Skip to main content

Mae’r menig i ffwrdd ... ond mae bod yn actif ar yr agenda o hyd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae’r menig i ffwrdd ... ond mae bod yn actif ar yr agenda o hyd

Fel pob gôl-geidwad, mae Alex Smithies o Glwb Dinas Caerdydd wedi arfer gyda rhywfaint o ynysu.         

Ond mae amddiffynnydd olaf y clwb yn cyfaddef bod y cyfyngiadau presennol yn profi ei allu ef hyd yn oed i fod yn hunanddibynnol a hunangynhaliol. 

Yn ffodus, fel gyda’r rhan fwyaf o bêl droedwyr, mae gan Smithies brofiad o oresgyn amgylchiadau anodd ac mae wedi datblygu penderfyniad sy’n llesol iawn iddo fel athletwr proffesiynol mewn byd heb chwaraeon.

Ac mae ganddo air neu ddau o gyngor i bawb sy’n styc gartref, yn ceisio cadw’r corff a’r meddwl yn iach yn ystod y dyddiau anodd yma.

Dysgu oddi wrth brofiadau’r gorffennol sy’n hollbwysig wrth ddatblygu gwytnwch meddai’r gŵr 30 oed o Sir Efrog, gan gadw meddylfryd positif a dod o hyd i drefn sy’n gwneud i chi deimlo’n gyfforddus.        

Naw mlynedd yn ôl, ac yntau ond yn 21 oed ac yn gwneud cynnydd yng nghlwb ei dref enedigol, Huddersfield, cafodd Smithies anaf difrifol i’w ben-glin ac roedd ofn y byddai’n chwalu ei freuddwyd o ddilyn gyrfa mewn pêl droed cyn iddi prin ddechrau bron. 

“Roeddwn i allan am 11 mis, gyda dwy lawdriniaeth i’r ben-glin,” meddai. “Doeddwn i ddim yn siŵr fyddwn i’n gallu chwarae eto. 

“Roedd yn gyfnod heriol iawn. Roedd y canlyniad yn aneglur. Doedd gen i ddim llawer o yrfa y tu ôl i mi ar y pryd a doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd nesaf i mi. 

“Yn sicr, roedd rhaid i mi fod yn wydn a magu cymeriad er mwyn dod yn ôl o hynny. Yn y byd chwaraeon, rydych chi’n cael eich profi’n gyson – chwarae’n sâl neu gael anaf, neu ddim yn siŵr beth yw’r dyfodol i chi.           

“Rydyn ni i gyd wedi cael ein profi yn ein bywydau ac mae pobl yn cael eu profi mewn ffordd wahanol iawn nawr. 

“Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb yn y DU ac mae pobl yn cael eu herio’n fwy nag erioed o’r blaen. Ond rydw i’n meddwl bod cymeriad cryf pobl Prydain yn dod i’r amlwg ar hyn o bryd.”


Mae Smithies wedi sefydlu ei hun fel dewis cyntaf Caerdydd fel gôl-geidwad y tymor yma ac roedd wedi chwarae rhan flaenllaw yn eu hymgais am ddyrchafiad cyn i’r cyfyngiadau ddod i rym fis diwethaf. 

Ond nid yw pethau wedi bod yn gwbl lyfn ers iddo symud o QPR bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae wedi gorfod bod yn amyneddgar a dangos penderfyniad er mwyn cael ei le yn y tîm cyntaf bob wythnos – yn union fel y gwnaeth ar ôl gadael Huddersfield i chwarae i QPR.

“Weithiau mae’n anodd pan rydych chi’n gweithio’n galed ond ddim yn cael cyfleoedd,” meddai.

“Ond fe ddigwyddodd i fi yn QPR ac yng Nghaerdydd. Fe es i yno a ’wnes i ddim chwarae am y tri mis cyntaf. Fe gymerodd sbel i mi gael fy lle yn y tîm.

“Pan rydych chi’n gweithio’n galed ond heb fawr ddim i’w ddangos am hynny, mae’n rhaid i chi gredu ynoch chi’ch hun. 

“Ond y peth da yw, pan mae’r cyfle’n dod, rydych chi’n manteisio arno, ac wedyn yn teimlo eich bod chi wedi cyflawni llawer iawn.”

Am nawr, mae uchelgais gôl-geidwad yr Adar Gleision – sicrhau dyrchafiad i Gaerdydd i’r Uwch Gynghrair – yn gorfod aros. Fel y rhan fwyaf o’r boblogaeth, mae gartref yn styc ac yn methu gweithio. 

Mae’n wahanol iawn, meddai, i egwyl yr haf gan fod y dyddiad ailddechrau, ar gyfer hyfforddi a chwarae, mor ansicr o hyd. 

Felly, am nawr, mae’n cadw’n heini gartref ac yn cefnogi ei wraig a’i ddwy ferch wrth iddyn nhw, hefyd, addasu i’r byd newydd rhyfedd yma. 

Mae Smithies yn dweud mai’r allwedd i gadw ffocws yw cael strwythur a threfn, hyd yn oed os yw eich amserlen arferol chi wedi mynd allan drwy’r ffenest. 

Iddo ef, mae’n golygu ymarfer yn ei gampfa gartref yn y boreau, ar ôl ymarferion ymestyn, ac wedyn defnyddio ei un trip gwerthfawr bob dydd allan o’i gartref i ddiogelu lles ei deulu. 

“Fe fyddwn i wrth fy modd yn gallu defnyddio’r amser yma i fynd allan i redeg ond, ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y plant yn gallu mynd allan i gerdded bob dydd. Mae’n rhaid iddyn nhw allu mynd allan ac fe fyddai’n gwbl hunanol pe bawn i’n defnyddio fy amser ymarfer y tu allan ar fy nghyfer i yn unig. 

“Rydyn ni’n tueddu i fynd allan gyda’r plant i gerdded. Gan ein bod ni’n byw yng Nghymru, mae llefydd gerllaw sy’n hardd iawn. Rydyn ni’n gallu ynysu a chael awyr iach.

“Rydw i wedi byw yma ers bron i ddwy flynedd nawr ac rydw i’n dod o hyd i lefydd bob dydd nad ydw i wedi’u cerdded o’r blaen. Rydw i’n cario fy mhlentyn dwy oed am gryn dipyn o’r ffordd felly rydw i’n cael llawer o fanteision ymarfer da hefyd.”

Cornel cyngor Alex – cynghorion ar gyfer y meddwl a’r corff 

  1. Mae’r ochr feddyliol yn anodd i bawb. Mae ansicrwydd yn gallu arwain at bryder i bawb. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad gyda phobl, heb fod yn ynysig yn gymdeithasol. 
  2. Defnyddiwch dechnoleg. Rydyn ni 200 milltir oddi wrth ein teuluoedd ni yn Sir Efrog felly rydyn ni wedi bod yn defnyddio ap Zoom i gadw mewn cysylltiad. Rydyn ni wedi dechrau gwneud cwisiau teuluol, sydd wedi bod yn ddifyr iawn.     
  3. Rhaid i chi gael trefn. Rhaid i chi gael ystyr a strwythur i’ch diwrnod, neu fe allwch chi deimlo fel eich bod chi’n gwastraffu’r dyddiau yma. Ysgrifennwch restr o bethau rydych chi eisiau eu gwneud bob dydd. 
  4. Y-M-E-S-T-Y-N: Pan nad ydw i ar y cae ymarfer, rydw i bob amser yn cael 20 i 25 munud o ymestyn cyn ymarfer. Rhaid i chi lacio’r cyhyrau a chynyddu curiad y galon. Hyd yn oed i bobl sydd ddim eisiau gwneud sesiwn hyfforddi llawn, fe fyddwn i’n awgrymu gwneud dipyn o ymarfer oherwydd bydd yn gwneud i chi deimlo’n fwy ystwyth ac mewn gwell siâp. 
  5. Defnyddiwch eich corff. Mae gen i dipyn o offer gartref, ond yn y dyddiau a fu, rydw i wedi gallu gwneud sesiynau gartref gan ddefnyddio pwysau’r corff yn unig – ymarferion pwyso i fyny a  byrpis ac ati. 
  6. Cadwch yn bositif a theimlo’n ddiolchgar. Rydw i’n cael meddyliau positif, ond rhai negatif hefyd. Ond mae fy ngwraig i’n edrych ar yr ochr orau bob amser, felly mae’n dda bod yn ei chwmni hi. Mae hi’n fy nghadw i’n bositif. Edrychwch o’ch cwmpas a gweld beth, a phwy, ddylech chi fod yn ddiolchgar amdano.