Skip to main content

Diweddariad: Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diweddariad: Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

Annwyl aelodau a defnyddwyr y Ganolfan, 

Rydyn ni’n gobeithio bod pawb yn ddiogel ac yn iach ac yn edrych ymlaen yn fawr at allu agor ein drysau eto a’ch croesawu chi i gyd yn ôl i’r Ganolfan. Mae ein Canolfan yn parhau ar gau yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth ac rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y Ganolfan mewn sefyllfa dda i ddarparu lle diogel a phleserus i chi ymweld ag ef pan fyddwn yn ailagor yn y dyfodol. 

Diweddariad i aelodau Arian ac Aur – ni fydd unrhyw daliadau debyd uniongyrchol pellach yn cael eu cymryd gennych chi. Byddwn yn adolygu’r taliadau yn y dyfodol pan fydd y Ganolfan yn ailagor.

Diweddariad i aelodau Efydd – mae eich aelodaeth wedi cael ei rhewi ers 18fed Mawrth 2020 a bydd adnewyddu aelodaeth yn cael ei adolygu pan fydd y Ganolfan yn ailagor.   

Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cofiwch gysylltu â ni ar e-bost [javascript protected email address]

Cadwch yn ddiogel 

Yn gywir 

Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd, Staff