Skip to main content

Y cyfyngiadau symud yn tanio brwdfrydedd newydd dros wirfoddoli

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y cyfyngiadau symud yn tanio brwdfrydedd newydd dros wirfoddoli

Yn ôl arolwg cenedlaethol, mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru’n awyddus i wirfoddoli er mwyn chwarae eu rhan mewn helpu chwaraeon ar lawr gwlad i fownsio’n ôl ar ôl argyfwng y Coronafeirws.      

Ar hyn o bryd mae tua 10 y cant o bobl Cymru’n gwirfoddoli mewn chwaraeon*, ond gallai’r nifer hwnnw dreblu’n fuan wrth i 30% o’r oedolion a gymerodd ran yn yr arolwg ar arferion ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud ddweud y byddent yn debygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf er mwyn cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. 

Canfu’r arolwg, a gynhaliwyd gan Savanta ComRes ar ran Chwaraeon Cymru, mai pobl 16 i 34 oed sydd fwyaf awyddus, gyda 44% o’r bobl yn yr ystod oedran hwn yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli. 

Gyda phoblogaeth o ychydig dros dair miliwn yng Nghymru, mae hyn yn awgrymu bod tua miliwn o bobl yn ystyried gwirfoddoli mewn chwaraeon.    

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae gennym ni filoedd o wirfoddolwyr anhygoel eisoes sy’n asgwrn cefn chwaraeon yng Nghymru ac mae’n wych clywed bod grŵp mawr o bobl efallai sydd â brwdfrydedd o’r newydd dros gymryd rhan mewn rhyw ffordd.               

“Rydw i’n gwybod bod mamau a thadau ar hyd a lled y wlad hyd yn oed yn colli’r dyddiau hynny ar y llinell ochr, gyda’r gwynt yn chwythu’n oer a’r glaw yn gyrru ar draws y cae! Wnawn ni fyth eto gymryd manteision anhygoel chwaraeon yn ganiataol a faint rydyn ni i gyd yn mwynhau. 

“Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar y cyd ar hyn o bryd ar gyfer ailgyflwyno chwaraeon ar bob lefel yn ddiogel, a bydd gwirfoddolwyr yn bwysicach nag erioed wrth i ni geisio gwarchod y cyfleoedd chwaraeon rydyn ni wedi gweithio mor galed i’w datblygu yng Nghymru.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, siaradwch gyda’ch clwb lleol i gael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael. Os ydych chi’n rhedeg clwb chwaraeon yng Nghymru ac os hoffech chi gael cyngor ar recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr, ewch i www.atebionclwb.cymru i gael gwybod mwy.   

Arolygodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion Cymru rhwng 8 a 12 Mai. Mae’r data wedi cael eu pwysoli er mwyn bod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a’r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant dan 16 oed. 

*Mae’r ystadegyn hwn wedi dod o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17.

Arolwg yn datgelu arferion ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud

Dyma wybodaeth ryfeddol am lefelau gweithgarwch y genedl yn ystod y cyfyngiadau symud…

Darllen Mwy

Y bwlch anghydraddoldeb wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfyngiadau symud wedi gwaethygu’r bwlch rhwng pobl actif a segur yng Nghymru...

Darllen Mwy