Skip to main content

Cyfryngau Cymdeithasol – lle i ddod o hyd i’ch cwsmeriaid

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyfryngau Cymdeithasol – lle i ddod o hyd i’ch cwsmeriaid

Mae’n rhan o’n bywydau bob dydd ni, ond yn bwysicach na dim, yn rhan o fywydau ein cwsmeriaid ni hefyd. Dyma Paul Batcup i dynnu sylw at pam mae’n rhaid i chwaraeon yng Nghymru fwydo’r bwystfil cyfryngau cymdeithasol.

Mae hoffi, rhannu a straeon wedi dod yn rhan o’n hiaith bob dydd ni; mae’r rhain yn ymwneud wrth gwrs â byd enfawr y cyfryngau cymdeithasol. 

Mae posib ymwneud â chyfryngau cymdeithasol ar raddfa fawr neu fach, fel rydych chi’n dymuno, ond os nad oes gennych chi bresenoldeb ar-lein hyd yn oed, rydych chi ar eich colled. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hynny, edrychwch ar y fideo byr yma o’r enw The Digital Transformation 2019.

 

https://www.youtube.com/watch?v=6k_G_h41ZaQ

Dyma rai o’r prif ffeithiau eto:       

  • Mae mwy na 50% o boblogaeth y byd dan 30 oed 
  • Pe bai Facebook yn wlad, yn ôl nifer ei aelodau, byddai’r wlad fwyaf yn y byd ... byddai UDA yn 9fed ar ôl llwyfannau cymdeithasol eraill gan gynnwys WhatsApp ac Instagram 
  • Fideo yw 80% o’n defnydd symudol               
  • Mae ein gallu i ganolbwyntio’n llai nag un pysgodyn aur!!

Yn ei hanfod, yr hyn mae’n ei ddweud wrthym ni yw bod ein cynulleidfa (fwy na thebyg) ar y cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw’n werth eu defnyddio ... ond mae’n bwysig eu defnyddio’n briodol. 

Gwneud y peth iawn   

Rhaid i ni gyfathrebu gyda’n cynulleidfaoedd mewn ffyrdd maen nhw eisiau gweld y cynnwys, a hefyd manteisio ar y ffordd mae llwyfannau’n cyflwyno cynnwys i’w defnyddwyr. 

Dyma’r rhan gyffrous; mae’r dyddiau o gyhoeddi datganiadau i’r wasg a gobeithio y bydd pobl yn eu gweld nhw ac yn gweithredu fel y bwriadwyd wedi hen fynd. Nawr fe allwn ni gyhoeddi datganiad i’r wasg, rhannu cyfweliad fideo gydag athletwr a hyd yn oed siarad yn uniongyrchol gyda’n cynulleidfaoedd yn fyw ar Instagram a’r cyfan o fewn ychydig funudau. Fe allwn ni fod yn feistri ar gyfathrebu gyda’n cwsmeriaid. 

Ond does dim un dull addas i bawb o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dylid trin pob cyfrif a llwyfan yn unigol; bydd bod yn ddewr a chreadigol gyda’ch cynnwys yn arwain at y canlyniadau gorau yn sicr. Un o’r datblygiadau mwyaf mewn cyfryngau cymdeithasol yw’r gallu i fesur a gwerthuso popeth bron rydych chi’n ei rannu ar-lein.                   

Ac mae gennym ni arbenigwr a all helpu.

Ydych chi’n awyddus i wneud mwy ar gyfryngau cymdeithasol ond yn ansicr ble i ddechrau a beth fydd yn gweithio orau i’ch llwyfannau a’ch cynulleidfaoedd chi? Os felly, cofrestrwch ar gyfer sesiwn CLIP y mis yma gyda chyn bennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC One a BBC Wales, Owen Williams, a fydd yn rhoi hyder i chi i gyfathrebu’n fwy effeithiol ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gyda chynulleidfaoedd iau. 

18 Mawrth: ‘Cyfryngau Cymdeithasol – Bod yn Ddewr’ (tocynnau Skype ar gael hefyd) https://www.eventbrite.co.uk/e/social-media-be-brave-tickets-93795754627

Blog gyda chefnogaeth Bethan Lewis, Brandrocker.