Skip to main content

Hwb o £4.75m i chwaraeon yng Nghymru gan y Loteri Genedlaethol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hwb o £4.75m i chwaraeon yng Nghymru gan y Loteri Genedlaethol

Bydd bron i £5 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol yn helpu i gefnogi chwaraeon yng Nghymru drwy argyfwng y Coronafeirws.    

Bydd y pecyn gwerth miliynau o bunnoedd yn rhan o’r Gronfa Cadernid Chwaraeon gwerth £8.1 miliwn sydd wedi’i neilltuo gan Chwaraeon Cymru i helpu i warchod y sector chwaraeon yng Nghymru rhag canlyniadau’r cyfyngiadau symud. 

Bydd y Loteri Genedlaethol yn darparu tua £600m ar gyfer achosion da ledled y DU drwy becyn cefnogi Coronafeirws penodol. 

Mae’r Gronfa Cadernid Chwaraeon yn cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i helpu i gefnogi chwaraeon i ddod allan o’r argyfwng a pharhau i gefnogi pobl yng Nghymru i fwynhau bod yn actif.

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies:

“Mae gan chwaraeon yng Nghymru gymaint o ddyled i’r Loteri Genedlaethol dros flynyddoedd lawer, ac eto rydyn ni’n cael cefnogaeth yn ystod cyfnod mor heriol i bawb. 

“Bydd y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi clybiau, cyrff chwaraeon a gweithgareddau amrywiol i oroesi’r argyfwng presennol yma. 

“Rydyn ni’n gweithio’n agos ac yn gyflym gyda’n partneriaid yn y sector ar y defnydd gorau o’r Gronfa Cadernid Chwaraeon. Hefyd mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi dyfarnu arian i glybiau sy’n wynebu risg ariannol ar unwaith.” 

I ddarllen y stori lawn am gyllid y Loteri Genedlaethol i achosion da, cliciwch yma

Clwb Antur Ynys Môn yn angor i'w aelodau yn ystod argyfwng Covid-19.

 

Mae cadw'n heini ac yn actif yn ffordd wych o liniaru straen Covid-19. Ac un sefydliad sy'n sicrhau bod ei aelodau'n cael hwrdd cadarnhaol yw Canolfan Ffitrwydd Codi Pwysau Caergybi a Môn ar Ynys Môn. A hwythau'n dilyn canllawiau'r llywodraeth a chau eu drysau ym mis Mawrth, cyhoeddodd y clwb y gallai aelodau fenthyg dymbelau, belau tegell a chyfarpar arall. Mae'n galluogi pobl leol i gadw'n heini ac yn actif, gan gynnwys Barbara Williams sy'n 80 oed, a rannodd ei sesiwn pwysau unigedd cymdeithasol ar Twitter. 

Mae'r stori llawn ar gael yma