Skip to main content

Chwaraeon yng Nghymru i annog pawb i fod yn actif

Mae darparwyr chwaraeon a hamdden ledled Cymru’n dod at ei gilydd i annog pawb yng Nghymru i fod yn actif yn ystod cyfyngiadau’r Coronafeirws.

Gyda phobl yn treulio mwy o amser gartref a heb fynediad i gyfleusterau hamdden a chwaraeon, mae cadw’n actif ac yn iach yn fwy o her nag erioed.           

Bydd ymgyrch #CymruActif yn ymdrech ar y cyd i helpu pob person yng Nghymru i gadw’n heini, dan do ac yn ystod yr amser sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer ymarfer yn yr awyr agored*.

Bydd ymarferion, cyngor am faeth a chynlluniau ar gyfer sesiynau ar gael ar-lein ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau. 

 

Bydd yr ymgyrch yn cael ei hanelu at bobl o bob gallu a phrofiad, fel bod pawb yn cael cyfle i fod yn actif.                     

  • Gweithgarwch Ysgafn – Gweithgareddau ysgafn yn y cartref ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai, neu sydd â chyfyngiadau symud.
  • Gweithgarwch Cyffredinol – Gweithgareddau ar gyfer pobl sy’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer ac sydd eisiau dal ati i elwa o’r manteision i’w hiechyd.
  • Gweithgarwch Uwch – Ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd ac sydd eisiau hyfforddiant dwysach.

Hefyd bydd Chwaraeon Cymru yn darparu mynediad cynyddol at ei adnoddau i ysgolion, ar gyfer eu defnyddio yn y cartref. 

“Mae wedi bod yn braf iawn gweld cymaint o bobl yn cynnig cefnogaeth eisoes i gael pobl i fod yn actif,” meddai Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.

“Mae pawb yn y byd chwaraeon yng Nghymru eisiau helpu a chwarae eu rhan, yn enwedig ar amser pan mae gofalu am iechyd corfforol a meddyliol yn bwysicach nag erioed.           

“Ein hased enfawr ni yw’r arbenigedd sydd ar gael i ni ac rydyn ni am ei ddefnyddio i ddarparu llawer o ffyrdd amrywiol a diddorol o fod yn actif. 

“Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig peidio â gadael neb ar ôl a dyma pam y byddwn ni eisiau cefnogi gweithgarwch o’r cam cyntaf un ac ymlaen.”

Am fwy o wybodaeth ewch i www.sport.wales/beactivewales

Sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda CymruActif (ar 30/03/2020):

Hoci Cymru

Chwaraeon Anabledd Cymru 

RYA Cymru 

Sboncen Cymru

Athletau Cymru

Rygbi’r Gynghrair Cymru

Bowlio Cymru 

Cymdeithas Bêl-droed Cymru   

Beicio Cymru 

Cymdeithas Jiwdo Cymru 

Chwaraeon Eira Cymru 

Nofio Cymru 

Codi Pwysau Cymru   

Triathlon Cymru

Golff Cymru

*Edrychwch ar y cyfarwyddyd swyddogol presennol ar gadw pellter cymdeithasol.