Skip to main content

6 cyngor doeth ar gyfer maeth o dan gyfyngiadau symud

Tîm Maeth Perfformiad Chwaraeon Cymru sy’n siarad am faeth a sut i gynnal deiet iach a chytbwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud. 

Hylendid yn gyntaf

Canolbwyntiwch ar hylendid dwylo wrth baratoi bwyd a’i fwyta. Cofiwch ddilyn yr arfer gorau ar gyfer diogelwch bwyd bob amser. Ddim yn siŵr beth yw hwn? Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.food.gov.uk/food-safety.

 

Prynu’n synhwyrol 

Peidiwch â gwastraffu eich arian na’r lle yn eich basged ar fwydydd a diodydd sy’n “rhoi hwb i’ch imiwnedd”. Ni allwch roi “hwb” i’ch system imiwnedd drwy ddeiet ac ni fydd unrhyw fwyd neu ategolion penodol yn eich atal chi rhag dal COVID-19/Coronafeirws. Arferion hylendid da yw’r ffordd orau o hyd o osgoi haint.       

 

Trefn   

Os ydych chi’n gweithio gartref ac os oes effaith ar eich trefn arferol, ceisiwch lynu at amseroedd  bwyd arferol. Bydd hyn yn helpu i osgoi bwyta byrbrydau diangen neu fwyta cyson. 

 

Lliwiau 

Ceisiwch ddal ati i fwyta enfys o ffrwythau a llysiau o wahanol liwiau. Cofiwch fod rhai wedi’u rhewi neu mewn tun yr un mor faethlon â rhai ffres! 

 

Dulliau 

Stemio, defnyddio popty meicrodon, grilio neu bobi yw’r dulliau coginio gorau ar gyfer gwarchod y cynnwys fitaminau sydd mewn bwyd. 

 

Ffocws ar brydau bwyd

Pan rydych chi’n bwyta, stopiwch weithio, chwarae ar eich iPad a gwylio’r teledu ac ati. Eisteddwch i lawr a chanolbwyntio’n llwyr ar fwyta a mwynhau eich pryd bwyd. 

 

Mwy o wybodaeth ... 

 

  • Am ragor o wybodaeth am faeth yn seiliedig ar dystiolaeth, ewch i wefan y BDA https://www.bda.uk.com/resource/covid-19-corona-virus-advice-for-the-general-public.html.
  • Os ydych chi’n mwynhau coginio ac eisiau manteisio i’r eithaf ar eich cyfnod gartref, chwiliwch am ysbrydoliaeth ar gyfer ryseitiau ar yr ap Newid Am Oes.     
  • Dilynwch ein Maethegwyr Perfformiad ar Instagram yn @SWPNutrition am ryseitiau, cwisiau a llawer o gynnwys arall.