Skip to main content

Grantiau, benthyciadau a chefnogaeth i helpu sefydliadau chwaraeon yn ystod pandemig Coronafeirws

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Grantiau, benthyciadau a chefnogaeth i helpu sefydliadau chwaraeon yn ystod pandemig Coronafeirws

Mae’r Coronafeirws yn cael effaith enfawr ar fusnesau ac elusennau ar hyd a lled Cymru. Ac yn y sector chwaraeon, mae’r pandemig wedi cau’r llenni ar ddigwyddiadau, hyfforddiant a gweithgarwch a fydd yn siŵr o adael llawer o glybiau a sefydliadau yn wynebu anawsterau ariannol.  

Dyma grynodeb o gefnogaeth, cyngor, benthyciadau a grantiau’r llywodraeth sydd ar gael i’ch helpu chi i ddal eich tir.  

Diweddariadau a chyngor diweddaraf 

Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae’r sefyllfa yn newid yn gyflym felly rhaid i chi gadw ar ben y polisïau a’r cyngor diweddaraf. Gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) (https://wsa.wales/) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i sector chwaraeon Cymru yn ddyddiol.   

Mae eu diweddariadau’n amlinellu’r pecyn cefnogi sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y canlynol: 

Mae gan yr holl gyrff rheoli cenedlaethol sy’n aelodau o’r WSA aelodaeth ar gyfer eu clybiau hefyd - gallwch edrych a yw eich corff rheoli chi yn aelod ymaac wedyn cysylltwch â'r WSA ar gyfer manylion mewngofnodi i gael mynediad i adran aelodaeth ei gwefan. Os nad yw’n aelod, cysylltwch â’ch corff rheoli i ofyn iddo ymuno.

LLINELLAU CYMORTH SY’N CYNNIG CYNGOR

Os oes gennych chi gwestiynau ac ymholiadau penodol am eich busnes, mae’r WSA yn cynnig llinell gymorth am ddim. Cofrestrwch i fod yn aelod ac fe gewch chi fynediad at gyngor arbenigol am Adnoddau Dynol, TAW, materion cyfreithiol, trethiant, yswiriant a diogelu.          

Mewngofnodwch neu gofrestru yma.

Help gydag atebolrwydd treth           

Mae CThEM wedi sefydlu llinell gymorth dros y ffôn i gefnogi busnesau a phobl hunangyflogedig sy’n pryderu am fethu talu eu treth oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Ar gyfer y rhai ohonoch chi sy’n methu talu oherwydd coronafeirws, bydd CThEM yn trafod eich amgylchiadau penodol er mwyn edrych ar y canlynol:

  • cytuno ar drefniadau rhandaliadau
  • gohirio gweithrediadau casglu dyledion
  • canslo cosbau a llog os ydych chi’n cael anawsterau gweinyddol gyda chysylltu â CThEM neu dalu ar unwaith

Rhif y llinell gymorth yw 0800 0159 559 –ac mae’n ychwanegol at rifau ffôn cyswllt eraillCThEM.

Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Coronafeirws

Gall busnesau llai sy’n colli refeniw ac sy’n gweld tarfu ar eu llif arian wneud cais am Gynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Coronafeirws(CBILS).

Mae Banc Busnes Prydain yn gweithredu CBILS drwy 40 o arweinwyr achrededig, gan gynnwys banciau’r stryd fawr. Gall busnesau bach fenthyca hyd at £5 miliwn sydd ar gael i’w ad-dalu am hyd at chwe blynedd. Ar gyfer gorddrafftiau a chyfleusterau cyllid anfoneb, bydd y telerau hyd at dair blynedd.  

Bydd y Llywodraeth yn gwneud Taliad Tarfu ar Fusnes ar gyfer y 12 mis cyntaf o daliadau llog ac unrhyw ffioedd a godir gan y benthyciwr. 

Mae’r sawl sy’n derbyn y benthyciad 100% yn atebol am y ddyled.

Mwy o wybodaeth yma.

Banc Datblygu Cymru

Mae gan Fanc Datblygu Cymru gyllid benthyciad ac ecwiti ar gael i fusnesau Cymru ar unwaith. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Banc Datblygu Cymru i ystyried cefnogaeth ychwanegol i helpu busnesau drwy effaith Covid-19. 

I helpu i reoli a chyfyngu ar effaith fasnachol yr afiechyd, maent yn cynnig cyfalaf tri mis a monitro gwyliau ad-daliad ffioedd i bob cwsmer ar gais.   

Mwy o wybodaeth yma.

WCVA –Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymruyn WCVA yn cynnig benthyciadauargyfwng cyflym i sefydliadau’r sector gwirfoddol. Gellir defnyddio’r arian i gefnogi llif arian, i brynu asedau newydd ac i helpu gyda thalu costau nes eich bod yn derbyn hawliadau yswiriant.

Gan fod effaith Coronafeirwsyn taro sefydliadau yn gyflym, mae’r WCVA eisiau gweithredu yn gyflym ac felly mae wedi lleihau’r broses ymgeisio. Mae hyn yn golygu y dylai’r rhan fwyaf o sefydliadau dderbyn taliadau benthyciad o fewn saith diwrnod i gyflwyno a llofnodi cais.                     

Mae gan y rhai sydd â benthyciadau ar hyn o bryd opsiwn i ohirio taliadau.

Mwy o wybodaeth yma.

Magic Little Grants 

Mae Magic Little Grants yn cefnogi prosiectau sy’n annog pobl i ymarfer a chymryd rhan mewn chwaraeon gyda’r prif nod o wella iechyd corfforol cyfranogwyr.            

I ymgeisio, rhaid i sefydliadau fod ag incwm o lai na £250,000 neu yn eu blwyddyn gyntaf yn gweithredu. Gall Magic Little Grants gyllido prosiectau newydd a phresennol yn ogystal â thripiau dydd unigol. 

Mwy o wybodaeth yma.

Money Saving Expert

Mae Martin Lewis o gwmni Money Saving Expert yn gwneud ei ran drwy ryddhau £1 miliwn o’i gronfa elusennol bersonol i ddarparu grantiau o £5,000 i £20,000 isefydliadau sydd â statws elusennol ledled y DU. Bydd yr arian yn cael ei ddyfarnu ihelpu gyda phrosiectau lleddfu tlodi penodol yn y DU sydd â chysylltiad â choronafeirws.

Mwy o wybodaeth yma.

Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaetholwedi lansio apêl codi arian i gefnogi elusennau lleol a sefydliadau ar lawr gwlad sy’n gallu darparu cefnogaeth hanfodol i bobl yn y ffordd gyflymaf bosib. Bydd yn cael ei gweinyddu gan y Groes Goch Brydeinig ar ran yr Ymddiriedolaeth. Gall sefydliadau wneud cais drwy gyfrwng eu sefydliad cymunedol lleol. Gallwch gysylltu â’r Sefydliad Cymunedol ar gyfer Cymru ar 020 7713 9326.

Mwy o wybodaeth yma.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru  

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru wedi newid ei dyddiadau cau ar gyfer ymgeisio am rywfaint o gyllid a oedd i fod i gau yn fuan. Hefyd mae wedi amlinellu y bydd yn hyblyg gyda deiliaid grantiau o ran gwneud newidiadau i amseru. Bydd hefyd yn ystyried ceisiadau am gefnogaeth os bydd sefydliadau’n wynebu pwysau ariannol penodol o ganlyniad i’r sefyllfa. 

Mwy o wybodaeth yma.

I gysylltu, ewch i'r wefan.

Sefydliad Steve Morgan –Gogledd Cymru

Fel ymateb i bandemig Covid-19, mae Sefydliad Steve Morgan wedi cyflwyno cronfa caledi mewn argyfwng. Bydd hyd at £1 miliwn yr wythnos am y 12 wythnos cyntaf yn agored i gefnogi elusennau a chwmnïau dielw sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru, Sir Caer a Glannau Merswy.  

Y nod yw helpu gyda chostau gwasanaethau argyfwng ychwanegol i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan y feirws. Bydd hefyd yn helpu elusennau sy’n colli refeniw o godi arian i ddal ati i weithredu.  

Mwy o wybodaeth yma.