Skip to main content

Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod adnoddau Addysg ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod adnoddau Addysg ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae adnoddau arbenigol sy’n ceisio gwella sgiliau chwaraeon plant ar gael am ddim i’w defnyddio yn ystod cyfyngiadau’r Coronafeirws.

Mae rhaglenni Chwarae i Ddysgu ac Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig Chwaraeon Cymru yn cael eu defnyddio mewn ysgolion a lleoliadau addysgol ledled Cymru. 

A gyda theuluoedd eisiau ysbrydoliaeth i gadw plant yn actif, mae posib gweld yr adnoddau ar-lein yn awr.   

Mae mynediad at yr adnoddau’n rhan o ymgyrch #CymruActif, sydd wedi gweld Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda sefydliadau yn y byd chwaraeon a hamdden yng Nghymru er mwyn annog pawb i fod yn actif. Nod ymgyrch #CymruActif yw darparu arweiniad a sesiynau fel bod pob person yn gallu cymryd rhan mewn rhyw ffurf ar weithgarwch – o’r rhai sydd eisiau sesiynau ysgafn i ymarferion dwysach.         

“Mae Chwarae i Ddysgu a Champau’r Ddraig yn ddwy o’n rhaglenni craidd ni sydd wedi cael effaith fawr ar bobl ifanc dros nifer o flynyddoedd,” meddai Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.

“Mae’r adnoddau’n canolbwyntio ar helpu plant i ddatblygu sgiliau allweddol i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae meistroli’r sgiliau allweddol ar gyfer chwaraeon mewn ffordd hwyliog a diogel yn golygu eich bod yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan yn y dyfodol. 

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cadw plant yn actif ac yn rhoi digon o amrywiaeth iddyn nhw i’w cymell. Wrth ddefnyddio’r adnoddau yma, gall rhieni fod yn hyderus eu bod yn cadw eu plant yn actif a hefyd yn adlewyrchu’r sesiynau fyddai’n cael eu cynnal yn yr ysgol.”

Mae adnoddau Chwarae i Ddysgu ac Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig ar gael yn www.chwaraeon.cymru

Mae mwy o wybodaeth am lythrennedd corfforol ac ymgyrch #CymruActif ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru: www.chwaraeon.cymru