Skip to main content

Arolwg yn datgelu arferion ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Arolwg yn datgelu arferion ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru’n teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed bod yn actif yn ystod argyfwng y coronafeirws, gyda cherdded, ymarferion yn y cartref a loncian yn profi i fod y ffurfiau mwyaf poblogaidd ar ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Mae arolwg sydd wedi’i gynnal gan Savanta ComRes ar ran Chwaraeon Cymru wedi datgelu gwybodaeth ryfeddol am arferion ac ymddygiad gweithgarwch corfforol y genedl yn ystod y cyfyngiadau symud…

Pa weithgareddau mae pobl yn eu gwneud?

Cerdded yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith y bobl hynny sy’n cadw’n actif. Yn ôl yr arolwg, dywedodd 59% o oedolion Cymru eu bod wedi cerdded fel hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda’r grŵp oedran 55+ oed y mwyaf tebygol o fod wedi gwneud hyn.   

Mae Joe Wicks wedi cael dylanwad yng Nghymru yn sicr, gyda 30% o bobl yn gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf, naill ai drwy ddilyn fideo neu ymarfer ar-lein, neu drwy greu eu sesiwn eu hunain. Mae’r math yma o weithgaredd ffitrwydd wedi profi’n fwy poblogaidd fyth ymhlith pobl 16 i 34 oed, gan fod hanner y grŵp oedran hwn wedi dweud eu bod wedi gwneud ymarfer yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf. 

Roedd dwy ran o dair (66%) o’r rhai wnaeth ymarferion ar-lein wedi eu gwneud drwy YouTube, a 3% wedi eu cael drwy dudalennau #CymruActif ar wefan Chwaraeon Cymru. Roedd un deg pedwar y cant o bobl wedi bod yn loncian neu’n rhedeg yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda phobl 16 i 34 oed y rhai mwyaf awyddus i wneud hynny, a 10% wedi bod yn reidio beic.

Faint o ymarfer mae pawb yn ei wneud?        

Dywedodd dau ddeg chwech y cant o rieni bod eu plant yn gwneud mwy o weithgarwch nag arfer yn ystod y cyfyngiadau symud, a dywedodd 35% bod eu plant yn gwneud llai.             

Ymhlith oedolion, nid yw lefelau cyffredinol y gweithgarwch corfforol wedi newid yn sylweddol – mae 34% yn dweud eu bod yn gwneud mwy yn ystod y cyfnod yma na chyn cyfyngiadau COVID-19, a 33% yn dweud eu bod yn gwneud llai – ond mae arwyddion bod pobl oedd yn actif eisoes cyn sefydlu’r cyfyngiadau yn fwy actif yn gyffredinol yn awr. 

Er nad yw 22% o oedolion wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol o 30 munud neu fwy yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd 59% eu bod wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch am dridiau neu fwy, ac mae traean o oedolion Cymru wedi gwneud gweithgarwch ar bum diwrnod neu fwy. 

O blith y rhai oedd wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd 72% o’r rhai a oedd wedi bod yn rhedeg neu’n loncian eu bod wedi gwneud mwy nag y byddent yn ei wneud fel arfer mewn wythnos arferol, roedd 67% o’r rhai oedd wedi beicio fel hamdden wedi gwneud mwy nag arfer ac roedd 62% wedi gwneud mwy o ddosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer gartref (naill ai drwy greu eu sesiwn eu hunain neu ddilyn fideo) nag y byddent wedi’i wneud fel arfer, cyn i’r cyfyngiadau ddechrau.

Teimladau tuag at ymarfer

Roedd mwy na hanner (51%) yr oedolion yn teimlo bod y sefyllfa bresennol wedi cael effaith ar eu trefn ymarfer, a dywedodd 49% eu bod wedi canfod ffyrdd newydd o fod yn actif ers yr argyfwng.  

Dywedodd dau o bob tri oedolyn (67%) eu bod yn ymarfer er mwyn helpu i reoli eu hiechyd corfforol a dywedodd 62% eu bod yn cadw’n actif er mwyn helpu i ofalu am eu hiechyd meddwl. 

Fodd bynnag, er gwaetha’r parodrwydd cyffredinol i fod yn actif, dim ond 56% o oedolion ddywedodd eu bod yn mwynhau ymarfer ac yn teimlo ei fod yn rhoi boddhad iddynt yn ystod y cyfnod hwn. Ymhlith y rhesymau dros hyn roedd y ffaith bod 40% o oedolion yn dweud nad ydynt yn teimlo bod ymarfer ar eu pen eu hunain yn bleserus. Mae merched, oedolion iau a’r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud hyn.

Ymarfer ar eu pen eu hunain neu gyda phobl eraill?

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae pobl wedi bod yn ymarfer ar eu pen eu hunain. Roedd wyth deg y cant o’r bobl oedd wedi bod allan yn loncian yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi gwneud hynny ar eu pen eu hunain, ac roedd 75% o’r rhai wnaeth ymarfer gartref wedi gwneud hynny ar eu pen eu hunain, a 64% o feicwyr wedi bod yn beicio ar eu pen eu hunain hefyd.

Cerdded fel hamdden yw’r gweithgaredd sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael ei wneud gydag oedolyn arall (roedd 45% o’r bobl a gerddodd fel hamdden wedi gwneud hynny gydag oedolion eraill), ond chwarae actif anffurfiol/gemau yw’r gweithgarwch sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael ei wneud gyda phlant – roedd 49% o’r rhai a wnaeth y gweithgarwch hwn wedi gwneud hynny gyda phlant.

Er bod 66% yn cytuno bod ganddynt fwy o amser nawr i fod yn actif yn gorfforol, mae 44% o oedolion yn teimlo’n euog am beidio ag ymarfer mwy yn ystod yr argyfwng. Mae pedwar deg wyth y cant o oedolion yn poeni am adael y tŷ i ymarfer neu fod yn actif, ac mae 15% yn teimlo nad oes ganddynt gyfle i fod yn actif yn gorfforol. Pobl dros 35 oed oedd fwyaf tebygol o deimlo fel hyn.    

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r arolwg, dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru Brian Davies: “Er bod hwn yn gyfnod digynsail o ansicrwydd a phryder, mae’n grêt gweld bod nifer fawr o bobl yng Nghymru’n dal ati i fod yn actif yn ystod y cyfyngiadau symud, ac wedi cydnabod pwysigrwydd gwneud hynny.  

“Fe ddaeth yr un ymarfer dyddiol yn rhywbeth i’w werthfawrogi’n fawr yn sicr yn ystod wythnosau cynharaf y cyfyngiadau pan oedd rhyddid yn brin i bawb, ac i lawer mae ymarfer wedi bod wrth galon eu hamser fel teulu wrth iddyn nhw geisio cael y gorau o sefyllfa anodd.  

“Bydd gwybodaeth fel hon yn rhan allweddol o’n gwaith ni er mwyn sicrhau bod ein sector yn datblygu dealltwriaeth barhaus o oblygiadau COVID-19 i chwaraeon yng Nghymru.”

Arolygodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion Cymru rhwng 8 a 12 Mai. Mae’r data wedi cael eu pwysoli er mwyn bod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a’r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant dan 16 oed. 

Y bwlch anghydraddoldeb wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfyngiadau symud wedi gwaethygu’r bwlch rhwng pobl actif a segur yng Nghymru...

Darllen Mwy

Y cyfyngiadau symud yn tanio brwdfrydedd newydd dros wirfoddoli

Yn ôl arolwg cenedlaethol, mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru’n awyddus i wirfoddoli er mwyn chwarae…

Darllen Mwy