Dydw i ddim am fynd i fanylion am yr holl beth, na chwaith rhoi cyngor i chi am gymhelliant.
Yr hyn rydw i’n mynd i’w wneud yw eich annog chi i gyd i feddwl am fod yn actif oherwydd mae wedi cymryd ychydig mwy na thair wythnos o fyfyrio i mi ddod at hyn, ac fe hoffwn i eich helpu chi gyda hynny nawr.
Peidiwch â nghamddeall i, rydw i wrth fy modd yn eistedd ar y soffa yn fy mhyjamas sydd angen eu golchi fwy na thebyg, yn bwyta llond gwlad o fisgedi ac yn gwylio fy mhlentyn hynaf yn bownsio rownd y lle gyda Joe Wicks. Ond, er lles fy mhen ôl i sy’n prysur dyfu’n enfawr, a fy ymennydd i sy’n prysur fynd yn wallgof, rydw i’n gwybod bod rhaid i mi symud.
Rhaid i mi deimlo fy nghalon yn curo, a chael yr endorffinau i lifo a theimlo’n fyw mewn cyfnod yn ein hanes ni sy’n sefyll yn ei unfan mewn rhyw ffordd.
Ond beth ddylwn i ei wneud? Fe feddyliais i am glecio gwydraid o win a bwyta creision yn fy mhyjamas oedd yn arfer bod ar gyfer achlysuron arbennig ond sy’n arogli braidd yn stêl erbyn hyn.
Ond wedyn fe wnes i feddwl ... fe fyddai’n braf edrych yn ôl a dweud bod y byd wedi stopio ond bod pobl, wel, wedi bod yn actif ar garreg eu drws.
Braidd yn optimistig efallai, sbectol binc hyd yn oed, ond roedd rhaid i Rosa Parks, Martin Luther, a hyd yn oed Lady Gaga, ddechrau yn rhywle gyda’u hymgyrchoedd, doedd?
Felly, gan feddwl am hyn i gyd, (ar raddfa lai wrth gwrs), y pwysau o fod â’r plant gartref, pryder yr anhysbys a’r ansicrwydd ynghylch beth allwn ac na allwn ni ei wneud i helpu’r sefyllfa, fe wnes i ofyn i mi fy hun o ddifrif sut ar y ddaear allwn ni ddechrau bod yn actif neu ddal ati i wneud hynny yn syml ac yn ddiogel?