Skip to main content

Ystafell Fyw Olympaidd – sut mae Natalie Powell yn ymdopi gartref

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ystafell Fyw Olympaidd – sut mae Natalie Powell yn ymdopi gartref

Mae Natalie Powell wedi ailbennu ei nodau ac addasu ei hyfforddiant wrth iddi ddod i arfer â’r penderfyniad i ohirio’r Gemau Olympaidd.         

Mae’n ddull hyblyg o weithio ac mae seren jiwdo Cymru’n credu y gall pawb elwa ohono wrth iddyn nhw geisio cadw’n heini ac iach yn ystod y cyfyngiadau sy’n cael eu gorfodi gan bandemig y coronafeirws.         

Mae Powell, cyn rif 1 y byd, wedi treulio misoedd yn siapio ei gwaith i baratoi ar gyfer Gemau Tokyo yr haf yma. Byddai’r ferch 29 oed wedi cael ceisio gwireddu ei breuddwyd o ennill medal aur yn y Gemau, ond mae’r uchelgais hwnnw wedi cael ei ohirio am 12 mis nawr. 

Yn hytrach, mae’n gorfod hyfforddi yn ei chartref yng Nghaerdydd ac wedyn manteisio i’r eithaf ar ei cherdded dyddiol o amgylch Parc Bute, fel llawer o drigolion eraill rhwystredig y ddinas.                 

Ond ar ôl derbyn y realiti newydd, mae ganddi air o gyngor i bobl eraill.       

“Rydw i’n meddwl ei bod yn bwysig iawn neilltuo amser i ymarfer a chadw’n heini, er mor anodd mae hynny’n teimlo ar hyn o bryd,” meddai rhif 1 y byd yn 2017.

“Edrychwch ar eich wythnos a meddwl, ‘pryd alla’ i gynnwys y sesiynau ymarfer rydw i’n arfer eu gwneud?’ 

“Wrth gwrs, maen nhw’n debygol o fod yn wahanol i’r hyn roeddech chi’n ei wneud o’r blaen. Ond mae cymaint o fideos ar-lein ar gael nawr.       

“Mae cylchedau pwysau’r corff y gallwch chi eu gwneud os ydych chi eisiau canolbwyntio ar gryfder. Neu os ydych chi eisiau canolbwyntio ar gyflyru, eto, mae dosbarthiadau ioga a Pilates ar gael ar-lein. 

“Os gallwch chi fynd ar-lein ac edrych ar y math o bethau y gallwch chi eu gwneud yn eich cartref eich hun, neilltuwch ryw faint o amser ac fe allwch chi gael eich ysbrydoli.”

Mae’r cyfyngiadau presennol yn gallu bod yn fygythiad mawr i iechyd emosiynol pobl – hyd yn oed i’r rhai sydd wedi arfer â brwydrau meddyliol fel seren jiwdo elitaidd sydd ymhlith safleoedd y byd – a dyma pam mae mynd allan i gerdded mor hanfodol. 

Yn wahanol i rai yn ei champ sy’n defnyddio rhedeg i gyrraedd eu categori pwysau, mae Powell yn tueddu i beidio â rhedeg – sy’n golygu mai tawelwch meddwl yw prif nod ei hymarfer yn yr awyr agored. 

“Rydw i wedi bod yn mynd allan am awr dda bob dydd i’r parc ac rydw i’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn er mwyn fy nghadw i’n gall ar hyn o bryd. 

“Dydw i ddim yn rhywun sy’n tueddu i hoffi cerdded fel arfer. Ond mae’n galluogi i mi fynd allan a meddwl drwy bethau. Mae pawb angen strwythur i’w diwrnod ar hyn o bryd.     

“Rydw i’n ffodus bod gen i dîm cefnogi gwych, gan gynnwys seicolegydd, ac rydyn ni wedi siarad drwy bethau. Ond i bawb sydd wedi gweld eu bywyd yn cael ei newid yn fawr, bod yn realistig sy’n bwysig, gosod nodau ac amserlen newydd a darganfod pethau newydd efallai. Rydw i wedi dod o hyd i rannau newydd o’r parc doeddwn i ddim yn gwybod eu bod yn bodoli cynt!”

Mae wedi dysgu’r cyngor arall ei hun. Os ydych chi eisiau osgoi gormod o boeni a straen, cyfyngwch yr amser rydych chi’n ei dreulio’n gwrando ar y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol. 

“I ddechrau, roeddwn i’n gwrando ar bopeth, gan fod bob dim mor ansicr. Ond mae’n gallu bod yn ormod braidd ac wedyn fe benderfynais i beidio ag edrych ar unrhyw beth am wythnos, ac roedd hynny’n help. 

“Nawr rydw i’n cyfyngu beth rydw i’n ei weld ac yn ei ddarllen. Mae amser yn sicr pan fydda’ i’n edrych ar bethau i gael y newyddion diweddaraf ond dydw i ddim yn meddwl ei fod yn iach cael obsesiwn gyda’r peth.”

Efallai bod byd Powell fymryn yn llai erbyn hyn, ond mae’r olwynion yn dal i droi. 

Mae hi a’i phartner hyfforddi, Tom Hughes, sydd hefyd yn byw gyda hi, wedi gallu cael llawer o offer o bencadlys Chwaraeon Cymru. Efallai bod eu planed yn llai ond mae’n dal i droi o leiaf.       

Mae pwysau, matiau, beiciau ymarfer a pheiriant ymarfer sgïo Nordig SkiErg wedi meddiannu’r ystafell fyw. 

“Diolch i’r bobl garedig yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi gallu troi’r tŷ yn gampfa. Mae’n golygu nad ydw i wedi gorfod newid fy rhaglenni o gwbl a dweud y gwir. Mae llond gwlad o bethau yma ac mae’n gas gen i feddwl am orfod mynd â nhw’n ôl!”

Yr unig beth nad yw Powell yn gallu ei wneud yw ei hymarfer Randori – y drefn baffio ar gyfer chwaraewyr jiwdo – ond mae’n gallu ymarfer ar y mat gyda Hughes.

“Dydi pethau ddim yn rhy ddrwg gan fy mod i’n ynysu gyda fy mhartner hyfforddi arferol ac mae fy hyfforddwr i’n gallu cysylltu â ni’n rheolaidd ar Skype. Rydyn ni’n fwy ffodus na rhai o ran bod llawer o bobl yn hyfforddi gyda phartneriaid gwahanol, ond rydw i’n tueddu i wneud llawer mwy o sesiynau un i un gyda Tom, gan wella’r sgiliau mae angen i mi eu gwella.

“I ddechrau, roeddwn i’n siomedig iawn bod y Gemau wedi cael eu gohirio. Ond doedd dim opsiwn arall ac er ei fod yn creu poen meddwl o ran methu gwybod sut bydd y cymhwyso o’r newydd yn gweithredu gyda dyddiadau ac ati, y peth da i mi yw fy mod i wedi bod yn perfformio’n dda yn ddiweddar. 

“Ers i mi symud yn ôl i Gaerdydd rai misoedd yn ôl, rydw i wedi bod yn gwella ac rydw i’n gwybod bod mwy i ddod eto. 

“Roedd fy mherfformiadau diwethaf i’n gymaint gwell na maen nhw wedi bod yn ystod y 18 mis diwethaf. Felly rydw i’n gwybod ’mod i’n gwella eto, sy’n grêt.”