar y cynnig cyntaf.”
All those elite sportsmen and sportswomen began at grass roots level, while their endeavours in 2020 should inspire people of all ages and backgrounds to try and make sport part of a healthy and active life.
Last year, Sport Wales’ strategic approach was to try and improve sporting facilities throughout the country via the £5m, A Place For Sport Fund. At the same time, a further £5m was directed to help people though the Healthy and Active Fund in a three-year programme which is now heading into year two.
The funds addressed two key concerns. People need better pitches, courts, indoor areas, gyms and general facilities – places to do sport – and they need more of them through 2020 and beyond.
Secondly, groups that have often found it difficult to be involved in sport – children, older people, people with disabilities or illnesses and those in deprived locations – need a helping hand from an organisation with the funds to do so.
One area that will continue to benefit throughout 2020 is the help given to those living with dementia. The Sporting Memories charity will continue to set up groups throughout Wales, who use the power of shared sporting experiences to combat loneliness and isolation.
The cash for upgrading facilities – which has been used already to benefit netball, cycling, athletics, gymnastic, bowls and cricket – had to be committed for spending by the end of March.
More recently, they have been allocated to taking old tennis courts and crumbling old-style carpet pitches and turning them into new surfaces suitable for football, rugby and hockey.
Hefyd mae sgïwyr ac eirafyrddwyr wedi elwa o well cyfleusterau yng ngogledd a de Cymru.
Efallai bod y gronfa wedi cyfrannu llawer at wella’r chwaraeon amrywiol yma, ond mae’r ffaith bod gwerth £15m o geisiadau wedi dod i law o fewn ychydig wythnosau’n dangos bod angen mwy o fuddsoddiad.
Dywedodd Brian Davies, prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ers peth amser bod llawer o’n seilwaith ni’n heneiddio. Roedd angen rhyw fath o fuddsoddiad cyfalaf os ydyn ni am gyflawni uchelgais pawb ar gyfer chwaraeon.
“Mae Llywodraeth Cymru yn deall hynny, ond wrth gwrs mae cyfyngiadau o ran beth allan’ nhw ei wneud. Mae croeso mawr i’r gronfa ac rydyn ni wedi cyflawni llawer, ond os ydyn ni am fod yn strategol, rhaid wrth ymrwymiad tymor hwy i fuddsoddiad cyfalaf.”
Mae’n golygu bod llawer i’w wneud – ar ac oddi ar y cae – yn 2020.